- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Clefyd yr Arennau
Atal
Os ydych yn dioddef o afiechyd cronig sy’n gallu achosi clefyd yr arennau, megis diabetes neu bwysedd gwaed uchel, mae’n bwysig eich bod yn rheoli’r afiechyd hwnnw’n ofalus. Dylech wrando ar y cyngor a roddir i chi gan weithwyr iechyd proffesiynol a chadw pob apwyntiad sy’n gysylltiedig â’r afiechyd hwnnw. Argymhellir bod pobl sy’n dioddef o ddiabetes yn cael prawf o leiaf unwaith y flwyddyn i weld pa mor dda mae eu harennau’n gweithio.
Os ydych chi’n un o’r rheini sydd mewn perygl o ddatblygu’r clefyd, mae sawl peth y gallwch ei wneud er mwyn helpu i atal clefyd yr arennau ac afiechydon cronig eraill:
Dylech fwyta deiet iach a chytbwys
Mae deiet iach yn un sy’n isel o ran braster (yn enwedig braster dirlawn), halen a siwgr ychwanegol. Dylech anelu at fwyta deiet cytbwys, sy’n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau ffres (o leiaf bum cyfran y dydd) a bwydydd startshlyd megis bara, pasta a thatws. Drwy fwyta deiet iach a chytbwys, rydych yn llai tebygol o gael clefyd y galon a bydd hefyd yn eich helpu i gadw lefel eich pwysedd gwaed yn iach.
Dylech yfed digon o ddŵr
Mae methiant yr arennau yn gysylltiedig â dadhydradu, felly dylech osgoi hyn drwy yfed digon o ddŵr.
Dylech yfed llai o alcohol
Gall yfed gormod o alcohol olygu eich bod yn magu gormod o bwysau ac mae hefyd yn eich dadhydradu. Dylech osgoi yfed mwy na’r unedau a argymhellir o alcohol, sef 2-3 uned y dydd ar gyfer menywod a 3-4 uned y dydd ar gyfer dynion.
Dylech roi’r gorau i ysmygu!
Os ydych yn ysmygu, rydych yn fwy tebygol o gael clefyd yr arennau, yn enwedig os oes diabetes arnoch hefyd. Gall ysmygu achosi afiechydon cronig eraill hefyd, felly pa un a ydych yn un o’r rheini sydd mewn perygl o gael clefyd yr arennau ai peidio, ewch ati i chwilio am gymorth i roi’r gorau i ysmygu! Dim Smygu Cymru 0800 085 2219.
Dylech ymarfer corff yn rheolaidd
Argymhellir eich bod yn gwneud deng munud ar hugain o ymarfer corff cymedrol y dydd, o leiaf bum gwaith yr wythnos. Dylai’r ymarfer corff fod yn ddigon egnïol i gyflymu curiad eich calon a’ch gwneud ychydig yn fyr eich gwynt. Os yw hynny’n haws, gallwch ymarfer corff am ddeng munud ar y tro. Gall dim ond mynd am dro cyflym neu gerdded i fyny’r grisiau helpu.
Lle i gael cymorth a chyngor
Sefydliad Aren Cymru (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
Kidney Research UK (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru - 01792 891774
