Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£50 miliwn i helpu pobl yn y De-orllewin yn ôl i’r gwaith

Heddiw (dydd Mercher 19 Tachwedd), mae John Griffiths, y Dirprwy Weinidog miloedd o bobl ddifreintiedig ar draws pedair sir yng Nghymru i ddysgu sgiliau newydd ac i ddod o hyd i waith.
Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2008

Bydd prosiect COASTAL yn helpu dros 9,000 o bobl sy’n economaidd anweithgar, gan gynnwys y bobl hynny sy’n ddi-waith neu sy’n derbyn budd-daliadau analluogrwydd, i ddod o hyd i waith trwy becyn wedi’i deilwra sy’n cynnwys cymorth a hyfforddiant.  Yn fwy penodol, bydd yn cynnig cyfleoedd i’r bobl hynny sy’n dioddef o salwch difrifol neu sydd ag anableddau, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i bobl sydd â phroblemau’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.

Llwyddwyd i gyflwyno’r prosiect gyda chymorth swm o £27 miliwn a gafwyd drwy law Llywodraeth Cynulliad Cymru o dan y RhaglenGydgyfeirio sy’n rhan  o Gronfa Cymdeithasol Ewrop. O dan y prosiect hwn, darperirrhaglen unigol ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan er mwyn iddynt fedru  mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.  

Ymysg y gefnogaeth fydd ar gael bydd cymorth i lunio CV, cymorth i wneud ceisiadau am swyddi, cymorth gyda sgiliau cyfweld a phrofiad gwaith sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion pob un o’r cyfranogwyr.

Dywedodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau: 

Mae Cymru’n Un yn tynnu sylw at y ffaith bod angen sylfaen sgiliau gryf arnom.  Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae gweithio mewn partneriaeth a chyllid yn gallu helpu pobl sydd wedi bod yn ddi-waith i ddatblygu’r  sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn dychwelyd i’r gweithle.

Yn ogystal, bydd COASTAL yn cynnig cymorth ac arweiniad i gyflogwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â salwch ac anabledd a’u cynorthwyo i gyflogi pobl sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith ar draws pedwar awdurdod lleol fel rhan o ymdrech fawr i gydweithio sydd wedi’i seilio ar brosiectau arferion gorau Amcan Un yn y De-orllewin.  Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe, ac yn cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Bydd yn targedu’r bobl hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.  Disgwylir y caiff y prosiect ei gyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Cheredigion yn 2010.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog: 

Mae’n hanfodol bod ein pobl yn cael y cyfleoedd gorau i ddod o hyd i waith a chymorth i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu oherwydd y dirywiad economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu’r ymgais hon i gynorthwyo pobl i oresgyn anfanteision ac i gyfrannu at ffyniant Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Fel rhan o’r cynllun, caiff amrywiaeth eang o wasanaethau’r trydydd sector a gwasanaethau addysg eu comisiynu fel bod pobl yn gallu manteisio ar bob agwedd ar gyflogaeth, hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd dysgu gydol oes ar hyd a lled y rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe: 

Mae cymeradwyo’r prosiect Cydgyfeirio pwysig hwn yn arwyddocaol i’r rhanbarth.

Rydym yn falch iawn o weithio gydag awdurdodau lleol cyfagos ar gynllun hynod bwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig sy’n byw yn ein cymunedau.

Dywedodd Clive Prior, swyddog o Adran Gasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am ddatblygu ac arwain y Prosiect COASTAL:

Mae’r profiad a gafwyd wrth roi prosiectau Amcan Un ar waith yn ystod y chwe blynedd a hanner diwethaf wedi rhoi sylfaen ragorol i’r fenter newydd hon.

Mae’r cyfle unigryw hwn wedi’n galluogi i ddod â chwe awdurdod lleol at ei gilydd i gydweithio ac i roi cefnogaeth i bobl ddifreintiedig.

Byddcyflwyno’r prosiect hwn yn fodd i sicrhau dull strategol a chyson o weithredu, ond bydd hefyd yn golygu y bydd llawer o  hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod modd mynd i’r afael mewn modd priodol ag anghenion lleol unigryw pob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol.

18 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Addysg a sgiliau

Tagiau

Busnes a'r economi 18 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i