Skip to content

Heintiau a drosglwyddir trwy ryw

Heintiau a drosglwyddir trwy ryw

Defnyddiwch gondom i amddiffyn eich hun.

Mae rhai heintiau'n cael eu lledaenu drwy gael rhyw heb ddiogelwch drwy'r wain, yr anws neu'r geg neu drwy rannu teganau rhyw. Gelwir heintiau sy'n cael eu lledaenu fel hyn yn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Er mwyn cael rhyw diogel, rhaid i chi ddefnyddio condomau'n iawn bob tro y byddwch yn cael rhyw. Os na fyddwch yn defnyddio condom, mae mwy o berygl i chi ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol. Nid oes yn rhaid i chi gael llawer o bartneriaid rhywiol cyn dal haint o'r fath.

A ellir eu trin?

Gellir trin y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac fel arfer, gorau po gyntaf y dechreuir y driniaeth. Nid yw rhai heintiau, megis HIV a herpes, byth yn gadael y corff ond mae cyffuriau ar gael sy’n lleddfu'r symptomau ac sy'n helpu i atal cymhlethdodau rhag datblygu, neu i'w gohirio. Os nad ydynt yn cael eu trin, gall llawer o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fod yn boenus neu'n anghyfforddus, gallant achosi niwed parhaol i'ch iechyd a'ch ffrwythlondeb, a gallech eu rhoi i rywun arall.  

Sut bydda' i'n gwybod bod haint arna' i?

Nid oes arwyddion a / neu symptomau ar bawb sydd â heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Weithiau, nid yw'r rhain i'w gweld am wythnosau neu am fisoedd ac weithiau, byddant yn diflannu, ond mae'n bosibl bod yr haint arnoch o hyd, a gallwch ei roi wedyn i rywun arall. Os oes unrhyw un o'r symptomau hyn arnoch, dylech ofyn am gyngor:

  • rhedlif anarferol o'r wain;
  • rhedlif o'r penis;
  • poen neu losgi pan fyddwch yn gwneud dŵr;
  • cosi, brech, lympiau neu bothelli o amgylch yr organau rhywiol neu'r anws;
  • poen a / neu waedu wrth gael rhyw;
  • gwaedu rhwng y mislif (gan gynnwys menywod sy'n defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd);
  • gwaedu ar ôl cael rhyw;
  • poen yn y ceilliau neu yng ngwaelod yr abdomen.

Hyd yn oed os nad oes unrhyw arwyddion a / neu symptomau, efallai y byddwch am ofyn am gyngor neu gael archwiliad, yn enwedig:

  • os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch yn ddiweddar gyda phartner newydd;
  • os ydych chi neu'ch partner rhywiol yn cael rhyw gyda phobl eraill heb ddefnyddio condom.

Ble galla' i fynd os wyf i'n poeni bod haint arna' i?

Gallwch gael y profion i gyd, a'r driniaeth, mewn clinig meddygaeth genhedlol-wrinol neu mewn clinig iechyd rhywiol. Mae’n bosibl y bydd rhai practisau cyffredinol, clinigau atal cenhedlu, gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc a rhai fferyllfeydd yn gallu cynnig profion ar gyfer rhai heintiau. Os na allant gynnig yr hyn sydd ei angen arnoch, byddant yn gallu rhoi manylion y gwasanaeth agosaf a all eich helpu. Mae'r holl gyngor, yr wybodaeth a'r profion yn rhad ac am ddim, ond os byddwch yn mynd at bractis cyffredinol, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am bresgripsiwn.  

Sut galla' i fy amddiffyn fy hun rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol?

  • Defnyddiwch gondomau ar gyfer dynion neu gondomau ar gyfer menywod bob tro y byddwch chi'n cael rhyw drwy'r wain neu'r anws;
  • Os ydych yn cael rhyw drwy'r geg, gorchuddiwch y penis â chondom neu gorchuddiwch organau rhywiol y fenyw, neu anws y dyn neu'r fenyw, â sgwâr latecs (llen rwber);
  • Os nad ydych yn siŵr sut mae defnyddio condomau'n iawn, cysylltwch â'r Gymdeithas Cynllunio Teulu.
  • Peidiwch â rhannu teganau rhyw. Os byddwch yn eu rhannu, golchwch nhw neu gorchuddiwch nhw â chondom newydd cyn i unrhyw un arall eu defnyddio.

Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar daflen y Gymdeithas Cynllunio Teulu, 'Your sexual health: Where to go for help and advice'.

Dolenni cysylltiedig allanol

Condom essential wear - www.condomessentialwear.co.uk (Saesneg yn unig)
Cymdeithas y Cynghorwyr Iechyd Rhywiol - www.ssha.info (Saesneg yn unig)
Y Gymdeithas Cynllunio Teulu - www.fpa.co.uk (Saesneg yn unig)