Skip to content

Mesur Addysg (Cymru) 2011

Cyflwynwyd y Mesur hwn ar 6 Rhagfyr 2010 gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 29 Mawrth 2011 a chafodd ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Mai 2011.

Beth yw diben y Mesur?

Bydd y Mesur yn rhoi pwerau ac yn gosod dyletswyddau i sicrhau bod cydweithio’n dod yn ffordd gyffredin o weithredu o fewn y system addysg. Bydd hynny’n sicrhau bod ysgolion yn cael eu llywodraethu’n fwy effeithiol a hefyd yn symleiddio’r gwaith o gynllunio lleoedd ysgol yng Nghymru.

Mae’r Mesur yn darparu ar gyfer

  • sicrhau bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach (“SAB”) yn cydweithio;
  • rhoi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu ffederasiynau o ysgolion;
  • hyfforddi llywodraethwyr ysgolion a gwella’r gwasanaethau clercio i gyrff llywodraethu;
  • atal ysgolion rhag newid categori yn y dyfodol i fod yn ysgolion sefydledig

Beth yw manteision y Mesur?

Mae’r Mesur yn ategu ac yn cefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd o fewn yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ymgorffori modelau o gydweithio mewn perthynas â chynllunio a darparu gwasanaethau ac yn gwella perfformiad o fewn y system addysg yng Nghymru.

Bydd y cynigion yn gwella perfformiad ysgolion yn unol ag ysbryd y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion. Maen nhw’n gweithredu’r argymhellion a wnaed yn adroddiad 2009 y Pwyllgor Menter a Dysgu ar rôl llywodraethwyr ysgol.

Sut gallaf i gael rhagor o wybodaeth?

I weld y Mesur wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol ewch i wefan Yr Archifau Gwladol.