Mae ConvaTec, sef rhan o Grŵp Bristol-Myers Squibb sydd â’i bencadlys yn yr Unol Daleithiau, yn ychwanegu 15,000 o droedfeddi sgwâr at ei gyfleuster 30,000 o droedfeddi sgwâr yn Ystad Ddiwydiannol Blaenau’r Cymoedd.
Mae ConvaTec yn arbenigo mewn cynnyrch sy’n Trin Clwyfau ac mae hanner holl gynnyrch byd-eang ConvaTec yn cael eu datblygu a’u gweithgynhyrchu yng Nghymru, a’u hallforio i 120 o wledydd ym mhedwar ban byd – yn amrywio o Awstralia i Zimbabwe.
Mae’r cwmni yn amlwg yng Nghymru, gyda chyfleuster Ymchwil a Datblygu ychwanegol a chyfleuster gweithgynhyrchu yng
Nglannau Dyfrdwy lle mae’n cyflogi 950 o bobl, ac mae 100 o’r rhain yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu byd-eang ar gyfer cynnyrch Trin Clwyfau yn ogystal â gwaith ar farchnata’r cynnyrch hyn yn fyd-eang.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy gyfrwng ei rhaglen rheoli cyfrifon, wedi cydweithio’n agos ag uwch-reolwyr ConvaTec i helpu i hwyluso’r broses ehangu a bydd y Llywodraeth yn cefnogi mentrau hyfforddi ar gyfer rheolwyr a staff.
Mae Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi croesawu’r buddsoddiad hwn, ac wedi’i ddisgrifio fel ymrwymiad hirdymor hynod bwysig gan ConvaTec.
Mae’n bleser gweld cwmni fel ConvaTec yn gwneud cymaint o ymrwymiad, ac yn cynnal presenoldeb mor fawr yn y DU ac rwy’n falch bod staff o’m Hadran i a’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn gweithio i sicrhau eu bod yn parhau i lwyddo i yma.
Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod Cymru yn parhau yn lleoliad allweddol ar gyfer gweithgynhyrchu eu cynnyrch presennol ac ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu hynod arloesol i’r genhedlaeth newydd o gynnyrch.
Bydd y broses ehangu yn Rhymni yn creu swyddi newydd pwysig ym Mlaenau’r Cymoedd ond bydd hefyd yn galluogi ConvaTec i ddiwallu’r galw cynyddol am ei gynnyrch hynod lwyddiannus. Bydd hefyd yn sicrhau bod y cyfleuster mewn sefyllfa dda i weithgynhyrchu cynnyrch newydd pan fyddant yn barod i gael eu cynhyrchu.
Mae safle Rhymni yn gyfleuster gweithgynhyrchu pwysig iawn ar gyfer ConvaTec lle mae’n cynhyrchu deunyddiau a gaiff eu defnyddio ar gyfer gorchuddion amsugnol AQUACEL® gan ddefnyddio technoleg â phatent, Hydrofiber®.
Mae’r gorchuddion hyn, ynghyd â gorchuddion Ag AQUACEL® ConvaTec, a ddefnyddir ar gyfer clwyfau heintiedig neu glwyfau sydd wedi’u cytrefu’n glinigol, yn cael eu cydnabod fel rhai o gynnyrch mwyaf blaengar y byd o safbwynt Trin Clwyfau heddiw.
Mae safle Rhymni yn cynhyrchu deunyddiau a ddefnyddir i wneud 100 miliwn o orchuddion y flwyddyn - sef rhyw 275,000 y diwrnod. Byddai arwynebedd y gorchuddion yn gorchuddio maes Stadiwm y Mileniwm bob yn eilddydd.
Mae ConvaTec yn gwmni byd-eang enfawr a’r DU yw ei farchnad fwyaf ond un, gyda throsiant blynyddol o fwy na £60 miliwn - roedd cyfanswm y gorchuddion AQUACEL® a gafodd eu gwerthu yn y DU yn unig yn werth mwy na £2 filiwn ym mis Awst.
Meddai Cyfarwyddwr y Gweithfeydd, David Nappin, y byddai’r broses ehangu yn sicrhau y byddai’r swyddi yng Nghymru yn rhai hirdymor ac fe allai ddyblu’r capasiti.
Mae ein gweithrediadau yng Nghymru yn hanfodol bwysig i’r cwmni ac roedd y gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer ein gorchuddion AQUACEL®, sef ein cynnyrch mwyaf poblogaidd, wedi’i gynnal yng Nghymru. Roedd cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad yn werthfawr dros ben wrth ddatblygu ein busnes yma ac rydym yn falch iawn y bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn ehangu ein gweithrediadau, yn cynyddu capasiti ac yn creu swyddi newydd yn yr ardal.
Mae’r cwmni wedi ehangu nifer o weithiau yn Rhymni ers i ConvaTec fabwysiadu’r cyfleuster ar ôl i Merck adael ym 1995. Yn 2004, roedd ConvaTec wedi prynu rhan o Acordis yn Coventry, ac wedi symud y gwaith cynhyrchu i Rymni. Roedd y broses ehangu gyntaf wedi’i chwblhau ddechrau 2006 ac ym mis Mehefin eleni, cymeradwywyd y rhaglen ehangu gyfredol ac mae’r gwaith bellach ar y gweill.
Yn 2003, roedd ConvaTec yn cyflogi 24 o bobl yn Rhymni. Erbyn hyn, mae’n cyflogi 115 o bobl a disgwylir cynnydd pellach erbyn diwedd y flwyddyn pan fydd y broses ehangu wedi’i chwblhau.
26 Medi 2007











