Skip to content

Rhaglen Ddeddfwriaethol 2012-13

Dolenni perthnasol

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Bydd bil newydd i fynd i’r afael â chŵn peryglus ymysg blaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn ei hail flwyddyn, cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, heddiw.
Wrth annerch y Cynulliad yn y Senedd heddiw amlinellodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yr wyth bil yn Rhaglen Ddeddfwriaethol 5 mlynedd Llywodraeth Cymru a gyflwynir yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyflwynir y biliau canlynol dros y flwyddyn nesaf:

  • Bydd y Bil Democratiaeth Leol yn gwneud etholiadau lleol a gweithgarwch cynrychiolwyr lleol yn fwy tryloyw. Bydd hefyd yn diwygio strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. 
  • Nod y Bil Rheoli Cŵn fydd cyflwyno newidiadau allweddol i’r ddeddfwriaeth gyfredol ar Gŵn Peryglus er mwyn gwarchod y cyhoedd drwy hybu perchnogaeth  gyfrifol ar gŵn.
  • Bydd y Bil Trawsblannu Dynol yn creu system o optio allan ar gyfer rhoi organau a fyddai’n gwella’r cyfraddau rhoi organau yng Nghymru. 
  • Bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yn creu fframwaith cyfreithiol cydlynol i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru er mwyn ymdrin â disgwyliadau cymdeithasol a demograffeg sy’n newid a galluogi pobl o bob oed i fwynhau’r lles gorau posibl.
  • Bydd y Bil Teithio Llesol yn cyflwyno dyletswydd i ddarparu llwybrau cerdded a beicio mewn ardaloedd er mwyn helpu pobl Cymru i ddod yn iachach, yn fwy egnïol, ac yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd.    
  • Bydd y Bil Addysg Bellach ac Uwch yn cyflwyno cynigion ar gyfer addysg bellach drwy ddiwygio swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a chyflwyno mwy o gydweithio rhwng yr holl ddarparwyr addysg ôl-16.
  • Bydd Bil Addysg (Cymru) yn amlinellu nifer o gynigion gan gynnwys gofynion i gofrestru’r gweithlu addysg, diwygio’r fframwaith statudol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig a chofrestru plant o oedran ysgol orfodol sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref. 

Dywedodd y Prif Weinidog fod ei Lywodraeth am greu awyrgylch gweithio o fewn y gwasanaeth cyhoeddus lle caiff gweithwyr y gwasanaeth cyhoeddus eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a’i fod yn bwriadu cyflwyno camau i sicrhau bod gweithwyr y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyson a rhoi pwerau penodol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu a chryfhau’r trefniadau cydweithio. Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ar Bapur Gwyrdd ar y Gweithlu Gwasanaeth Cyhoeddus ar hyn o bryd ac, yn ddibynnol ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, bydd yn cyflwyno Bil yn y gwanwyn.  

Yn ogystal â’r wyth bil hyn dywedodd y Prif Weinidog y byddai yna hefyd ymgynghoriadau ar ffurf Papurau Gwyn ar: Fil Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig; Bil Datblygu Cynaliadwy; Bil yr Amgylchedd ac ymgynghoriad ar Fil Diwygio Tenantiaethau.