Skip to content

Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

Dolenni perthnasol

Mae’r mesur arfaethedig yn gam sylweddol ymlaen o ran rhoi’r Llwybrau Dysgu 14-19 ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ar waith.
Cyflwynwyd y Mesur hwn ar 7 Gorffennaf 2008 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau. Cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Mawrth 2009 a chafodd ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 13 Mai 2009.

Beth yw diben y Mesur?

Bydd y Mesur hwn yn sicrhau y gall dysgwyr rhwng 14 a 19 oed ddewis o ystod eang o gyrsiau ar ôl cael cyngor ac arweiniad diduedd.

Prif ddiben y Mesur yw creu hawl i ddysgwyr 14-19 oed yng Nghymru ddewis dilyn cwrs astudio o gwricwlwm lleol. 

Beth yw manteision y Mesur?

Caiff dysgwyr ddewis o arlwy llawn o gyrsiau dysgu gan gynnwys cyrsiau galwedigaethol a chyrsiau cyffredinol.  Caiff pobl ifanc gyfle cyfartal i ddewis ystod o opsiynau astudio ble bynnag yng Nghymru y maent yn digwydd byw.  Bydd hyn yn sicrhau y bydd gan bobl ifanc yng Nghymru y rhyddid i ddewis y cyrsiau dysgu sy'n gweddu orau i'w sgiliau, eu galluoedd, eu diddordebau a’u huchelgais hwy.

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth?

I weld y Mesur wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol ewch i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (dolen allanol)

I gael rhagor o wybodaeth am hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r gwaith craffu ar y Mesur ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol) 

I weld yr ymgynghoriad a wnaed ar y ddeddfwriaeth ddrafft, cyn cyflwyno'r Mesur arfaethedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, defnyddiwch y Ddolen Perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.