Skip to content

Mesur Addysg (Cymru) 2009

Cyflwynwyd y Mesur hwn ar 27 Ebrill 2009 gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2009 a chafodd ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydii yn y Cyngor ar 9 Rhagfyr 2009.

Beth yw diben y Mesur?

Bydd y Mesur hwn yn ymestyn hawl plant drwy roi iddynt hawliau i wneud apelau anghenion addysgol arbennig (AAA) a hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (y Tribiwnlys).

Dyma brif elfennau’r Mesur:

  • cyflwyno cyfnod treialu cychwynnol a chyfnod gwerthuso mewn dwy ardal awdurdod lleol
  • yn sgil hynny, rhoi hawl i blant ledled Cymru wneud apelau a hawliadau i’r Tribiwnlys;
  • ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol roi gwybod i blant am eu hawliau apelio;
  • rhoi dyletswydd newydd ar Awdurdodau Lleol i roi mynediad i wasanaethau eirioli annibynnol a all wrando ar blant a rhoi llais i’w safbwyntiau a’u pryderon.

Beth yw manteision y Mesur?

Cynyddu cyfraniad pobl ifanc at y broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu haddysg.

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth?

I weld y Mesur wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol ewch i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (dolen allanol)

 I gael rhagor o wybodaeth am hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gwaith craffu ar y Mesur ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)

Cyflwynwyd y Mesur hwn yn sgil Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cysylltiedig a gellir gweld rhagor o wybodaeth ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)