Skip to content

Y datganiadau diweddaraf i'r wasg

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y datganiadau diweddaraf i'r wasg




Y datganiadau diweddaraf i'r wasg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

 

Lesley Griffiths

Cymorth ProAct i roi mantais gystadleuol i Powell Dobson

09/02/10
Dywedodd Tim Percival, y Cyd-Reolwr Gyfarwyddwr, y byddai arian ProAct yn help mawr ac yn rhoi mantais gystadleuol i'r cwmni pan fydd yr economi yn gwella.
 
Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Prif Weinidog yn croesawu penderfyniad hanesyddol y Cynulliad ar refferendwm

Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Prif Weinidog yn croesawu penderfyniad hanesyddol y Cynulliad ar refferendwm

09/02/10
Mae Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Prif Weinidog wedi croesawu cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol i refferendwm ar bwerau ychwanegol.
 

Penodi aelodau o Gyngor Celfyddydau Cymru

09/02/10
Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi penodi chwe aelod newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru: John Geraint, Osi Rhys Osmond, Richard Turner, Alan Watkin, Gerwyn Williams a John Carey Williams.
 
Lesley Griffiths takes up the apprentice challenge at Barry College

Lesley Griffiths yn mentro â’r prentisiaid yng Ngholeg y Barri

09/02/10
Cafodd prentisiaid ifanc eu synnu yn ystod ymweliad Lesley Griffiths – y Dirprwy Weinidog Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau – â Choleg y Barri yr wythnos yma pan drodd ei llaw at waith plymio a thrydan.
 
Y Gweinidog yn agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Merthyr

Y Gweinidog yn agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Merthyr

09/02/10
Heddiw, cafodd Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, sef yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Merthyr Tudful, ei hagor yn swyddogol gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.
 
Lansio ymgynghoriad ar y defnydd cynaliadwy o Blaladdwyr

Lansio ymgynghoriad ar y defnydd cynaliadwy o Blaladdwyr

09/02/10
Lansiwyd ymgynghoriad heddiw [9 Chwefror] ynglŷn â gweithredu rheolau Ewropeaidd newydd ar blaladdwyr. Gofynnir am safbwyntiau pobl ynglŷn â’r ffordd orau o sicrhau bod plaladdwyr yn parhau i gael eu defnyddio’n gynaliadwy.
 

Nid enw yw NEET

08/02/10
Heddiw mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi rhybuddio y gallai'r ymadrodd NEET ddod yn enw.
 
Y cynllun cadwraeth newydd ar gyfer gwiwerod coch

Y cynllun cadwraeth newydd ar gyfer gwiwerod coch

08/02/10
Heddiw cyd-gymeradwyodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, ac Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, gynllun cadwraeth newydd ar gyfer gwiwerod coch yng Nghymru.
 
Cyfle newydd i weithwyr ag anfanteision neu anableddau

Cyfle newydd i weithwyr ag anfanteision neu anableddau

08/02/10
Bydd busnesau mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru’n derbyn hwb £7m i’w gweithwyr sydd ag anabledd neu anfantais yn dilyn cyhoeddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones heddiw (Dydd Llun 8 Chwefror).
 
Gweinidog yn ymweld â Marchnad lwyddiannus Glan yr Afon

Gweinidog yn ymweld â Marchnad lwyddiannus Glan yr Afon

07/02/10
Croesawodd Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glan yr Afon, a enillodd y wobr aur yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, i'w marchnad.
 
Cadw'r rheolau presennol dros atal cynhyrchion rhag cael eu dangos ar deledu, meddai Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cadw'r rheolau presennol dros atal cynhyrchion rhag cael eu dangos ar deledu, meddai Llywodraeth Cynulliad Cymru

05/02/10
Mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi ymateb i ymgynghoriad gan ddweud bod Llywodraeth y Cynulliad yn credu bod angen cadw'r rheolau presennol sy'n atal cynhyrchion rhag cael eu dangos ar deledu Prydain i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
 
Gweinidogion yn dymuno 'pwb lwc' i dim rygbi Cymru cyn pencampwriaeth y chwe gwlad

Gweinidogion yn dymuno 'pwb lwc' i dim rygbi Cymru cyn pencampwriaeth y chwe gwlad

05/02/10
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Chwaraeon Alun Ffred Jones wedi mynegi eu anogaeth i dîm rygbi Cymru wrth i’r tîm ymbaratoi ar gyfer ei gêm gyntaf eleni ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, sydd yn Twickenham yn erbyn Lloegr.
 
Trawsnewid addysg ym Mlaenau’r Cymoedd

Trawsnewid addysg ym Mlaenau’r Cymoedd

05/02/10
Neilltuwyd mwy na £110 miliwn o gyllid Llywodraeth y Cynulliad er mwyn trawsnewid cyfleoedd a rhagolygon pobl ifanc, trigolion lleol a busnesau ym Mlaenau’r Cymoedd. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â natur y newidiadau arfaethedig dros y misoedd nesaf.
 

Cyhoeddi rheolau newydd ar gyfer pysgota am Bregyn Bylchog

04/02/10
Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi rheoliadau newydd i lywodraethu pysgota am gregyn bylchog ar hyd arfordir Cymru o 1 Mawrth 2010 ymlaen.
 
Mesurau i reoli’r diwydiant sgalops

Gweinidog yn cyhoeddi newidiadau i'r ffordd o reoli pysgodfeydd cilfach Tywyn ac afon Menai

04/02/10
Cyhoeddodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, newidiadau'r i'r ffordd o reoli pysgodfeydd Cilfach Tywyn ac Afon Menai o Ebrill 2010 ymlaen.
 
Tri phrosiect o Gymru yn enillwyr yn yr her Cymunedau Carbon Isel

Tri phrosiect o Gymru yn enillwyr yn yr her Cymunedau Carbon Isel

04/02/10
Heddiw, mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, wedi llongyfarch tri phrosiect o Gymru ar eu llwyddiant fel enillwyr yn yr Her Cymunedau Carbon Isel.
 
Huw lewis

Mynd i'r Afael â Thlodi Plant yw Prif Flaenoriaeth y Gweinidog Newydd

04/02/10
Heddiw (dydd Gwener 5 Chwefror), dywedodd Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, ei bod yn hanfodol i Lywodraeth y Cynulliad a'r cyrff cyhoeddus yng Nghymru gryfhau eu hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant.
 
Dŵr ffynnon Princes Gate i gynhyrchu mwy na 50 miliwn o boteli y blwyddyn

Dŵr ffynnon Princes Gate i gynhyrchu mwy na 50 miliwn o boteli y blwyddyn

03/02/10
Bydd cwmni dŵr ffynnon Princes Gate yn dathlu ei ugeinfed pen-blwydd eleni gyda chontractau mawr newydd
 
£6.1 miliwn o gyllid Ewropeaidd i amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru

£6.1 miliwn o gyllid Ewropeaidd i amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru

03/02/10
Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson, wedi cyhoeddi bod £6.1 miliwn o gyllid Ewropeaidd wedi’i ddyfarnu ar gyfer wyth prosiect i amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir ar draws Cymru.
 
Prosiect gwerth £17.4 miliwn i fynd â thwristiaeth Cymru i mewn i'r oes ddigidol

Prosiect gwerth £17.4 miliwn i fynd â thwristiaeth Cymru i mewn i'r oes ddigidol

03/02/10
Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, wedi lansio prosiect newydd gwerth £17.4 miliwn a fydd yn sicrhau bod diwydiant twristiaeth Cymru yn elwa ar y datblygiadau digidol diweddaraf mewn meysydd fel marchnata ar-lein, systemau archebu a systemau rheoli busnes.
 
Y Prif Weinidog yn penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru

Y Prif Weinidog yn penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru

02/02/10
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi penodi'r Athro John Harries, gwyddonydd a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru.
 
Llywodraeth Cymru’n Un yn cyhoeddi ymrwymiad i chwilio am refferendwm ar bwerau newydd

Llywodraeth Cymru’n Un yn cyhoeddi ymrwymiad i geisio refferendwm ar bwerau newydd

02/02/10
Mae Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Brif Weinidog heddiw wedi cyhoeddi eu bwriad i ofyn am refferendwm ar bwerau newydd i’r Cynulliad.
 
Y Gweinidog yn lansio sefydliad newydd i hyrwyddo Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru

Y Gweinidog yn lansio sefydliad newydd i hyrwyddo Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru

01/02/10
Bydd Leighton Andrews, sy'n Weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn lansio Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru, sefydliad newydd i hyrwyddo a helpu'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru.
 
Hwb o £2.75 miliwn i gael gwared â thyllau yn y ffyrdd

Hwb o £2.75 miliwn i gael gwared â thyllau yn y ffyrdd

01/02/10
Mae Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi becyn ariannu sylweddol i atgyweirio'r ffyrdd yng Nghymru sydd wedi'u difrodi gan y tywydd.
 
1000 o ysgolion bellach yn cynnig brecwast iach am ddim

1000 o ysgolion bellach yn cynnig brecwast iach am ddim

01/02/10
Mae tua 66 y cant o’r holl ysgolion cynradd bellach yn cynnig brecwast am ddim i’w disgyblion.
 

Penodi cadeirydd newydd i Gyngor Cefn Gwlad Cymru

29/01/10
Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson, wedi cyhoeddi fod Mr Morgan Parry wedi'i benodi'n gadeirydd i Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
 
Gweinidog yn hyrwyddo Cymru mewn digwyddiad golff pwysig yn Unol Daleithiau America

Gweinidog yn hyrwyddo Cymru mewn digwyddiad golff pwysig yn Unol Daleithiau America

29/01/10
Wrth inni ddechrau cyfri’r dyddiau tan Gwpan Ryder 2010, mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn hyrwyddo Cymru a’i chysylltiad â’r twrnamaint hwnnw yn un o brif ddigwyddiadau’r calendr golff yn UDA.
 
Gweinidog yn dechrau ar y gwaith o roi prosiect Ffordd Osgoi Porthmadog ar ben ffordd

Gweinidog yn dechrau ar y gwaith o roi prosiect Ffordd Osgoi Porthmadog ar ben ffordd

29/01/10
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi dechrau’r gwaith yn swyddogol ar ffordd osgoi newydd Porthmadog, Minffordd a Thremadog.
 

Y Gweinidog dros Iechyd yn amlinellu'r strwythur newydd I Gynghorau Iechyd Cymuned

29/01/10
Heddiw, cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, newidiadau i Gynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn dilyn ymgynghoriad manwl.
 
Y Gweinidog dros Iechyd yn cyhoeddi arian ar gyfer llwybrau ffitrwydd yn yr awyr agored i staff ysbytai

Y Gweinidog dros Iechyd yn cyhoeddi arian ar gyfer llwybrau ffitrwydd yn yr awyr agored i staff ysbytai

29/01/10
Mae Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, wedi cyhoeddi arian gwerth bron i £50,000 i osod llwybrau ffitrwydd ar dir dau o ysbytai Cymru.
 

Dirprwy Weinidog yn canmol cynllun paneli solar mewn ysgolion

28/01/10
Mae Jocelyn Davies AC, y Gweinidog dros Dai ac Adfywio, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Pontlotyn, ger Bargoed, i weld ei system panel solar newydd.
 

Arian ar gyfer labordy a chyfarpar newydd i drin cleifion arennol yng ngogledd Cymru

28/01/10
Cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, y bydd labordy newydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i drin a gofalu am gleifion sy’n derbyn dialysis arennol yng Ngogleddorllewin Cymru yn cael ei ddatblygu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
 

“Rydym am sicrhau nad Gogledd Cymru fydd yr ardal nesaf â phroblem TB” - Prif Swyddog Meddygol Cymru

28/01/10
Mewn cyfarfodydd yng Nghaernarfon a Rhuthun, dywedodd Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wrth ffermwyr mai amddiffyn Gogledd Cymru rhag datblygu problem TB mewn gwartheg yw prif nod y Rhaglen i Ddileu TB yn yr ardal.
 
Gweinidog yn rhoi clod i dîm achub Haiti

Gweinidog yn rhoi clod i dîm achub Haiti

28/01/10
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn talu deyrnged i'r saith diffoddwr tân Cymraeg a fu allan yn helpu gyda’r gwaith achub yn Haiti.
 
Y Dirprwy Brif Weinidog yn croesawu swyddi gwyrdd a fydd yn hwb i Sir Fynwy

Y Dirprwy Brif Weinidog yn croesawu swyddi gwyrdd a fydd yn hwb i Sir Fynwy

28/01/10
Mae Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi groesawu’r newyddion am fuddsoddiad newydd gwerth £38 miliwn gan gwmni Mabey Bridge yn Ne Cymru.
 
Canol tref Bargoed yn cael hwb mawr

Canol tref Bargoed yn cael hwb mawr

28/01/10
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, Jocelyn Davies, wedi ymweld â chanol tref Bargoed i gyhoeddi pecyn cyllid £8.3m a fydd yn helpu i roi hwb mawr i ganol y dref.
 

Arwyddion adfer economaidd wrth i Brif Weinidog Cymru agor pencadlys newydd Giles

28/01/10
Roedd rhagor o dystiolaeth bod yr economi yn gwella, wrth i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, agor yn swyddogol bencadlys Cymreig newydd Giles Insurance Brokers yn Nhonysguboriau.
 
Myfyrwyr i ddysgu gwersi o Auschwitz

Myfyrwyr i ddysgu gwersi o Auschwitz

27/01/10
Bydd myfyrwyr o bob cwr o Gymru yn ymweld ag Auschwitz-Birkenau ym mis Mawrth i ddysgu am hanes yr Holocost a'i effaith ar y byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw.
 
Cynnal gwasanaeth cenedlaethol i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2010

Cynnal gwasanaeth cenedlaethol i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2010

27/01/10
Mae Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Cyngor Caerdydd wedi cynnal digwyddiad cenedlaethol Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru.
 
Cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd gwerth £13.3 miliwn ar gyfer Gogledd Cymru

Cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd gwerth £13.3 miliwn ar gyfer Gogledd Cymru

27/01/10
Mae dwy dref arall yn y Gogledd yn mynd i elwa ar gynlluniau atal llifogydd a fydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Casgliad Cymreig yn gwneud argraff fawr ar yr Unol Daleithiau

Casgliad Cymreig yn gwneud argraff fawr ar yr Unol Daleithiau

26/01/10
Mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth yn yr UD i hybu celfyddydau a diwylliant Cymru ac i annog Americanwyr i ymweld â Chymru.
 
Addewid gan Lywodraeth Cymru i helpu’r economi ddod allan o’r dirwasgiad yn gryfach

Addewid gan Lywodraeth Cymru i helpu’r economi ddod allan o’r dirwasgiad yn gryfach

26/01/10
Mae Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Brif Weinidog wedi croesawu’r newydd fod y Deyrnas Gyfun wedi symud allan o’r dirwasgiad gan ddweud y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n parhau i gynnig cefnogaeth i unigolion a busnesau sy’n dal i wynebu anawsterau.
 

Dyfarnu ffermwr yn euog o ymyrryd â phrawf TB

26/01/10
Mae Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wedi croesawu'r ffaith bod Llys Ynadon Llanelli wedi dyfarnu ffermwr yn euog o geisio ffugio canlyniadau prawf TB buchol.
 
Gweinidog yn ymweld â Pack-IT i weld llwyddiant y cwmni

Gweinidog yn ymweld â Pack-IT i weld llwyddiant y cwmni

26/01/10
Gyda chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bydd Caerdydd yn cynnal Voice 10, sef cynhadledd menter gymdeithasol fwyaf y DU, ar 1 a 2 Chwefror.
 
Cynlluniau i roi mwy o gymorth i ofalwyr

Cynlluniau i roi mwy o gymorth i ofalwyr

26/01/10
Amlinellodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, y cynigion i wella bywydau gofalwyr drwy gyhoeddi'r Mesur arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru).
 

Caerdydd yn paratoi ar gyfer cynhadledd mentrau cymdeithasol fwyaf y DU

25/01/10
Mae Caerdydd yn paratoi i gynnal y gynhadledd mentrau cymdeithasol fwyaf yn y DU yn Arena Rhyngwladol Caerdydd ar 1 a 2 Chwefror.
 
Chwe pherson ifanc yn eu harddegau yn cael eu henwi yn Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd newydd Cymru

Chwe pherson ifanc yn eu harddegau yn cael eu henwi yn Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd newydd Cymru

25/01/10
Mae chwe pherson ifanc wedi cael eu dewis i fod yn llais i bobl ifanc ar y newid yn yr hinsawdd ar ôl iddynt ennill cystadleuaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Y Dirprwy Brif Weinidog yn agor yn swyddogol y darn o'r M4 sydd newydd ei ledu

Y Dirprwy Brif Weinidog yn agor yn swyddogol y darn o'r M4 sydd newydd ei ledu

25/01/10
Cafodd yr M4 i’r gogledd o Gaerdydd ei agor i draffig fel traffordd dwy lôn ddeuol ym 1980, ac roedd yr opsiynau ar gyfer lledu’r rhan hon o’r draffordd yn cael eu hystyried ers 1995.
 
Y Gweinidog yn cyhoeddi cyllid ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod

Y Gweinidog yn cyhoeddi cyllid ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod

25/01/10
Heddiw, cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo £17,591 i NDCS Cymru, sef y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, er mwyn ariannu tri digwyddiad rhanbarthol sydd wedi’u hanelu at ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod i weithwyr ...
 

Tesco i Dynnu Sylw at y Cynnyrch Cymreig ar ei Silffoedd

25/01/10
Mae gwaith ymchwil y mae Tesco wedi'i wneud yn dangos bod mwy o'i gwsmeriaid am brynu bwyd a diod sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol a bod angen mwy o gymorth arnyn nhw i ddod o hyd iddyn nhw.
 
Mynnwch frechiad rhag HPV

Mynnwch frechiad rhag HPV

25/01/10
Yn ystod Wythnos Ewropeaidd Atal Canser Ceg y Groth (24 – 30 Ionawr) mae merched a’u rhieni’n cael eu hatgoffa o bwysigrwydd cael eu brechu rhag HPV.
 
"Tardis" Casnewydd yn un o nifer o adeiladu hanesyddol yng Nghymru sy'n cael cyllid i'w hadfer

"Tardis" Casnewydd yn un o nifer o adeiladu hanesyddol yng Nghymru sy'n cael cyllid i'w hadfer

22/01/10
Mae'r blwch ffôn glas hanesyddol yn Somerton, sy'n agos iawn at galon y gymuned leol, wedi cael grant gwerth £10,500 er mwyn helpu i'w warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
 

Cyfleoedd busnes newydd, swyddi newydd, cynhyrchion newydd a marchnadoedd newydd i Cultech

22/01/10
Dyma un o'i gontractau mwyaf hyd yn hyn a chafodd y cyfleusterau cynhyrchu newydd a osodwyd i gwblhau'r contract eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy'r Gronfa Fuddsoddi Sengl.
 
Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn cyhoeddi hyrwyddwyr busnes newydd i ddatblygu economi Cymru

Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn cyhoeddi hyrwyddwyr busnes newydd i ddatblygu economi Cymru

22/01/10
Cyhoeddwyd y bydd cyn-sylfaenydd cwmni Next, cyn Brif Weithredwr HSBC a Chadeirydd Clwb Busnes Caerdydd yn rhan o dîm a fydd yn datblygu dull newydd o fynd i’r afael ag economi Cymru.
 
Moderneiddio llyfrgelloedd yn hwb i’r economi leol

Moderneiddio llyfrgelloedd yn hwb i’r economi leol

22/01/10
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu buddsoddi £3 miliwn mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru, ac mae hyn wedi rhoi hwb yr oedd mawr ei angen ar fusnesau Cymru yn ystod y dirwasgiad.
 
Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi £1.7 miliwn ar gyfer gwasanaethau Awtistiaeth oedolion yng Nghymru

Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi £1.7 miliwn ar gyfer gwasanaethau Awtistiaeth oedolion yng Nghymru

22/01/10
Cyhoeddodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, fuddsoddiad o £1.7 miliwn, dros dair blynedd, i ddatblygu a gwella gwasanaethau i oedolion sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD), eu gofalwyr a'u teuluoedd.
 

Dirprwy Weinidog yn cyfarfod ag Eiriolwyr dros Ofalwyr

22/01/10
Mewn cyfarfod o Eiriolwyr dros Ofalwyr, pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i helpu gofalwyr yng Nghymru.
 
Y Gweinidog yn estyn tymor y gwaharddiad ar dreillio cregyn bylchog

Y Gweinidog yn cael gwared ar derfyn uchaf y cynllun ffermio sensitif i ddalgylch afon

22/01/10
Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi newidiadau i Gynllun Grant Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon (Parth Perygl Nitradau), gan gael gwared ar y terfyn uchaf ar eitemau sy’n gymwys am grant.
 
Deputy First Minister concerned about Chevron review

Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn bryderus ynghylch cynlluniau Chevron

21/01/10
Mae Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi mynegi pryderon ynghylch cynlluniau cwmni Chevron i ailstrwythuro ei fusnes byd-eang.
 
£8 miliwn o Hwb Ynni Gwyrdd i Gymunedau Cymru

£8 miliwn o Hwb Ynni Gwyrdd i Gymunedau Cymru

21/01/10
Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, wedi cyhoeddi y bydd dros £8 miliwn ar gael i helpu sefydliadau cymunedol yng Nghymru i fuddsoddi mewn technolegau newydd er mwyn cynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy. Disgwylir y bydd y cyllid hwn yn creu hyd at 22 o swyddi newydd.
 
Canolfan gyswllt siop-un-stop newydd ar gyfer gofal iechyd yng Nghwm Taf

Canolfan gyswllt siop-un-stop newydd ar gyfer gofal iechyd yng Nghwm Taf

21/01/10
Cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, gyllid i greu canolfan gyswllt siop-un-stop ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
 
‘Defnyddiwch undebau credyd’ meddai Martin Lewis o Money Saving Expert

‘Defnyddiwch undebau credyd’ meddai Martin Lewis o Money Saving Expert

21/01/10
Mae Martin Lewis o Money Saving Expert wedi cefnogi galwad Llywodraeth Cynulliad Cymru bod undebau credyd yn ffordd ddiogel a dibynadwy i bobl o bob math gynilo ac yn ffordd wych o osgoi llog uchel neu fenthycwyr anghyfreithlon sy’n targedu pobl mewn dirwasgiad.
 
Y band Lostprophets yn lansio ‘Croeso ‘Nôl i’r Cymoedd’

Y band Lostprophets yn lansio ‘Croeso ‘Nôl i’r Cymoedd’

20/01/10
Dechreuodd y Lostprohets fenter ‘Croeso ‘Nôl i’r Cymoedd’ gyda gig preifat yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Pontypridd.
 
£8 miliwn i adfywio cymunedau Ynys Môn

£8 miliwn i adfywio cymunedau Ynys Môn

20/01/10
Mae Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio wedi croesawu’r dyraniad o £8 miliwn er mwyn adfywio Caergybi, Llangefni ac Amlwch yn Ynys Môn.
 
Cronfa Swyddi’r Dyfodol i greu dros 300 o swyddi yng Nghymru

Cronfa Swyddi’r Dyfodol i greu dros 300 o swyddi yng Nghymru

20/01/10
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi croesawu’r £2.184 miliwn o Gronfa Swyddi’r Dyfodol i greu 336 o swyddi yng Nghymru.
 

Ceisio barn am sut i ddosbarthu Cronfa’r UE i Ffermwyr Godro

20/01/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd ati i geisio barn ynghylch sut y dylid dosbarthu cyfran y DU o Gronfa’r UE i Ffermwyr Godro. Mae cyfran y DU yn werth €29 miliwn, a bydd €3.5 miliwn o’r swm hwnnw’n dod i Gymru.
 
First Minister meets with Bosch Union officials

Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â swyddogion Undeb Bosch

20/01/10
Heddiw, bu Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn cwrdd â Swyddogion Undeb Unite i drafod dyfodol cyflogeion ffatri Bosch ac i gynnig unrhyw gymorth iddynt.
 

Ymweliad â llety cŵn yn rhoi’r chwyddwydr ar wella lles anifeiliaid

20/01/10
Ymweliad â llety cŵn yn rhoi’r chwyddwydr ar wella lles anifeiliaid
 
Latest employment statistics "show encouraging signs of improvement"

Yr ystadegau cyflogaeth diweddaraf yn cynnwys “dystiolaeth galonogol bod pethau’n gwella"

20/01/10
Mae Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi ymateb i’r ystadegau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 20 Ionawr).
 

Cyhoeddi adolygiad sylfaenol o’r system cyfiawnder teulu

20/01/10
Bydd panel o arbenigwyr yn ymchwilio i ddiwygio’r system cyfiawnder teulu sy’n cael ei gweithredu yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau ei bod yn cefnogi plant a rhieni yn well.
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod plant dan bump oed yn cael y brechiad rhag ffliw moch

Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod plant dan bump oed yn cael y brechiad rhag ffliw moch

19/01/10
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog rhieni/gwarcheidwaid plant rhwng chwe mis a phum oed i sicrhau bod eu plant yn cael y brechiad rhag ffliw moch.
 
Dywedwch Wrthym Pam Bod Diwygio’n Bwysig i Chi

Dywedwch wrthym pam bod diwygio’n bwysig i chi

19/01/10
Mae Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi lansio menter newydd i annog pobl a busnesau yng Nghymru i helpu i roi siâp ar y dull y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddefnyddio i ddatblygu’r economi.
 
Fe gamwn yn ôl, medd Prif Weinidog Cymru

Fe gamwn yn ôl, medd Prif Weinidog Cymru

18/01/10
Bydd Cymru’n camu’n ôl o effaith yr anawsterau economaidd byd-eang, meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones mewn datganiad sy’n nodi 12 mis ers i’r Deyrnas gyfun fynd i ddirwasgiad ( ar 23 Ionawr 2009).
 
Cynlluniau ar gyfer y diwydiannau creadigol yn cael eu lleoli ym Masn y Rhath

Cynlluniau ar gyfer y diwydiannau creadigol yn cael eu lleoli ym Masn y Rhath

18/01/10
Mae Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi bod cynlluniau i ddatblygu canolfan newydd ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy’n cynnwys canolfan gynhyrchu dramâu newydd y BBC, wedi cymryd cam ymlaen.
 
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd newydd gwerth £5 miliwn ar gyfer Dinbych

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd newydd gwerth £5 miliwn ar gyfer Dinbych

18/01/10
Mae cynllun rheoli perygl llifogydd newydd gwerth £5 miliwn ar gyfer Dinbych wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cynulliad Cymru. Daw arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (51%) a’r Undeb Ewropeaidd (40%) gyda’r gweddill yn dod oddi wrth yr awdurdod lleol (9%).
 

Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymchwilio i gynllun sgrapio boeleri

18/01/10
Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd Jane Davidson wedi cyhoeddi fod Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n ystyried creu cynllun sgrapio boeleri yma yng Nghymru.
 

Y Gweinidog dros Dreftadaeth wedi mynd i ddangosiad cyntaf “The Living” yng Nghymru

18/01/10
Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones wedi ymuno â dangosiad cyntaf The Living yng Nghymru, yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd. Ffilm ddogfen yw The Living, sy’n dweud hanes y newyn yn yr Wcráin ym 1932-33 a rôl y newyddiadurwr o Gymru Gareth Jones, yr oedd ei adroddiadau yn c ...
 
Adolygiad yn rhoi mwy o arian i'r gwasanaethau rheng flaen

Adolygiad yn rhoi mwy o arian i'r gwasanaethau rheng flaen

18/01/10
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol pwysig o'r cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru.
 
Prif Weinidog Cymru’n annog pobl Cymru i gefnogi apel Haiti

Prif Weinidog Cymru’n annog pobl Cymru i gefnogi apel Haiti

15/01/10
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi annog pobl Cymru i gefnogi apêl i helpu pobl Haiti.
 

Gweinidogion y Llywodraeth yn llongyfarch prosiect y Cymoedd Gwyrdd ar ei lwyddiant yn yr Her Fawr Werdd

15/01/10
Mae Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, wedi llongyfarch prosiect y Cymoedd Gwyrdd, sydd wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog, ar ei lwyddiant yn Her Fawr Werdd y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Techno ...
 
Y Cwnsler Cyffredinol yn tyngu llw teyrngarwch

Y Cwnsler Cyffredinol yn tyngu llw teyrngarwch

15/01/10
Mae'r Cwnsler Cyffredinol, John Griffiths, wedi tyngu llw ar gyfer ymgymryd â’i swydd newydd.
 
Welsh Assembly Government pledges full support to Bosch workers

Llywodraeth Cynulliad Cymru yn addo cefnogaeth lawn i weithwyr Bosch

15/01/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi addo cefnogaeth lawn i helpu’r gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi yn dilyn y cyhoeddiad gan gwmni Bosch y bydd eu ffatri yng Nghaerdydd yn cau.
 
Gweinidog yn annog rhieni i fanteisio ar bremiwm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru

Gweinidog yn annog rhieni i fanteisio ar bremiwm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru

14/01/10
Rhoddodd Carl Sergeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol help llaw i Ashleigh-Mia Wilkinson, sy’n bum mlwydd oed, i bostio ei ffurflen gais i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.
 
Gweinidog yn croesawu trafodaethau ar nawdd a chyllid

Gweinidog yn croesawu trafodaethau ar nawdd a chyllid

14/01/10
Mae’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, Jane Hutt, wedi croesawu’r trafodaethau cynhyrchiol a gafwyd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liam Byrne, a Gweinidogion Cyllid o’r sefydliadau datganoledig eraill ar faterion yn ymwneud â nawdd a chyllid.
 
Ffigurau digartrefedd yn parhau i ostwng

Ffigurau digartrefedd yn parhau i ostwng

14/01/10
Mae'r ystadegau diweddaraf ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd heddiw (14 Ionawr) yn dangos bod 3% yn llai o aelwydydd yng Nghymru wedi eu derbyn fel rhai digartref rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2009 nag yn yr un cyfnod yn 2008. Mae hyn yn ostyngiad i 1,475 o aelwydydd
 
Llwybr Troed Trwyn y Fuwch yn fwy hygyrch i’r anabl fel rhan o gynllun Llwybr Arfordirol Cymru

Llwybr Troed Trwyn y Fuwch yn fwy hygyrch i’r anabl fel rhan o gynllun Llwybr Arfordirol Cymru

14/01/10
Mae gwaith wedi dechrau i wella rhan o’r llwybr i’w wneud yn fwy hygyrch i’r holl ymwelwyr fel rhan o gynlluniau i ddatblygu Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan.
 
Prif Weinidog Cymru yn lansio Canolfan Ynni Coleg Menai

Prif Weinidog Cymru yn lansio Canolfan Ynni Coleg Menai

14/01/10
Bydd y ganolfan hyfforddi yn darparu sgiliau allweddol ar gyfer y diwydiant ynni ar gyfer pobl ifanc yng Ngogledd Gorllewin Cymru.
 
Gweinidog yn croesawu trafodaethau ar nawdd a chyllid

Gweinidog i cynnal trafodaethau ar nawdd a chyllid

14/01/10
Bydd y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb , Jane Hutt, heddiw’n cynnal trafodaethau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liam Byrne, a Gweinidogion Cyllid o’r sefydliadau datganoledig eraill ar faterion yn ymwneud â nawdd a chyllid.
 
Help ar gael i gadw'n gynnes y gaef hwn

Help ar gael i gadw'n gynnes y gaef hwn

13/01/10
Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, yn annog pobl i gadw'n gynnes yn ystod y tywydd garw, gan fod disgwyl mwy o eira a thywydd oer dros y diwrnodau nesaf.
 
Prif Weinidog Cymru yn gwneud ymrwymiad i Ogledd Cymru

Prif Weinidog Cymru yn gwneud ymrwymiad i Ogledd Cymru

13/01/10
Mae Prif Weinidog Cymru ar fin ymweld a Gogledd Cymru am y tro cyntaf
 
Creu Cymru Egnïol

Creu Cymru Egnïol: lansio cynllun gweithredu gweithgarwch corfforol

13/01/10
Mae'r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones wedi lansio Creu Cymru Egnïol, y cynllun gweithredu gweithgarwch corfforol.
 
Ardal beilot TB yn cael ei chreu

Ardal beilot TB yn cael ei chreu

13/01/10
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Elin Jones wedi cyhoeddi y bydd rhaglen gyfyngedig ar gyfer difa moch daear a mesurau llymach ar gyfer rheoli gwartheg, yn cael eu cynnal mewn ardal beilot yng Ngorllewin Cymru, fel rhan o Raglen Dileu TB Llywodraeth y Cynulliad.
 
Effaith y Tywydd Gaeafol Gwael ar y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Effaith y Tywydd Gaeafol Gwael ar y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

12/01/10
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi diweddariad i’r Cynulliad ar yr hyn a wneir i gynnal y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y tywydd oer.
 
Cymrwch ofal, meddai Prif Weinidog Cymru wrth i dywydd oer ar fin dychwelyd

Cymrwch ofal wrth i'r tywydd oer barhau

11/01/10
Gyda rhagor o dywydd oer ar y gorwel dros y dyddiau nesaf, mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn annog pobl drwy Gymru i fod yn arbennig o ofalus yn eu bywyd bob dydd.
 

Cymeradwyo’r cynlluniau terfynol ar gyfer yr uned iechyd meddwl i blant

11/01/10
Cymeradwyodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, y cynlluniau terfynol ar gyfer yr Uned Iechyd Meddwl i Blant a’r Glasoed.
 
Y Gweinidog Iechyd yn holi barn am reoliadau i wella’r drefn ar gyfer delio â phryderon pobl ynghylch y GIG

Y Gweinidog Iechyd yn holi barn am reoliadau i wella’r drefn ar gyfer delio â phryderon pobl ynghylch y GIG

11/01/10
Cafodd rheoliadau drafft eu cyhoeddi fydd yn ei gwneud hi’n haws i gleifion sy’n anfodlon â’r gofal y maen nhw’n ei gael gan y GIG neu pan fydd rhywbeth yn mynd o chwith i fynegi’u pryderon.
 
Cyhoeddi argymhellion i wella cynllun bathodyn glas Cymru

Cyhoeddi argymhellion i wella cynllun bathodyn glas Cymru

11/01/10
Mae'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi argymhellion pellgyrhaeddol i wella cynllun y bathodyn glas, sef y cynllun parcio i bobl anabl.
 

Parhau i cadw Cymru'n symud

10/01/10
Gyda disgwyl i’r tywydd oer barhau ar draws Cymru dros y diwrnodau nesaf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gyflwyno systemau er mwyn gwneud yn siwr bod ffyrdd yng Nghymru yn aros ar agor.
 

Gwellianau diogelwch ar y bont dros yr Afon Wysg

08/01/10
Bydd gwaith ar bont yr M4 dros yr Afon Wysg yn dechrau ddydd Sul 10 Ionawr 2010 a bydd yn para 6 wythnos. Dylai’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn 22 Chwefror 2010, ond mae rhai agweddau arno yn dibynnu ar y tywydd.
 
Y Gweinidog Iechyd yn cymeradwyo cynlluniau i chwyldroi systemau cyfrifiadurol y GIG

Y Gweinidog Iechyd yn cymeradwyo cynlluniau i chwyldroi systemau cyfrifiadurol y GIG

08/01/10
Mae Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, wedi cymeradwyo cynlluniau i chwyldroi systemau cyfrifiadurol y GIG er mwyn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i gael gafael ar wybodaeth bwysig am gleifion yn gyflym a diogel.
 

Cystadleuwyr saethu Gemau’r Gymanwlad i ymarfer ar Faes Saethu Heddlu De Cymru

08/01/10
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu’r newyddion y bydd modd i gystadleuwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad hyfforddi ar faes saethu drylliau Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
 
Dros 200 o ganolfannau’n cynnig Bagloriaeth Cymru

Dros 200 o ganolfannau’n cynnig Bagloriaeth Cymru

07/01/10
Bellach bydd mwy na 50,000 o ddysgwyr yn cael cyfle i fanteisio ar Gymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae hynny diolch i gyflwyno dwsinau o ganolfannau newydd ledled Cymru.
 
Keeping Wales moving

Cadw Cymru ar y ffordd

07/01/10
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dal i bwyso ar bobl i fod yn ofalus wrth deithio ar y ffyrdd gan fod disgwyl iddi rewi eto heno ac aros o dan y rhewbwynt dros yr ychydig ddyddiau nesaf.
 

Cymru yn parhau i fwrw targedau ailgylchu

06/01/10
Mae ffigurau newydd yn dangos bod Cymru wedi ailgylchu 41.1% o’i gwastraff domestig rhwng Gorffennaf a Medi 2009. Mae hyn yn gynnydd o 3.5 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2008-09 (37.6%).
 
Y Gweinidog dros Iechyd yn cyhoeddi arian ar gyfer canolfan ragoriaeth New Pathways ym Merthyr

Y Gweinidog dros Iechyd yn cyhoeddi arian ar gyfer canolfan ragoriaeth New Pathways ym Merthyr

06/01/10
Mae'r Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart, wedi cyhoeddi grant cyfalaf o £93,050 ar gyfer New Pathways, elusen sy'n darparu gwasanaethau cymorth trais a cham-drin rhywiol ledled De Cymru.
 
Gweledigaeth Band-eang am arian Ewropeaidd gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru

Gweledigaeth Band-eang am arian Ewropeaidd gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru

06/01/10
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cynllunio i ddefnyddio arian Ewropeaidd er mwyn gwella mynediad cyflym i’r rhyngrwyd ar gyfer busnesau a chymunedau ar ôl cytundeb â’r Comisiwn Ewropeaidd, mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi.
 

Arolwg newydd o dwristiaeth Cymru wedi eu cyhoeddi

06/01/10
Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, wedi croesawu canfyddiadau positif arolwg twristiaeth diweddaraf Cymru.
 
Welsh Assembly Government issues warning on weather conditions

Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhybuddio rhag y tywydd oer

06/01/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog pobl i gymryd gofal arbennig ar y ffyrdd gan fod y Swyddfa Dywydd yn disgwyl rhagor eira ac iddi rewi mewn sawl rhan o Gymru.
 
Gweinidog yn cyhoeddi adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod

Gweinidog yn cyhoeddi adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod

05/01/10
Mae Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig
 

Gwaith i wella diogelwch ar draffordd yr M4 i ddechrau’r wythnos hon

05/01/10
Bydd gwaith yn dechrau’r wythnos hon ar gynllun £1 miliwn i wella’r rhwystrau diogelwch a’r goleuadau stryd a lain ganol traffordd yr M4 rhwng Cyffordd 24 Y Coldra a throsbont Christchurch Hill.
 
Y Gweinidog yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n arbed costau

Y Gweinidog yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n arbed costau

05/01/10
Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, wedi cyhoeddi manylion ail ran i brosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed a fydd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol ac effeithlon.
 

Disgyblion bagloriaeth cymru yn helpu pensiynwyr gyda chyfrifiadura

04/01/10
cyfrifiadura sylfaenol iddyn nhw a’u cynghori ar ddefnyddio’r rhyngrwyd. Maen nhw’n gwneud hyn fel rhan o’u Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
 
Cleifion i weld cofnodion meddygol a threfnu apwyntiadau meddyg ar-lein

Cleifion i weld cofnodion meddygol a threfnu apwyntiadau meddyg ar-lein

04/01/10
Mae Edwina Hart y Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi cyllid o 1.7 miliwn ar gyfer gwefan a fydd yn caniatáu i gleifion edrych ar eu cofnodion meddygol trwy glicio llygoden.
 
Neges y Prif Weinidog Carwyn Jones AC ar gyfer y Flwyddyn Newydd

Neges y Prif Weinidog Carwyn Jones AC ar gyfer y Flwyddyn Newydd

31/12/09
'Mae'r Flwyddyn Newydd yn gyfle i edrych at y dyfodol, ac mae hwn yn gyfnod pwysig imi fel Prif Weinidog newydd Cymru.Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i wasanaethu pobl Cymru drwy arwain Llywodraeth Cynulliad Cymru.'
 
Y Gweinidog yn Galw am Bobl i Wirfoddoli yn y Flwyddyn Newydd

Y Gweinidog yn Galw am Bobl i Wirfoddoli yn y Flwyddyn Newydd

28/12/09
Gallai gwirfoddoli ateb eich holl anghenion addunedu yn y Flwyddyn Newydd, meddai Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol heddiw (Dydd Llun 28 Rhagfyr).
 
Recycle and re-use this New Year says Environment Minister

Ailgylchu ac ailddefnyddio – gwnewch adduned flwyddyn newydd, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd

23/12/09
Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd Jane Davidson yn galw ar i bobl wneud adduned Flwyddyn Newydd i ailgylchu mwy.
 
Neges Prif Weinidog Cymru at filwyr Cymru sy’n gwasanaethu yn Affganistan

Neges Prif Weinidog Cymru at filwyr Cymru sy’n gwasanaethu yn Affganistan

23/12/09
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi danfon neges o gefnogaeth a dymuniadau gorau i filwyr Cymru yn Affganistan
 
Gweinidog yn cyhoeddi mwy o gymorth y dreth i fusnesau bach

Gweinidog yn cyhoeddi mwy o gymorth y dreth i fusnesau bach

22/12/09
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Carl Sargeant y bydd mwy o gymorth yn cael ei roi i’r busnesau bach sy’n gorfod ymdopi â threthi busnes uwch yn sgil ailbrisio eiddo busnes ym Mhrydain.
 

Arbenigwyr teledu byw ar ffonau symudol yn dod i Abertawe

22/12/09
Mae cwmni sy’n arbenigo mewn adloniant symudol a darlledu teledu byw ar ffonau symudol wedi sefydlu eu pencadlys yn Abertawe, lle mae’n bwriadu creu dros ugain o swyddi uwch-dechnolegol.
 
Comisiwn Newydd ar Wasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am farn y cyhoedd

Comisiwn Newydd ar Wasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am farn y cyhoedd

22/12/09
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cyhoeddus - y corff annibynnol sy’n gyfrifol am edrych ar y ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol – ar fin dechrau ymgynghori â dinasyddion Cymru.
 
Archwiliadau Iechyd TB yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol

Archwiliadau Iechyd TB yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol

22/12/09
Mae ymgyrch 15 mis Llywodraeth Cynulliad Cymru i brofi’r holl fuchesi gwartheg yng Nghymru am TB buchol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2009 a dywedodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
 
Rheoliadau newydd ar gyfer tagio defaid yn dod i rym ar 31 Rhagfyr

Rheoliadau newydd ar gyfer tagio defaid yn dod i rym ar 31 Rhagfyr

21/12/09
Bydd rheoliadau newydd ar gyfer tagio defaid yn electronig yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2009.
 

Ymchwil yn dangos pwysigrwydd cydweithio i gael gwared ar fwlio mewn ysgolion

21/12/09
Mae ymchwil newydd cynhwysfawr i fwlio ym mhlith disgyblion ysgol yng Nghymru wedi’i gyhoeddi heddiw.
 

Gweinidog yn cyhoeddi enw Cadeirydd y Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol

21/12/09
Mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi heddiw mai’r Dr Howard Williamson a benodwyd yn Gadeirydd y Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol.
 

Gweinidog Treftadaeth yn cyhoeddi cyllid i fudiadau iaith Gymraeg

21/12/09
Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones wedi cyhoeddi cyllid o dros £2.3 miliwn ar gyfer tri sefydliad sy’n chwarae rôl bwysig yn hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11.
 
Cynllun Newydd i Dorri Gwastraff

Cynllun Newydd i Dorri Gwastraff

18/12/09
Cyhoeddir prosiect newydd gwerth £1.5m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu cwmnïau yng Nghymru i dorri i lawr ar y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
 
Symudiadau newydd i wella safonau cymdeithasau tai

Symudiadau newydd i wella safonau cymdeithasau tai

18/12/09
Mae Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, wedi annog gweithwyr tai proffesiynol a thenantiaid i ddweud eu dweud mewn perthynas â safonau perfformiad newydd arfaethedig ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru.
 
Dyfodol llewyrchus i Ty Hafan ar ol prynu safle

Dyfodol llewyrchus i Ty Hafan ar ol prynu safle

18/12/09
Cyhoeddodd Edwinda Hart y Gweinidog dros Iechyd y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi grant gwerth £150,000 i Dŷ Hafan i brynu rhydd-ddeiliadaeth y safle lle y mae wedi’i leoli ym Mro Morgannwg.
 
Gweinidog yn datgan bod mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod yn un o’i brif flaenoriaethau

Gweinidog yn datgan bod mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod yn un o’i brif flaenoriaethau

18/12/09
Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi datgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch gyhoeddusrwydd sy’n cael ei chynnal dros y Nadolig i godi ymwybyddiaeth am Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.
 
Byddwch yn barod ar gyfer ffliw moch y Nadolig hwn, meddai’r Prif Swyddog Meddygol

Byddwch yn barod ar gyfer ffliw moch y Nadolig hwn, meddai’r Prif Swyddog Meddygol

18/12/09
Wrth i lawer ohonom ni baratoi ar gyfer Nadolig prysur yng nghwmni teulu a ffrindiau, mae’n bwysig bod ar ein gwyliadwraeth rhag ffliw moch, meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell.
 
Gweinidog addysg yn agor ysgol newydd yn sir Gaerfyrddin

Gweinidog addysg yn agor ysgol newydd yn sir Gaerfyrddin

17/12/09
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol newydd Peniel sydd wedi costio £3.6 miliwn yn adeilad o’r radd flaenaf sydd â nifer o nodweddion arbennig gan gynnwys ystafelloedd TGCh
 
Cronfa swyddi’r dyfodol yn denu £27 miliwn i Gymru

Cronfa swyddi’r dyfodol yn denu £27 miliwn i Gymru

17/12/09
Mae Leighton Andrews y Gweinidog Addysg wedi croesawu £471,000 o Gronfa Swyddi’r Dyfodol i greu 71 o swyddi yng Nghymru.
 

Cyhoeddi penodiadau newydd i Fwrdd Amgueddfa Cymru

16/12/09
Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones a Llywydd Amgueddfa Cymru Paul Loveluck wedi cyhoeddi heddiw [16 Rhagfyr 2009] benodiad pedwar Ymddiriedolwr newydd i wasanaethu ar Fwrdd yr Amgueddfa.
 
Y gweinidog iechyd yn cyhoeddi cynlluniau newydd i wella gwasanaethau lymffoedema

Y gweinidog iechyd yn cyhoeddi cynlluniau newydd i wella gwasanaethau lymffoedema

16/12/09
Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi cyhoeddi strategaeth newydd i wella gallu cleifion sydd â lymffoedema i fanteisio ar wasanaethau uchel eu safon.
 
Llywodraethwr Schwarzenegger yn dweud wrth Gymru am ddal ati gyda’r gwaith da

Llywodraethwr Schwarzenegger yn dweud wrth Gymru am ddal ati gyda’r gwaith da

16/12/09
Cafodd gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y newid yn yr hinsawdd ei ganmol gan Lywodraethwr California Arnold Schwarzenegger.
 
Dyfarnu contract ar gyfer ffordd osgoi Porthmadog

Dyfarnu contract ar gyfer ffordd osgoi Porthmadog

16/12/09
Mae Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi llongyfarch dau gwmni sydd, yr wythnos hon, wedi ennill contract gwerth £35 miliwn i ddechrau ar y gwaith o adeiladu ffordd osgoi newydd Porthmadog.
 

Sector addysg uwch yn allweddol i economi gynaliadwy

15/12/09
Heddiw gwnaeth Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg bwysleisio’r rôl bwysig sydd gan Sefydliadau Addysg Uwch Cymru i’w chwarae er mwyn diogelu dyfodol Cymru mewn gwaith ymchwil a datblygu ar lefel uchel.
 
Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi brosiect peilot teledu cylch cyfyng

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi brosiect peilot teledu cylch cyfyng

15/12/09
Bydd prosiect peilot newydd lle bydd camerâu teledu cylch cyfyng yn cael eu gosod i leihau trais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff y GIG wedi dechrau, yn ôl cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart.
 
Y Gweinidog Materion Gwledig yn lansio prosiect i adfer afonydd Sir Gaerfyrddin i’w hen ogoniant

Y Gweinidog Materion Gwledig yn lansio prosiect i adfer afonydd Sir Gaerfyrddin i’w hen ogoniant

15/12/09
Cafodd prosiect yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi derbyn dros hanner miliwn o bunnoedd o gyllid Llywodraeth y Cynulliad a’r Undeb Ewropeaidd i adfer afonydd a gwlypdiroedd y sir i’w hen ogoniant ei lansio’n swyddogol gan Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig.
 
Prif Weinidog Cymru yn lansio cytundeb i helpu rhanbarth yn Affrica i addasu gyda’r newid yn yr hinsawdd

Prif Weinidog Cymru yn lansio cytundeb i helpu rhanbarth yn Affrica i addasu gyda’r newid yn yr hinsawdd

15/12/09
Yn Copenhagen bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi cytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhanbarth Mbale yn Uganda er mwyn helpu i baratoi’r ardal ar gyfer effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
 
Rhaid i’r byd lwyddo yn yr ymgyrch i oresgyn y newid yn yr hinsawdd meddai Prif Weinidog Cymru

Rhaid i’r byd lwyddo yn yr ymgyrch i oresgyn y newid yn yr hinsawdd meddai Prif Weinidog Cymru

14/12/09
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog newydd Cymru, wedi ail gadarnhau ei ymrwymiad i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a hynny drwy fynychu’r gynhadledd fyd-eang yn Copenhagen.
 
Y Gweinidog Treftadaeth yn llongyfarch Ryan Giggs

Y Gweinidog Treftadaeth yn llongyfarch Ryan Giggs

14/12/09
Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth wedi llongyfarch Ryan Giggs ar ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2009.
 

Gwasanaeth Bwcabws gwledig yn llwyddiant

11/12/09
Mae gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus arloesol newydd ar gyfer Cymru wledig yn rhedeg yn gyson bellach diolch i arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Mae’n Nadolig yng Nghaerffili!

Mae’n Nadolig yng Nghaerffili!

11/12/09
Mae castell Caerfili yn cynnal marchnad Nadolig ganoloesol
 
Rhaid i gytundeb terfynol Copenhagen gynnwys llywodraethau rhanbarthol, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd

Rhaid i gytundeb terfynol Copenhagen gynnwys llywodraethau rhanbarthol, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd

10/12/09
Wrth i’r wythnos gyntaf o drafodaethau ynglŷn â’r newid yn yr hinsawdd ddod i ben yn Copenhagen, dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, fod yn rhaid i lywodraethau rhanbarthol gael eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb newydd.
 
Datgelu’r cabinet newydd

Datgelu’r cabinet newydd

10/12/09
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd.
 
Ceidwaid Cadw yn cyrraedd rownd derfynol ar gyfer gwobrau cenedlaethol

Ceidwaid Cadw yn cyrraedd rownd derfynol ar gyfer gwobrau cenedlaethol

10/12/09
Cafodd gwaith tîm o geidwaid henebion Cadw ei gydnabod yn seremoni’r Gwobrau Gwasanaethau Cwsmeriaid Cenedlaethol uchel eu bri yn diweddaf. Mewn seremoni ddisglair yn Llundain, roedd Cadw, gwasanaeth yr amgylchedd hanesyddol Llywodraeth y Cynulliad, yn un o’r rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol a ...
 
Cyn Bêl-droedwraig Ryngwladol yn cael ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru

Cyn bêl-droedwraig ryngwladol yn cael ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru

09/12/09
Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi mai'r Athro Laura McAllister yw Cadeirydd newydd Cyngor Chwaraeon Cymru.
 
Atal salwch yw’r allwedd i wella iechyd pobl Cymru yn y dyfodol medd Prif Swyddog Meddygol

Atal salwch yw’r allwedd i wella iechyd pobl Cymru yn y dyfodol medd Prif Swyddog Meddygol

09/12/09
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi pwysleisio mai atal clefydau a salwch yw’r allwedd i sicrhau cenhedlaeth iach yn y dyfodol.
 
Y Gyllideb Derfynol i ddarparu canlyniadau gwell ar gyfer cyfnod anoddach

Y Gyllideb Derfynol i ddarparu canlyniadau gwell ar gyfer cyfnod anoddach

08/12/09
Mae'r Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cynullid Cymru. Ei nod yw helpu pobl, cymunedau a busnesau drwy'r dirwasgiad byd eang.