Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

“Penderfyniadau Anodd mewn Cyfnod Heriol”

Mae cyllideb derfynol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf – sy’n anelu i roi cymorth lle mae ei angen fwyaf – wedi ei chytuno yng nghyfarfod llawn y Cynulliad heddiw (Dydd Mawrth Rhagfyr 9).
Dydd Mawrth 09 Rhagfyr 2008
Dywedodd Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, bod y gyllideb yn adlewyrchu “penderfyniadau anodd mewn cyfnod heriol” ond ei bod yn rhoi rhagor o arian i iechyd, addysg a thrafnidiaeth ac i wasanaethau llywodraeth leol.

Dywedodd:

Mae craffu trylwyr a heriol wedi bod ar y gyllideb hon trwy gydol y broses, ac rwy’n hyderus y bydd y gyllideb derfynol yn cynnig cymorth yn y meysydd lle mae’r angen mwyaf.

Mae’r gyllideb yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’r agenda Cymru’n Un, ac yn blaenoriaethu cyllid ychwanegol ar gyfer meysydd allweddol megis iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Paratowyd y gyllideb hon yn yr hinsawdd economaidd fwyaf heriol ers i’r Cynulliad ddechrau gweithredu yn 1999. Rhagwelir y bydd y twf real cyfartalog yn y gyllideb yn 1.8% y flwyddyn yn ystod 2007 - 2011, sef canran is o lawer na’r cyfartaledd o 5.5% ar gyfer pum mlynedd cyntaf y Cynulliad.

Mae’r heriau a wynebwn yn rhai byd-eang, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd camau i helpu pobl Cymru trwy’r cyfnod economaidd anodd hwn. Rydym eisoes wedi gweithredu yn y meysydd lle mae’r angen mwyaf ac rydym yn gwneud cynnydd da, er gwaethaf yr amodau ariannol anodd. Trwy flaenoriaethu cadarn, cynllunio da a gweithio mewn partneriaeth rydym wedi cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd ac wedi canfod dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau gwell.

Rwyf wedi dweud yn gyson mai canlyniadau ein buddsoddi yw’r peth hollbwysig i’n dinasyddion ni, ac nid lefelau’r cyllid. Rydym yn gwneud cynnydd, ond rhaid i ni sicrhau y darperir ein gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon - rhaid i bob punt y byddwn yn ei gwario wneud gwahaniaeth. Nid yw pobl Cymru’n disgwyl dim llai na hynny.

9 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datganiad - cyllideb terfynol 2009-10

Tagiau

Busnes a'r economi 09 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i