Skip to content

Esbonio Mesurau’r Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae’r dudalen hon yn nodi prif ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Rhwng mis Mai 2007 a mis Mawrth 2011 roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu pasio cyfreithiau Cymru, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, yng nghyswllt rhai pynciau.

Beth oedd y gwahaniaeth rhwng Mesur Cynulliad a Deddf Seneddol?

Yr oedd Mesur Cynulliad yn gallu gwneud unrhyw beth y gallai Deddf Seneddol ei wneud yn amodol ar y cyfyngiadau yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llywodraeth Cymru defnyddiwch y ddolen a welir o dan y pennawd dolenni perthnasol ar ochr dde’r dudalen hon.

Ar gyfer pa bynciau oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu pasio Mesurau yn eu cylch?

Mae'r meysydd lle’r oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd ar eu cyfer wedi'u nodi yn y Materion yn atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru. Mae Mater yn disgrifio maes neu bwnc yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio deddfwriaeth yn ei gylch.

Sut oedd y Mesurau Cynulliad yn cael eu llunio?

Yr oedd pump cam i'r broses o lunio Mesur i'w hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol:

  • Cam 1: ystyried a chytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur
  • Cam 2: ystyried y Mesur yn fanwl ac unrhyw newidiadau a gyflwynwyd gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad
  • Cam 3: ystyried y Mesur ac unrhyw newidiadau penodol yn fanwl mewn Cyfarfod Llawn
  • Cam 4: y Cynulliad Cenedlaethol ac Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor yn pasio testun terfynol y Mesur
  • Cam 5: y Mesur yn dod i rym.

Beth y mae 'dod i rym' yn ei olygu?

Y dyddiad 'dod i rym' yw'r dyddiad y bydd y Mesur yn weithredol.

Sut y mae deall beth mae Mesur unigol yn ei wneud?

Yr oedd yn rhaid llunio Memorandwm Esboniadol ar gyfer pob Mesur. Diben y ddogfen hon oedd dweud mewn iaith glir beth oedd bwriad y Mesur.

Roedd y Memorandwm Esboniadol yn cynnwys nodiadau yn esbonio fesul llinell fanylion y Mesur. Yr oedd y ddogfen hefyd yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol a oedd yn nodi effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Mesur.