Skip to content

Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

Cyflwynwyd y Mesur hwn ar 19 Hydref 2009 gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig. Cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Mawrth 2010 a chafodd ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 11 Mai 2010.

Beth yw diben y Mesur?

Diben y Mesur hwn yw gwneud darpariaeth, trwy fframwaith deddfwriaethol, er mwyn i Weinidogion Cymru ddatblygu a hybu diwydiant cig coch Cymru, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd a gwella’r ffordd mae’r diwydiant yn cael ei farchnata. Mae hyn yn cynnwys pennu a chasglu ardoll ar y diwydiant sy’n cael ei ddefnyddio i gyflawni amcanion y mesur.

Y bwriad yw y bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn parhau â’r trefniadau rheoli gweithredol presennol, a fu mewn grym ers mis Ebrill 2003, trwy gyflwyno cytundeb dirprwyo newydd rhwng Gweinidogion Cymru a HCC a fydd yn caniatáu i HCC barhau i weithio fel ag y mae.

Mae’r Mesur hefyd yn dileu’r angen i Fwrdd Ardollau Cymru (Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2008) fod mewn bodolaeth i ymgymryd â’r swyddogaethau hyn. 

Beth yw manteision y Mesur?

Mae’r Mesur yn gwneud Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol atebol am y Diwydiant Cig Coch yng Nghymru ac felly’n dileu’r angen am CCNC a fwriadwyd fel mesur dros dro yn unig.

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth?

I weld y Mesur wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol ewch i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (dolen allanol)

I gael rhagor o wybodaeth am hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gwaith craffu ar y Mesur ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)

Cyflwynwyd y Mesur hwn yn sgil Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cysylltiedig a gellir gweld rhagor o wybodaeth ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)