- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Bwyd
Cynllunio eich prydau
Rydych yn ymwybodol mae’n debyg os ydych yn bwyta gormod ar gyfer eich lefel o weithgaredd gorfforol. Felly os ydych yn gorfwyta’n rheolaidd, yna dechreuwch gynllunio pa brydau y byddwch yn eu bwyta pob dydd, gan gynnwys pryd i dretio eich hun. Bydd hyn yn helpu i chi osgoi bwyta yr opsiynau haws llai iach neu’n lleihau unrhyw demtasiwn i gael cludfwyd munud olaf. Paratowch restr siopa ar gyfer eich cynllun bwyd a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prydau rheolaidd.
Cael y cydbwysedd iawn
Mae deiet cytbwys yn golygu un rhan o:
- dair o ffrwythau a llysiau;
- un rhan o dair o fwyd yn cynnwys starts (pasta, bara, tatws, reis);
- a’r un rhan o dair sy’n weddill yn gig/pysgod/llaeth/cynnyrch llaeth a braster/siwgr.
Edrychwch ar Blât Bwyta'n Iach (dolen allanol) yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n dangos y cyfraneddau hyn.
Seiliwch eich prydau ar fwydydd sy’n cynnwys starts, yna ychwanegwch ffrwythau ac/neu lysiau. Er enghraifft, os ydych yn bwyta pasta, ychwanegwch ddigon o lysiau fel madarch, winwns a phupur yn ogystal ag ychydig o gig neu ddewis arall.
Bwyta eich 5-y-dydd
Bwytwch amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau gan mai’r nod yw cael o leiaf pum cyfran gwahanol y dydd. Mae cyfran yr un maint ag afal canolig. Mae bîns, sudd oren a llysiau tun yn cyfri tuag at eich 5 y dydd. Os gawsoch chi sudd oren â’ch brecwast, dau gyfran o lysiau gyda chinio (er enghraifft moron a pys), yna madarch a winwns yn eich swper pasta – dyna chi! Mae cael ffrwythau fel pwdin neu byrbryd yn ffordd hawdd arall o gael 5 y dydd.
Lleihau braster
Ceisiwch osgoi bwyta bwyd sydd â lefelau uchel o fraster, yn enwedig braster dirlawn. Mae’n bosibl ichi leihau faint o fraster yr ydych yn ei fwyta trwy newid i fwydydd braster isel, defnyddio cyn lleied â phosibl o fenyn ar eich bara, a thorri’r braster oddi ar gig. Defnyddiwch ychydig o olew blodyn yr haul neu olew olewydd wrth goginio.
Osgoi siwgr!
Ceisiwch fwyta byrbrydau iach yn rheolaidd, fel ffrwythau, ac yfed mwy o ddŵr, neu ddiodydd heb lawer o galorïau. Mae bwyta prydau rheolaidd, yn enwedig brecwast, yn helpu i chi osgoi bwyta rhwng prydau.
Defnyddio’r gril
Mae coginio yn y ffwrn, grilio neu ddefnyddio’r meicrodon yn ffyrdd llawer iachach o goginio bwyd. Ceisiwch grilio eich selsig neu facwn braster isel, ychwanegu tomato a madarch wedi’i grilio (rhan o’ch 5 y dydd), ac yn olaf ŵy wedi’i sgramblo a darn o dost brown.
Dim halen
Ni ddylai pobl fwyta mwy na 6 gram o halen y dydd, dim ond llwy de yw hyn. Mae rhan fwyaf o’r halen yr ydym yn ei fwyta eisoes yn y bwyd yr ydym yn ei brynu. Rhowch y gorau i ddefnyddio halen, ac mewn amser byddwch yn dod i arfer â bwyd heb halen ynddo. Yn wir, mae’n well blasu blas da eich bwyd!
Edrychwch ar y label
Chwiliwch am labeli bwyd golau traffig yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae’r symbolau coch, oren a gwyrdd yn dangos a yw’r bwyd yn cynnwys llawer o halen, siwgr a braster. Dewiswch fwydydd sydd â mwy o wyrdd, gan osgoi y bwydydd sydd â llawer o lefelau coch neu oren. Os nad yw’r bwyd yn defnyddio’r system golau traffig, yna edrychwch ar y pecyn, gan osgoi bwydydd sy’n cynnwys mwy na’r canlynol fesul 100 gram:
- 15 gram o siwgr
- 20 gram o fraster
- 5 gram o fraster dirlawn
- 0.6 gram o sodiwm neu 1.5 gram o halen
Yfed digon o ddŵr
Ceisiwch yfed chwech i wyth o wydrau y dydd, sef dwy litr neu 3.5 peint. Mae diodydd poeth, sudd a llaeth yn cyfrif, ond bydd alcohol yn eich dadhydradu. Yn wir, ceisiwch gyfyngu faint o alcohol yr ydych yn ei yfed; gall dynion yfed 3-4 uned y dydd yn ddiogel, a merched 2-3. Mae hefyd yn bwysig i gael un diwrnod yr wythnos o leiaf heb yfed alcohol, ac os ydych yn feichiog mae’n well peidio ag yfed o gwbl.
Byddwch yn realistig
Peidiwch â disgwyl newid eich ffordd o fwyta yn syth, neu hyd yn oed mewn mis neu ddau. Rydych yn anelu at fod yn iach gydol eich bywyd, felly edrychwch y tu hwnt i’r adeg y byddwch yn pwyso eich hun yr wythnos nesaf! Ceisiwch ddatblygu arferion bwyta iachach fesul tipyn. Gwnewch hyn fesul cam, felly os ydych wedi llwyddo i beidio defnyddio halen, yna mae’n amser i symud ymlaen i gynllunio eich prydau pob wythnos. Os oes gennych blant, fe fyddant yn dysgu eu harferion bwyta gennych chi, felly mae’n bwysig dangos iddynt pa mor bwysig yw bwyta’n iach.
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi datblygu nifer o weithgareddau rhyngweithiol ar ei gwefan Eatwell. Mae’r rhain yn cynnwys cwisiau, gemau a chyfrifyddion sy’n eich helpu i weld beth yw ffordd o fyw iach.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.eatwell.gov.uk (external link)
Dolenni cysylltiedig allanol
Big Fat Problem - www.bbc.co.uk/bigfatproblem (Saesneg yn unig)
Sefydliad Maetheg Prydain - www.nutrition.org.uk (Saesneg yn unig)
Sefydliad Prydeinig y Galon - www.bhf.org.uk (Saesneg yn unig)
Cymdeithas Ddieteteg Prydain - www.bdaweightwise.com (Saesneg yn unig)
