Trwy wrthwynebu’r dirywiad yn yr economi, mae Carpenter and Patterson, sef cwmni teuluol sydd wedi gweithredu o’r Canolbarth ers mwy na 50 blynedd, wedi allforio dwywaith yn fwy dros y 12 mis diwethaf i gwsmeriaid rhyngwladol yn y diwydiannau olew, nwy, petrocemegol a chynhyrchu pŵer.
Ymhlith y prif gontractau roedd rhai i gyflenwi offer i’r ddwy burfa betrocemegol fwyaf yn y byd - sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yn Saudi Arabia ac yn yr India. Mae’r cwmni yn anfon ei beirianwyr i’r India i oruchwylio’r gwaith o osod ei gynhyrchion yn y burfa newydd yn Jamnanar.
Bellach, bydd cangen newydd Carpenter and Paterson yn Asia yn darparu gwasanaeth lleol pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y rhanbarth.
Meddai Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Prif Weinidog:
Mae llwyddiant Carpenter and Paterson yn dangos sut y mae rhagoriaeth o ran ansawdd cynnyrch a gwasanaeth i gwsmeriaid yn gallu arwain at lwyddiant, hyd yn oed yn y meysydd mwyaf heriol. Mae cyflenwi cynhyrchion allweddol ar gyfer prosiectau mawr ledled y byd yn gyrhaeddiad arbennig - ac rwy’n llongyfarch y cwmni ar agor ei swyddfa newydd yn Singapore.
Meddai Richard Macdonald, cyfarwyddwr gwerthu:
Nawr yw’r amser iawn i fuddsoddi yn y rhan gyffrous hon o’r byd. Byddwn bellach yn gallu cynnal gwasanaeth cymorth technegol a gwerthu cynhwysfawr yn lleol i’n rhestr o gwsmeriaid yn Ne-ddwyrain Asia. Mae’r rhestr hon yn tyfu’n barhaus.
Ers i’r cwmni gael ei sefydlu ym 1956, mae wedi dod yn un o gynhyrchwyr systemau cynnal pibellau mwyaf y byd. Mae wedi ennill clod ar draws y byd am ei ddibynadwyedd a’i arbenigedd technegol. Mae cwmni hefyd yn brofiadol iawn o ran cyflenwi cydrannau i weithfeydd sy’n wynebu amodau amgylcheddol caled yn Ne-ddwyrain Asia ac yn rhanbarthau'r Dwyrain Canol er enghraifft ac i rai eraill sy’n wynebu amodau arbennig o oer mewn rhannau o Rwsia a’r Gwladwriaethau Baltig.
Mae gan y cwmni fwy na 5,000 o gwsmeriaid erbyn hyn ac mae’i gynhyrchion, sy’n cael eu gwneud yn y Trallwng, wedi cyrraedd y mwyafrif o wledydd.
29 Rhagfyr 2008











