Skip to content

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Dolenni perthnasol

Mae mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ymysg plant a phobl ifanc yn hanfodol er mwyn rhoi cyfle iddynt wneud y mwyaf o'u bywydau.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant wrth fagu plant, gan ei fod yn helpu gyda’u datblygiad a’u lles.
Cynllun i ddarparu gofal cydlynol cymdeithasol i deuluoedd.
Cyflwynwyd y Mesur hwn ar 2 Mawrth 2009 gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Tachwedd 2009 a chafodd ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Chwefror 2010.

Beth yw diben y Mesur?

Mae'r Mesur yn mynd ati i wireddu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae’n darparu mwy o gymorth i deuluoedd sydd, o bosibl, â phlant mewn perygl, a gorfodaeth reoleiddiol gryfach mewn lleoliadau plant.

Mae’r Mesur yn ymwneud â thri maes yn bennaf:

  • Tlodi plant, chwarae a chymryd rhan;
  • Gwarchod plant a gofal dydd i blant
  • Timau integredig cymorth i deuluoedd.

Beth yw manteision y Mesur?

Nod y Mesur yw gwella bywyd plant a theuluoedd agored i niwed yng Nghymru a’r rheini sy’n byw o dan anfantais oherwydd tlodi. Bydd yn galluogi i gymorth gael ei roi i’r teuluoedd a’r plant hynny â’r angen mwyaf a fyddai, heb gymorth ychwanegol, o dan anfantais annheg yn ein cymdeithas.

Mae Rhan 2 y Mesur yn cydgrynhoi’r holl is-ddeddfwriaeth gyfredol mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd mewn un lle, er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch i gyfreithwyr a’r rhai sy’n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd.

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth?

I weld y Mesur wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol ewch i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (dolen allanol)

 I gael rhagor o wybodaeth am hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gwaith craffu ar y Mesur ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)

Cyflwynwyd y Mesur hwn yn sgil Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cysylltiedig a gellir gweld rhagor o wybodaeth ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)