- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Sglerosis ymledol: byw gyda chyflwr hirdymor
Achosir MS gan ddifrod i'r myelin - yr hyn sy'n gwarchod ffibrau'r nerfau yn ein hymennydd a'n hasgwrn cefn. Fel rheol caiff ei ddiagnosio mewn pobl rhwng 20 a 40 oed, er ei fod wedi'i ddiagnosio mewn plant mor ifanc â dwy ac oedolion yn eu 50au.
Mae MS yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol
Gan fod MS yn effeithio ar yr ymennydd a'r asgwrn cefn (y system nerfol ganolog), mae'n gallu effeithio ar unrhyw ran o'r corff. Mae rhai symptomau yn fwy cyffredin na'i gilydd:
- blinder
- problem cydbwysedd
- diffyg teimlad neu binnau bach
- cyhyrau'n stiff neu'n gwingo
- yn ogystal â phroblemau ar y
- golwg neu gyda'r bledren.
Mae MS y rhan fwyaf o bobl yn dechrau gyda phyliau o symptomau. Dilynir hyn gan gyfnodau lle mae'r symptomau'n lleihau neu'n diflannu hyd yn oed am gyfnod. I lawer o bobl, yn nes ymlaen mae'r cyflwr yn datblygu'n raddol gyda'r symptomau yn gwaethygu.
I bawb, mae'n achosi ansicrwydd ynghylch sut y gallai effeithio arnyn nhw yn y dyfodol ac mae'n codi cwestiynau am y ffordd orau o reoli'r cyflwr hwn sy'n para drwy gydol bywyd person.
Sut mae ei drin?
Er nad oes ffordd o wella MS, mae yna therapïau a chyffuriau sy'n helpu llawer o bobl i reoli eu symptomau. Ac i rai pobl, mae yna gyffuriau a allai leihau nifer y pyliau a gânt.
Effaith seicolegol
Ar ôl y diagnosis, gall rhai pobl deimlo rhyddhad eu bod o'r diwedd yn deall achos eu symptomau. Efallai y bydd eraill yn teimlo sioc, yn ofnus, yn drist neu'n grac hyd yn oed. Mae'r rhain i gyd yn ymatebion naturiol. Efallai yr aiff rhai ymlaen i deimlo'n bryderus, yn isel ac i gael hwyliau amrywiol ac mae'n bwysig bod arbenigwyr yn helpu ac yn cefnogi pobl.
Deiet iach, cytbwys
Gall deiet sy'n iach ac yn gytbwys yn gyffredinol helpu unrhyw un i aros mor iach â phosibl. Nid oes angen i'r rhan fwyaf o bobl sydd ag MS ddilyn deiet arbennig, cymryd fitaminau na thorri allan unrhyw fathau penodol o fwyd. Mae rhai pobl yn cael cymorth gan ddeietegydd os yw eu symptomau MS yn ei gwneud yn anodd bwyta rhai bwydydd neu os ydynt yn colli neu'n magu llawer o bwysau.
Ymarfer corff
Mae ymarfer corff mor bwysig i bobl ag MS ag i unrhyw un arall - er bod MS weithiau yn ei gwneud yn anoddach dod o hyd i ddull ymarfer priodol. Yn ogystal â chadw'n heini yn gyffredinol, gall ymarfer corff helpu pobl ag MS i gadw eu cyhyrau a'u cymalau yn hyblyg ac yn gryf.
Lle i gael cymorth a chyngor
Mae Llinell Gymorth MS yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol a gwybodaeth i unrhyw un y mae MS yn effeithio arno, gan gynnwys teulu, ffrindiau a gofalwyr.
Rhadffôn 0808 800 8000 (dyddiau'r wythnos 9am-9pm) neu e-bost helpline@mssociety.org.uk
For more information visit - MS Society Cymru (dolen allanol)
