Skip to content

Cynllun deddfwriaethol 5 mlynedd

Dolenni perthnasol

Bydd y Bil yn grymuso’r awdurdodau perthnasol i gymryd cyfrifoldeb llawn am eu cyfreithiau lleol.
Bydd y Bil yn grymuso’r awdurdodau perthnasol i gymryd cyfrifoldeb llawn am eu cyfreithiau lleol.
Ymgynghoriad i gasglu safbwyntiau ynghylch sut i wneud tyllu cosmetig yn fwy diogel i bobl ifanc.
Yr hyn rydych angen ei wybod am y Bil Rhoi Organau.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 17 Chwefror 2012.
Egluro’r hyn yr ydym am i’r Bil ei gynnwys, ac mae’n gwahodd eich sylwadau ar y cynigion hyn.
Mae’r ymgynghoriad hwn yw gofyn am ymatebion i gynnwys arfaethedig y Bil a fydd yn diwygio’r trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru.
Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Bwriad y cynigion hyn yw ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl gerdded a beicio, a’u galluogi’n gyffredinol i deithio mewn ffyrdd mwy llesol.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 18 Gorffennaf 2012.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod Bil Democratiaeth Leol (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rydym am gael eich barn am y Papur Gwyn Tai sy'n nodi ein cynigion ar gyfer y camau deddfwriaethol newydd i'w cymryd a chamau eraill nad ydynt yn ddeddfwriaethol.
Bydd y Bil yn gorfodi busnesau bwyd i arddangos gwybodaeth am eu safonau hylendid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r nifer yr organau a meinweoedd sydd ar gael i’w trawsblannu.
Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r Papur Gwyn yn holi barn am gynigion deddfwriaethol mewn perthynas â diwygio addysg bellach ac uwch.
Mae'r papur hwn yn ceisio barn am y cynigion amlinellol a ddatblygwyd hyd yma ac am yr opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'r cynigion hynny.
Ymgynghoriad yw hwn ynghylch a ddylai Gweinidogion ddiwygio deddfwriaeth er mwyn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol godi treth gyngor ychwanegol ar eiddo domestig gwag hirdymor yng Nghymru.
Cyhoeddwyd y Biliau canlynol gan Brif Weinidog Cymru i’w cyflwyno yn ystod y rhaglen ddeddfwriaethol 5 mlynedd.

Mae’n bosibl y bydd teitlau’r Biliau hyn yn newid wrth ddatblygu eu cynnwys.

Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

Bil ar gyfer symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer llunio is-ddeddfau gyda’r nod o feithrin mwy o gyfrifoldeb am ddeddfau lleol a pherchenogaeth ohonynt.

Cyflwynwyd y Bil ar 28 Tachwedd 2011 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Safonau a Threfn Ysgolion (Cymru)

Bil ar gyfer gwella safonau a pherfformiad o fewn addysg yng Nghymru.  Bydd yn newid trefniadau ysgolion, rhoi camau yn eu lle i wella ysgolion, darparu ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg statudol a symleiddio’r ffordd y caiff rhai grantiau eu talu i Awdurdodau Lleol.

Cyflwynwyd y Bil ar 23 Ebrill 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Tyllu Cosmetig (Oedran Cydsynio) (Cymru)

Ar 18 Hydref 2011, dechreuodd ymgynghoriad ar gael barn ar sut i wneud tyllu cosmetig yn fwy diogel i bobl ifanc.  Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 31 Ionawr 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft

Darparu system o optio allan ar gyfer rhoi organau ac at ddibenion cysylltiedig.

Yn dilyn yr ymgynghoriad Papur Gwyn a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2012, cyhoeddir Bil Drafft ynghyd â Memorandwm Esboniadol ar gyfer ymgynghoriad pellach. Daw’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y Bil i ben ar 10 Medi 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bill Datblygu Cynaliadwy (Cymru)

Darparu ar gyfer sefydlu corff annibynnol i barhau â gwaith y Comisiwn ar Ddatblygu Cynaliadwy mewn ffordd sy’n adlewyrchu buddiannau ac anghenion Cymru orau.  Sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw’r brif egwyddor drefniadol ym mhob un o’n gweithredoedd ar draws y Llywodraeth ac ym mhob corff cyhoeddus yng Nghymru.

Ar 9 Mai, lansiwyd dogfen ymgynghori yn nodi’r cynigion ar gyfer datblygu a chryfhau’r broses o fynd ati i sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 18 Gorffennaf (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Tai (Cymru)

Bil ar gyfer cynyddu’r cyflenwad tai a gwella gwasanaethau sy’n ymwneud â thai a hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Ar 21 Mai 2012, cyhoeddwyd papur ymgynghori gwyn a daw'r ymgynghoriad i ben ar 22 Awst 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Cyhoeddwyd papurau ymgynghori ychwanegol sy’n rhoi rhagor o fanylion am rai o’r cynigion yn y Papur Gwyn.

  • Cyhoeddwyd Cynigion ar gyfer Gwell Sector Rhentu Preifat yng Nghymru ar 6 Gorffennaf 2012 a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Awst (gweler y Ddolen Berthnasol).
  • Cyhoeddwyd y Dreth Gyngor a Chartrefi Gwag Hirdymor ar 31 Gorffennaf 2012 a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 20 Hydref (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Bil iechyd y cyhoedd ar gyfer gwneud trefniadau gorfodol syml syml er mwyn rhoi gwybodaeth hawdd ei dddeall i ddefnyddwyr ar safonau hylendid busnesau bwyd.  Cyhoeddwyd y Bil hwn ar ffurf ddrafft ar 14 Rhagfyr 2011. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Mawrth 2012.

Cyflwynwyd y Bil ar 28 Mai 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Bil ar gyfer sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru a gwneud darpariaeth ynghylch Archwilydd Cyffredinol Cymru.  Cyhoeddwyd y Bil hwn ar ffurf ddrafft ar 15 Mawrth 2012. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Mai 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)

Darparu fframwaith cyfreithiol cydlynol er mwyn trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a darparu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Mehefin 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cyhoeddir ymgynghoriad yn 2012 i ystyried y sail ddeddfwriaethol ar gyfer cynyddu disgwyliad oes a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Bil Democratiaeth Leol (Cymru)

Bil ar gyfer diwygio strwythur a swyddogaethau Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ac ar gyfer y broses o benodi ac ariannu Swyddogion Canlyniadau.

Ar 17 Mai 2012, cyhoeddwyd papur ymgynghori gwyn a daw'r ymgynghoriad i ben ar 3 Awst 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Cynllunio (Cymru)

Cryfhau’r ddeddfwriaeth gynllunio bresennol, ei gwneud yn fwy tryloyw a helpu i sicrhau adfywiad economaidd. Bydd Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi tua diwedd 2012.

Bil Llywodraeth Leol (Mesurau Cydlafurio) (Cymru)

Cynorthwyo awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gydweithredu er mwyn gwella’r gwasanaethau a ddarperir.  Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ddatganiad llafar yn y cyfarfod llawn ar 24 Ionawr ynghylch Compact Simpson â Llywodraeth Leol a chyhoeddodd na fyddai’r Bil hwn yn cael ei gyflwyno.

Bil Teithio Llesol (Cymru)

Gwella ac estyn y rhwydwaith o lwybrau yng Nghymru sy’n ddiogel ac yn addas ar gyfer cerdded a beicio.

Cyhoeddwyd Papur Gwyn ymgynghori ar 9 Mai, a daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Awst.

Bil Treftadaeth (Cymru)

Bil ar gyfer moderneiddio a symleiddio’r system reoli ar gyfer gwarchod ein hasedau hanesyddol.

Bil yr Amgylchedd (Cymru)

Darparu ar gyfer system fwy integredig ar gyfer rheoli’r amgylchedd yng Nghymru gan roi mwy o bwyslais ar warchod ein hamgylchedd, ar fwy o fuddiannau cymdeithasol ac economaidd a darparu hefyd ar gyfer dibenion cysylltiedig.

Bil Addysg (Cymru)

Bydd y Bil hwn yn darparu ar gyfer systemau rheoli perfformiad gwell i athrawon, diwygio’r system bresennol o ddatganiadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig.

Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)

Yn ogystal â’r Datganiad Deddfwriaethol a gyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf 2011, bydd y Bil hwn yn rhoi ar waith llawer o argymhellion Adroddiad Humphreys ar lywodraethu Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru. Bydd hefyd yn gwneud newidiadau i strwythur y corff sy’n gyfrifol am ariannu ac am gynlluniau strategol Addysg Uwch a dibenion cysylltiedig eraill.

Cyhoeddwyd Papur Gwyn ymgynghori ar 2 Gorffennaf, a daw’r ymgynghoriad i ben ar 24 Medi 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).

Bil Atal Troseddau Ieuenctid (Cymru)

Bil er mwyn cryfhau’r broses o ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy’n rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid a darparu ar gyfer dibenion cysylltiedig.

Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru)

Ehangu rôl Comisiynydd Plant Cymru a darparu ar gyfer dibenion cysylltiedig.

Bil Cam-drin Domestig (Cymru)

Rhoi dyletswydd ar y cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus i baratoi strategaeth cam-drin ddomestig a ‘thrais yn erbyn menywod’ ac i’w chefnogi.

Bil Compactau Statudol y Trydydd Sector (Cymru)

Bil ar gyfer gwneud trefniadau compact y trydydd sector rhwng awdurdodau lleol a chyrff cyfryngol y trydydd sector yn ofyniad statudol os yw’r dystiolaeth a’r ymgynghoriad yn dangos bod angen deddfwriaeth.