Skip to content

Ffitrwydd

Dolenni perthnasol

Nod 5x60 yw cael pobl ieuainc i fod yn egnïol am o leiaf 60 munud 5 gwaith yr wythnos.
Gall plant o dan 16 oed nofio am ddim yn ystod gwyliau o'r ysgol.
Diben Campau'r Ddraig yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7 - 11 oed.
Ffitrwydd
Sicrhewch fod gweithgarwch corfforol yn rhan o'ch bywyd bob dydd.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ymgymryd â digon o weithgareddau corfforol i fod o fantais i'w hiechyd. Dywed arbenigwyr bod angen i oedolion wneud o leiaf 30 munud o ymarfer corff sy'n eu gadael ychydig bach allan o wynt o leiaf pum diwrnod yr wythnos. Dylai plant a phobl ifanc anelu at 60 munud.  Gallwch ychwanegu cyfnodau ar wahân i wneud y cyfanswm.

Gallai bod yn fwy heini olygu:

  • Cerdded neu feicio un ai i'r gwaith neu i'r siopau.
  • Cerdded yn yr awyr agored.
  • Defnyddio'r grisiau yn hytrach na'r lifft.
  • Ymgymryd â diddordebau fel garddio neu ddosbarth dawnsio.
  • Chwarae gyda'ch plant yn y parc.

Goresgyn rhwystrau:

  • Nid oes yn rhaid ichi fod yn heini i ddechrau.  Gallwch gynyddu eich lefel gweithgaredd yn raddol.
  • Os ydych chi'n cael trafferth i wneud gweithgaredd, yna beth am ei gynnwys yn eich amserlen ddyddiol, fel defnyddio'r grisiau yn hytrach na'r lifft.
  • Nid oes yn rhaid iddo fod yn gostus, nid oes angen ymuno â'r gym; gallwch gerdded a loncian am ddim!
  • Os yw ysgogi eich hun yn ymdrech, ceisiwch ymarfer gyda'ch ffrindiau neu gyda'ch teulu.
  • Os ydych chi'n pryderu y gallai  cyflwr meddygol eich atal rhag ymarfer, siaradwch â'ch meddyg teulu a chael cyngor ar beth y gallwch ei wneud. 

Dolenni cysylltiedig allanol

Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig) 
Big Fat Problem (Saesneg yn unig)
Rhaglen Cleifion Arbenigol Cymru
Comisiwn Coedwigaeth Cymru (Saesneg yn unig)
Cyngor Chwaraeon Cymru 
Teithiau Trefol (Saesneg yn unig)
Cerdded Llwybr Iechyd Cymru (Saesneg yn unig)
Yoga yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Find a Sport Buddy (Saesneg yn unig)
Chartered Society of Physiotherapy (Move for health campaign) (Saesneg yn unig)