Hon yw iaith fy nghartref, yr iaith rwy’n ei defnyddio yn y gwaith. Hon yw iaith fy nheulu, nifer o fy ffrindiau a chydweithwyr. Hon yw iaith fy nghymuned - y capel, yr ysgol a’r siop. Hon yw’r iaith rwy’n ei siarad â fy mhlant. Hon hefyd yw’r iaith yr wyf i, ynghyd â miloedd o bobl eraill, wedi treulio y rhan fwyaf o’m hamser fel oedolyn yn ymladd i’w hamddiffyn a’i hyrwyddo. Rwy’n gwybod fy mod wedi gallu dewis gwneud yr hyn y byddai nifer o bobl eraill yn dymuno’i wneud ond yn methu, sef byw y rhan fwyaf o’m mywyd gan siarad yr iaith Gymraeg.
I raddau helaeth, dyma’r rhesymau paham yr wyf wedi bod yn gwbl ymwybodol o’r cyfrifoldeb a’r disgwyliad a oedd yn fy wynebu fel y Gweinidog cyntaf o Gymru i lywio deddfwriaeth am y Gymraeg drwy’r Cynulliad Cenedlaethol. Yr wyf hefyd yn deall y disgwyliad sydd ar y rheiny sy’n cefnogi ein hymrwymiad i gadarnhau statws swyddogol yr iaith, i greu Comisiynydd y Gymraeg ac i roi hawliau i siaradwyr Cymru wrth i wasanaethau gael eu darparu.
Nid yw hon wedi bod yn broses hawdd. Yn anffodus, gwnaeth yr holl fisoedd o bwyso a mesur cwmpas pwerau newydd y Cynulliad o ran yr iaith Gymraeg yn ystod proses yr LCO gyfyngu ar yr amser i drafod cynnwys y Mesur. Er gwaethaf hyn, ac yn wahanol i rai o’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr wythnos hon, yr wyf wedi gwrando yn astud ar safbwyntiau pob un sydd wedi cynnig sylwadau ar y Mesur ac wedi’u hystyried yn ofalus. Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi dangos gymaint o ddiddordeb a brwdfrydedd am y mater ac yr wyf bellach wedi dod i ambell i gasgliad clir.
I ddechrau, rwy’n credu y bydd y Mesur yn gam mawr a phwysig ymlaen ar gyfer yr iaith. Bydd creu Comisiynydd y Gymraeg yn sicrhau, o’r diwedd, bod hyrwyddwr ar gyfer yr iaith yn cael ei greu fydd â’r rôl hanfodol o sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr wyf hefyd yn credu, wrth fedru rhoi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac i hyrwyddo’r iaith, bydd y ddeddfwriaeth hon yn cynnig mwy o sicrwydd ac eglurder i drigolion Cymru o ran lle y gallant ddefnyddio’r iaith.
Y mater sydd wedi bod yn destun cryn dipyn o drafod dros yr wythnosau diwethaf, fodd bynnag yw’r un sy’n ymwneud â statws swyddogol yr iaith.
Bwriad y Llywodraeth yn y Mesur, yn ogystal â phenodi Comisiynydd y Gymraeg a system well ar gyfer gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, yw cynnwys datganiad clir bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru - a dangos yn eglur sut y rhoddir effaith gyfreithiol i’r statws hwnnw.
Wrth ddod i'r casgliad hwn, a thrwy gydol y drafodaeth a gododd yn ei sgil, rwyf wedi rhoi ystyriaeth helaeth i'r achos dros ddatganiad penagored ar statws y Gymraeg. Fodd bynnag, rwyf wedi dod i'r casgliad bod risg wirioneddol y gallai hynny danseilio'r egwyddorion craidd y mae'r Mesur hwn yn seiliedig arnynt, sef y dylid nodi dyletswyddau a hawliau a sefydlwyd yn gyfreithiol yn glir mewn deddfwriaeth; na ddylai sefydlu a sicrhau hawl unigolyn i wasanaeth drwy'r Gymraeg fod yn gyfrifoldeb ac yn faich ar yr unigolyn hwnnw.
Nid wyf yn argyhoeddedig mai Llys ddylai fod yn bennaf gyfrifol am benderfynu ar gyflawn natur a hyd a lled dyletswyddau sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Yn fy marn i, mater i Lywodraeth y Cynulliad a'r Cynulliad Cenedlaethol yw penderfynu ar y dyletswyddau a gaiff eu creu mewn perthynas â'r Gymraeg a'u hyd a'u lled. Oherwydd hyn, mae'r datganiad am statws y Gymraeg sydd yn y Mesur yn dangos sut y rhoddir i’r datganiad statws effaith gyfreithiol a bod y datganiad yn rhywbeth diriaethol, real.
Ni fyddai'n glir beth fyddai effaith gyfreithiol datganiad penagored ynghylch statws. Gallai dehongliad un person o effaith y datganiad hwnnw fod yn wahanol iawn i ddehongliad person arall. Yr unig ffordd o ddatrys i ba raddau yr oedd datganiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson weithredu mewn ffordd arbennig mewn perthynas â'r Gymraeg fyddai mynd â'r mater i'r Llys. Felly, y perygl y gallem ei wynebu yw y gallai hyd a lled statws yr iaith a'i effaith o ran y gyfraith gael ei benderfynu mewn Llys.
Byddai'n rhaid i Lys ddehongli effaith datganiad o'r fath o ran y gyfraith o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a byddai'n bosibl i Lys benderfynu bod effaith a chwmpas y datganiad yn gyfyngedig. Mae’r iaith yn rhy bwysig i mi i adael inni wynebu risg felly.
Er enghraifft, mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i orfodi dyletswyddau ar bersonau i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg a thrin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail cydraddoldeb yn gyfyngedig i grŵp diffiniedig o bersonau. Hyd yn oed wedyn, ni ellir gorfodi dyletswyddau ar y personau hynny heb fod modd iddynt herio'r dyletswyddau hynny, fel y bônt yn gymwys i'r personau hynny, ar sail rhesymoldeb a chymesuredd. Yr eithriad i'r rheol hon yw y gellir rhoi dyletswyddau i hybu a hwyluso'r Gymraeg ac i drin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail cydraddoldeb ar grŵp bach o gyrff, sef awdurdodau'r Gymraeg (er enghraifft Comisiynydd y Gymraeg a Thribiwnlys y Gymraeg) heb fod modd eu herio.
O ganlyniad, gallai Llys ddod i'r casgliad, yn absenoldeb modd o herio mewn datganiad statws, mai dim ond ymddygiad grŵp cyfyngedig iawn o gyrff y gellid ei newid yn gyfreithiol yn sgil y datganiad statws, sef awdurdodau'r Gymraeg.
Hyd yn oed os ydych yn anghytuno gyda fy nulliau gweithredu i ac yn ystyried bod y risg sydd ynghlwm wrth gael datganiad gwbl benagored o ran statws yr iaith yn risg sy’n werth ei chymryd, fy ngobaith yw y byddwch yn gwerthfawrogi fy rhesymau dros gynnwys y Mesur mewn datganiad sy’n gliriach o ran ei chwmpas a’i diben.
Fy nod i, a nod y Mesur arfaethedig, yw cryfhau sefyllfa’r iaith yn sylweddol. Yr wyf wedi ymgymryd â’r dasg gyda chryn frwdfrydedd, er mwyn ceisio sicrhau y bydd y Mesur yn gallu helpu’r iaith i barhau i ffynnu - a’i bod yn gallu chwarae rhan wirioneddol ym mywydau pob un sy’n dymuno’i defnyddio o ddydd i ddydd.











