Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyrraedd y nod o ran taliadau prydlon

Mae Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi croesawu record ardderchog Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â thalu anfonebau’n brydlon yn unol ag un o’r prif flaenoriaethau sydd wedi’u pennu gan Uwchgynhadledd Economaidd gyntaf Cymru.
Dydd Iau 20 Tachwedd 2008

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod anfonebau’n cael eu talu cyn pen 5.89 diwrnod ar gyfartaledd, gyda llai na phump y cant o daliadau yn cymryd yn hirach na deg diwrnod.

Wedi’r Uwchgynhadledd Economaidd, cytunodd Gweinidogion a swyddogion i gynyddu nifer yr anfonebau sy’n cael eu talu cyn pen 10 diwrnod.  Y cam cyntaf yw gweithio tuag at sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyrraedd y nod o ran talu anfonebau cyn pen 30 diwrnod.

Rhwng Ebrill a Hydref 2008, talodd Llywodraeth Cynulliad Cymru 168,005 o anfonebau. Ym mis Medi 2008 cafodd anfonebau’u talu cyn pen 5.89 diwrnod ar gyfartaledd, sef gwelliant ar ffigurau mis Awst pan gafodd anfonebau’u talu cyn pen 6.65 diwrnod ar gyfartaledd.

Yn achos yr anfonebau hyn, mae’n cofnodion yn dangos mai dim ond 5% sef 8,144 o anfonebau a gafodd eu talu ar ôl 10 diwrnod o ddechrau’r broses i’r foment pan gyrhaeddodd yr arian gyfrifon y cyflenwyr.

Meddai Andrew Davies:

Rwyf wrth fy modd bod cynifer o anfonebau’n cael eu talu cyn pen 10 diwrnod. Yn yr amgylchiadau economaidd anodd hyn, rwy’n annog pob corff yn y sector cyhoeddus i geisio perfformio cystal â ni yn y maes hwn gan sicrhau bod eu sefydliadau yn talu anfonebau’n brydlon - ac rwyf hefyd yn annog cwmnïau'r sector preifat i dalu anfonebau’n brydlon.

Mae’r dirywiad presennol yn broblem fyd-eang, ond rydyn ni, fel gwlad fach yn gallu gweithredu’n gyflym. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i roi cynifer o gyfleoedd ag sy’n bosibl i gwmnïau Cymru er mwyn iddyn nhw elwa ar gaffael cadarnhaol, ac mae taliadau prydlon yn rhan o hynny. Rydyn ni hefyd, lle roedd hynny’n bosibl, wedi stopio dyfarnu contractau ar lefel Cymru gyfan a dechrau rhoi rhai rhanbarthol er mwyn ei gwneud yn haws i gwmnïau llai a lleol dendro am gontractau.

Mae nwyddau a gwasanaethau sy’n werth £5 biliwn yn cael eu caffael bob blwyddyn gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae’r nifer sy’n cael eu dyfarnu i fusnesau Cymru’n codi. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron hanner o’r busnes hwnnw’n cael ei ddyfarnu i gwmnïau yng Nghymru erbyn hyn.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a’n rhan-ddeiliaid i wneud gwelliannau yn y maes hwn yn unol â’r ymrwymiadau a wnaethon ni yn yr Uwchgynhadledd Economaidd.

20 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwella gwasanaethau cyhoeddus

Tagiau

Busnes a'r economi 20 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i