- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Strôc
P’un a ydych wedi cael strôc ai peidio, mae’n werth gwybod sut i atal strôc rhag digwydd
Atal
Dylech archwilio'ch pwysedd gwaed yn rheolaidd. Pwysedd gwaed uchel yw'r ffactor fwyaf peryglus ar gyfer strôc. Gall newidiadau syml i'ch ffordd o fyw a'r feddyginiaeth iawn eich helpu i leihau'r risg.
Ewch i dudalen Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Gofynnwch Gyntaf i helpu i atal strôc wedyn’ am ragor o wybodaeth.
Ysmygu
Mae'n dyblu'ch siawns o gael strôc. Mae hyn oherwydd bod ysmygu yn atal eich rhydwelïau ac yn effeithio ar y gwaed, gan ei wneud yn fwy tebygol o geulo. Gall rhoi'r gorau i ysmygu fod yn anodd, ond mae help ar gael. Cysylltwch â'r Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru ar 0800 169 0 169.
Gordewdra
Os ydych chi'n wirioneddol ordew, mae'r risg o ddatblygu pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a diabetes yn uwch. Mae hyn i gyd yn cynyddu'ch siawns o gael strôc.
Ymarfer corff
Mae'n eich helpu i gadw pwysau iach, yn lleihau colesterol a'r risg o ddatblygu diabetes, pwysedd gwaed uchel a bod yn ordew. Mae 30 munud o ymarfer corff bum gwaith yr wythnos sy'n gwneud i chi anadlu ychydig yn gyflymach nag arfer yn ddigon i leihau'r risg o strôc.
Bwyta'n iach
Mae'n eich helpu i reoli'ch pwysau a chadw'ch rhydwelïau'n iach. Gallwch leihau faint o halen a braster dirlawn sydd yn eich deiet drwy fwyta llai o fwyd wedi'i brosesu. Dylech fwyta pum darn o ffrwythau a llysiau bob dydd, a dylech ddewis bwydydd grawn cyflawn sy'n llawn ffibr.
Alcohol
Peidiwch ag yfed mwy na'r cyfanswm sy'n cael ei argymell (dim mwy na 2-3 uned y dydd i fenywod, a dim mwy na 3-4 uned y dydd i ddynion). Gall goryfed mewn pyliau achosi i'ch pwysedd gwaed gynyddu'n gyflym, sy'n cynyddu'r risg o gael strôc yn ddifrifol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am strôc, cysylltwch â'r Gymdeithas Strôc. Maent yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi cael strôc a'u teuluoedd drwy ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau adfer a chymorth.
Llinell Gymorth Strôc: 0845 3033 100
E-bost: info@stroke.org.uk
Gwefan: The stroke association (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i adnabod symptomau strôc, ewch i Strôc - Gweithredu'n Gyflym FAST (dolen allanol)
