Skip to content

Heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd

Dwylo yn cael ei olchi
Heintiau y bydd pobl yn eu dal ar ôl cael gofal iechyd yw heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd

Bacteria'r cleifion eu hunain sy'n achosi’r rhan fwyaf o'r heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Er bod heintiau difrifol yn brin, amcangyfrifir y bydd 9% o’r holl gleifion mewnol ar unrhyw adeg yn dal haint tra byddant yn yr ysbyty.

Gellir osgoi'r rhan fwyaf o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, ond nid pob un ohonynt, drwy wella'r trefniadau ar gyfer eu hatal a'u rheoli, drwy ddefnyddio'r wybodaeth sydd gennym eisoes yn well a thrwy arferion da. Un o'r ffyrdd pwysicaf o atal yr heintiau hyn yw sicrhau bod staff gofal iechyd yn golchi eu dwylo cyn archwilio unrhyw glaf, ac ar ôl ei archwilio.

Yng Nghymru, mae Ymddiriedolaethau'r GIG wedi cyflwyno nifer o fentrau er mwyn trechu heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a'u hatal rhag cael eu lledaenu, ac er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb personol hwy i fynd i'r afael â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Diogelwch Cleifion wedi sefydlu ymgyrch 'glanhewch eich dwylo'. Diben yr ymgyrch hon yw mynd i'r afael â'r llu o resymau cymhleth sy'n gyfrifol am y ffaith bod cyn lleied o bobl yn golchi eu dwylo, ac i helpu ysbytai'r GIG i fynd i'r afael â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Clean your hands (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Dolenni cysylltiedig allanol

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Welsh Healthcare Associated Infection Programme (Saesneg yn unig)
Patient Safety Agency (Saesneg yn unig)