Skip to content

Clwb BygiauBaco!

Dolenni perthnasol

Lawrlwytho’r ffurflen gais.
Logo BygiauBaco
Clwb yw BygiauBaco! sy’n annog plant blwyddyn 4, 5 neu 6 yr ysgol gynradd i beidio â smygu.

Bob tri mis, byddwn yn anfon cylchgrawn Bygiau Baco! at yr aelodau. Mae’n llawn hanesion, posau a chystadlaethau am fanteision aros yn ddi-fwg a materion yn ymwneud â smygu.  Byddwn yn ei bostio’n syth i gyfeiriad cartref yr aelod, ynghyd â phecyn aelodaeth difyr iawn.

Os hoffai eich disgyblion neu eich plant eich hun ymuno â’r clwb, gallwch:

  • Ymuno ar-lein neu
  • Lawrlwytho’r ffurflen gais a’i hanfon at y cyfeiriad canlynol Ceisiadau BygiauBaco, Research and Marketing Plus, Trefor House, Ocean Way, Caerdydd, CF24 5RE.

Rhaid i ddisgyblion drafod ymuno â’r clwb â’u rhieni, gofalwr neu warcheidwad. Rhaid i’r rhiant, y gofalwr neu’r gwarcheidwad lofnodi’r ffurflenni ac yna’u hanfon yn ôl i’r cyfeiriad uchod.  

Os ydych yn gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen ar-lein rhaid i rieni, gofalwyr neu warcheidwaid awdurdodi’r ffurflen gais drwy roi eu henw llawn a’u dyddiad geni ar y ffurflen.

Os ydych eisoes yn aelod o BygiauBaco! ac yn awyddus i ysgrifennu am y cylchgrawn, gallwch:

  • Anfon e-bost at Bili’r Byg yn billy@smokebugs.co.uk, neu
  • Ysgrifennu at Bili’r Byg, Villa House, 7 Herbert Terrace, Penarth, CF64 2AH.