Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Buddsoddiadau yn hybu economi Cymru bron i £1 biliwn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi gwerth bron i £1 biliwn o fesurau i helpu Cymru i ddelio â’r dirywiad economaidd byd-eang ers cynnal yr Uwch-gynhadledd Economaidd Cymru Gyfan gyntaf ar Hydref 16eg.
Dydd Gwener 05 Rhagfyr 2008

Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi heddiw wrth i Lywodraeth y Cynulliad gynnal ei thrydedd uwch-gynhadledd, gan ddod â chynrychiolwyr busnes ac undebau llafur o bob sector economaidd yng Nghymru ynghyd i drafod y materion byd-eang sy’n wynebu’r gymuned fusnes.  

Bydd Prif Weinidog, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaethpwyd gan y ddwy Lywodraeth yn dilyn yr ail uwch-gynhadledd,  a gynhaliwyd yn Llanelwy’r mis diwethaf, ble y gwnaethpwyd adduned i weithredu ar gaffael, seilwaith, tai, effeithiolrwydd ynni, hyfforddiant sgiliau, cyllid a busnes a chyfraddau eiddo.

Ers yr uwch-gynhadledd gyntaf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi £877.1 miliwn o fuddsoddiad a chymorth arall.  

Meddai Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru:

Mae hon yn arafiad economaidd byd-eang, a does unrhyw wlad yn y byd yn ddiogel rhagddo.  Mae’n anorfod bod Cymru’n wynebu effeithiau anffafriol sefyllfa gyfnewidiol mewn marchnadoedd ariannol a’r economi real sydd heb gynsail o’r blaen.  Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn cymryd camau cyflym, ymarferol a chydweithredol i gefnogi teuluoedd, busnesau a chymunedau wrth ymdopi â’r dirywiad.  Rydym yn dod â phrosiectau cyfalaf ymlaen er mwyn i’r diwydiant adeiladau symud eto a helpu pobl sy’n wynebu eu diswyddo neu’r bygythiad o golli gwaith i aros mewn cyflogaeth.

Meddai Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog:

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ganolbwyntio ein hynni a’n hadnoddau ar helpu teuluoedd a busnesau Cymru trwy’r dirywiad economaidd hwn.  Rydym yn darparu ystod o fesurau cynhwysfawr a chydlynol – i gefnogi busnesau a chynorthwyo unigolion i gael gwaith, neu adennill gwaith.  Mae nifer o deuluoedd yn wynebu diwedd ansicr i 2008.    Ein neges yw bod y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu cymunedau Cymru i ymdopi â’r trafferthion economaidd hyn, a bydd yn parhau i wneud hynny.

Mae’r buddsoddiad a gyhoeddwyd ers yr uwch-gynhadledd gyntaf yn cynnwys:

  • £350 miliwn ar gyfer 19 o brosiectau o dan y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol, gan gynnwys tai fforddiadwy, gwelliannau i’r rheilffyrdd a’r ffyrdd, adeiladu ysgolion newydd a buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd.  
  • £43 miliwn i helpu pobl economaidd anweithgar i waith, addysg neu hyfforddiant, a £7 miliwn ar gyfer mentrau cymdeithasol
  • £80 miliwn ar gyfer 400 o gartrefi newydd cynaliadwy.
  • £160 miliwn ar gyfer adfywio a busnesau, gan gynnwys hybu twristiaeth ym Mlaenau’r Cymoedd, arian i fusnesau bach, cyllid ar gyfer datblygiad SA1 yn Abertawe, a phecyn buddsoddi i hybu’r economi trwy ryddhau’r potensial masnachol o waith ymchwil a datblygu ym Mhrifysgolion Cymru. 
  • £216.5  miliwn ar gyfer addysg a hyfforddiant, gan gynnwys rhaglen ReAct i helpu pobl sy’n wynebu colli eu swydd, Genesis - menter i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae’r di-waith yn eu hwynebu wrth aros i ddychwelyd i waith neu hyfforddiant, a phrosiectau eraill sydd wedi’u hanelu at wella sgiliau a chael pobl i waith.  
  • Yn ogystal â’r cyhoeddiadau hyn o ran buddsoddiadau, bydd y newidiadau o ran rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd fel rhan o’r Adroddiad cyn y Gyllideb yn rhoi cymorth i fusnesau yng Nghymru, yr amcangyfrifir bydd dros £20 miliwn.

5 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 05 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i