Skip to content

Tanau o ganlyniad i smygu

Ty ar dân
Pan rydych chi’n ei ddiffodd, diffoddwch e’n llwyr!

Os ydych chi’n smygu mae angen ichi fod yn ymwybodol o’r peryglon tân a chymryd camau i'w hosgoi.

Mae tanau o ganlyniad i smygu yn digwydd gan amlaf yn y nos, ar ôl i bobl fynd i'r gwely. Mae hyn yn arbennig o wir gan fod pobl yn ymlacio mwy gyda'r nôs, neu efallai eu bod wedi yfed neu'n flinedig. Mae'n bwysig cofio y gallai un cipolwg olaf cyn noswylio arbed eich bywyd chi a'ch teulu.

Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin - byddwch yn ymwybodol o'r peryglon a phan rydych chi'n ei ddiffodd, diffoddwch e'n llwyr!

Y ffeithiau

  • Mae sigarét yn llosgi ar 700 gradd Celsius. 
  • Mae tybaco’n llosgi am amser hir - gall fudlosgi'n dawel bach a chychwyn tân araf ac angheuol.
  • Mae un person yn marw a hyd at ddeg yn cael eu hanafu yng Nghymru bob mis oherwydd tân o ganlyniad i smygu.  
  • Mae aelwydydd ysmygwyr bron unwaith a hanner yn fwy tebygol o fynd ar dân. 
  • Mae smygwyr bron unwaith a hanner yn llai tebygol o fod yn berchen ar larwm mwg.

Y peryglon

Os ydych chi'n smygu mae angen ichi fod yn ymwybodol o'r peryglon tân a chymryd camau i'w hosgoi:

  • Peidiwch â gadael sigarét, sigâr neu bib ynghynn heb gadw golwg arnynt oherwydd gallant syrthio neu gael eu taro i'r llawr yn hawdd ar ben carped neu bapurau, a chychwyn tân.  
  • Cymerwch ofal arbennig pan fyddwch yn smygu tra'n flinedig, yn cymryd meddyginiaeth neu o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
  • Defnyddiwch flwch llwch pwrpasol, a'u wagio'n aml a sicrhau na ellir ei daro i'r llawr yn hawdd. 
  • Cadwch offer ysmygu lle na all plant gael gafael arnynt.
  • Gwagiwch ludw oer i fin yn yr awyr agored. 
  • Peidiwch â smygu yn y gwely.

Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a ffonio 999.

Am wiriad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, ffoniwch 0800 169 1234 neu ewch i www.fflachtan.org (cyswllt allanol)