Skip to content

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Dolenni perthnasol

Bydd y mesur hwn yn gwneud nifer o newidiadau pwysig i’r trefniadau deddfwriaethol presennol mewn perthynas ag asesu a thrin pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Cyflwynwyd y Mesur hwn ar 22 Mawrth 2010 gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Tachwedd 2010 a chafodd ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 15 Rhagfyr 2010.

Beth yw diben y Mesur?

Bydd y Mesur yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag asesu iechyd meddwl a thrin anhwylder meddwl. Bydd yn rhoi dyletswydd ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau sy’n cynnig cymorth sylfaenol yn lleol mewn perthynas ag iechyd meddwl ledled Cymru. Bydd yn creu gofynion mewn perthynas â chynllunio gofal a thriniaethau ar gyfer pobl sy’n derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd a bydd yn sicrhau y trefnir i ddefnyddwyr blaenorol gwasanaethau gael eu hasesu mewn da bryd.

Bydd y Mesur hefyd yn ehangu’r grŵp o unigolion a fydd â hawl i gael cymorth gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.

Beth yw manteision y Mesur?

Bydd y Mesur yn gwneud nifer o newidiadau pwysig i’r trefniadau deddfwriaethol presennol mewn perthynas ag asesu a thrin pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth?

I gael rhagor o wybodaeth am hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gwaith craffu ar y Mesur ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

I weld y Mesur wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol ewch i wefan Yr Archifau Gwladol
  
Cyflwynwyd y Mesur hwn yn sgil Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cysylltiedig a gellir gweld rhagor o wybodaeth ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)