- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Imiwneiddio
Yn ystod y 200 mlynedd diwethaf, y ddau beth sydd wedi cyfrannu fwyaf at wella iechyd yw dŵr glân ac imiwneiddio. Mae’r rhain yn arbed miliynau o fywydau ledled y byd bob blwyddyn.
Ffordd o greu imiwnedd i heintiau penodol yw imiwneiddio. Mae’n defnyddio brechlynnau sy’n cynnwys antigenau cymharol ddiniwed (moleciwlau) sy’n dod o’r micro-organebau sy’n achosi’r clefydau, neu ficro-organebau sy’n debyg iddynt. Gall micro-organebau fod yn feirysau, fel y frech goch, neu gallant fod yn facteria fel twbercwlosis.
Mae brechlynnau yn ysgogi’r system imiwnedd i adweithio fel pe bai haint go iawn yn bresennol. Mae’r system imiwnedd wedyn yn ymladd yr haint ac yn cofio’r organeb er mwyn gallu ei ymladd yn gyflym os daw ar ei draws eto.
Diolch i imiwneiddio, mae’r frech wen wedi diflannu ac nid yw’r rhan fwyaf o rieni’r DU heddiw erioed wedi gweld plentyn yn cael ei anablu gan bolio. Mae heintiau eraill fel difftheria neu detanws yn brin iawn.
Oherwydd llwyddiant rhaglenni imiwneiddio yn y DU, mae’n hawdd credu ein bod yn ddiogel rhag heintiau fel polio a’r frech goch. Fodd bynnag, nid yw’r clefydau hyn byth yn bell iawn oddi wrthym ond prin y byddwn yn eu gweld yn y DU oherwydd cyfraddau uchel brechu.
Yn dilyn dirywiad yn y cyfraddau brechu rhag y pas ddiwedd y 1970au, cododd nifer yr achosion yn ddramatig. Yn yr un modd, yn dilyn cyhoeddusrwydd negyddol di-sail am y brechlyn MMR ym 1998, syrthiodd cyfraddau’r brechu, a arweiniodd at gynnydd yn nifer achosion y frech goch yn y DU.
Mae llawer o wledydd eraill yn dal i weld cyfraddau haint uchel ac mae dinasyddion Prydain mewn perygl o ddal yr heintiau hyn wrth deithio dramor, neu o ddod â nhw’n ôl i’r DU. Os ydych yn cynllunio trip dramor, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu, nyrs eich practis neu eich clinig iechyd teithio. Mae imiwneiddio yn bwysig i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdeithas yn iach.
Ewch at dudalen imiwneiddio Llywodraeth Cynulliad Cymru am restr o daflenni gwybodaeth imiwneiddio (dolen allanol)
Dolenni cysylltiedig allanol
NHS Immunisation Information - www.immunisation.nhs.uk (Saesneg yn unig)
Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk (Saesneg yn unig)
