Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y degfed i Gymru, y cyntaf i Aberystwyth

Mae Gwesty Cymru yn Aberystwyth, a agorodd yr haf hwn, wedi ennill statws bwyty â llety pum seren gan Croeso Cymru, tîm twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Felly, mae gan Gymru bellach deg bwyty â llety sydd wedi ennill statws pum seren. Mae hyn hefyd yn golygu taw Gwesty Cymru yw'r llety pum seren cyntaf yn Aberystwyth.
Dydd Mercher 14 Tachwedd 2007
Mae Gwesty Cymru yn westy a bwyty ffasiynol wyth ystafell wely sy'n rhoi pwyslais ar steil a chynllun Cymreig sy'n rhoi gwir ymwybyddiaeth i ymwelwyr o'r wlad y maent ynddi. Mae pensaernïaeth gain yr adeilad Rhestredig Gradd II hwn wedi'i chynnal yn ofalus yn unol â rheoliadau adeiladau rhestredig.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Twristiaeth, a agorodd Gwesty Cymru'n swyddogol ym mis Awst:  "Ar ôl gweld yr holl ymdrech a’r gwaith caled a wnaed ar ran Huw a Beth i ddatblygu Gwesty Cymru i safon mor uchel, rwy’n falch iawn eu bod wedi cael sêl bendith a'u bod bellach yn cael eu hadnabod fel y degfed bwyty â llety pum seren yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn gamp fawr i Aberystwyth a'r cyffiniau. Mae’r datblygiad hwn yn rhan o dueddiad cynyddol yng Nghymru i wella ansawdd cynnyrch a gwasanaeth i lefel uchaf y farchnad. Ym marchnad fyd-eang twristiaeth sy’n gynyddol gystadleuol, mae’n rhaid i gynnyrch fod gystal ag sy’n bosibl a bodloni disgwyliadau’r ymwelydd os ydyn ni am gadw ein safle a helpu’r diwydiant i dyfu. Mae buddsoddiad Llywodraeth y Cynulliad mewn ansawdd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth"

Dywedodd Huw Roberts, cyd-berchennog Gwesty Cymru:  “ Rwy’ wrth fy modd bod Gwesty Cymru wedi derbyn pum seren.  Y mae yn arwydd clir o’r safon uchel ac yn dangos pa mor galed y gweithiodd y tim adeiladau dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wrth gwrs yn arwydd o waith ein tim ymroddedig o staff.  Rydym yn gobeithio denu nifer o ymwelwyr newydd I Aberystwyth a chael effaith bositif ar economi’r ardal.”

Dyma’r 10 bwyty â llety pum seren Cymru:
The Drawing Room, Llanfair-ym-Muallt
The Bell, Ynysgynwraidd
Bwyty â Llety Castle Cottage, Harlech
Plas Bodegroes, Pwllheli
The Crown at Whitebrook, Trefynwy
Bwyty â Llety Tyddyn Llan, Llandrillo
The Kinmel Arms, Abergele
Tŷ Mawr Mansion, Llanbedr Pont Steffan
Fairyhill, Bro Gŵyr
Gwesty Cymru, Aberystwyth

Tachwedd 14, 2007
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 14 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i