Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Hwb newydd i’r Rhondda

Cyhoeddir menter newydd sy’n werth £3.6m ac a ddaw â channoedd o gyfleoedd am swyddi i hen safle’r Burberry, Treorci yng nghwm Rhondda gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.
Dydd Iau 12 Tachwedd 2009
Y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AS, yn hen safle’r ffactri Burberry gyda arweinwyr y prosiect Robert Kearns (chwith) a Michael Henderson.

O dan enw newydd Parc Busnes Treorci, caiff y safle ei ailwampio a’i drawsffurfio’n ganolfan busnes gyda 15 o unedau diwydiannol o ansawdd ar gyfer mentrau lleol, 90,000 troedfedd sgwâr o ofod a thua 10,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd.

Gyda chefnogaeth bron £2 filiwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd Cydgyfeirio drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, arweinir y prosiect gan ddau ŵr busnes o Dde Cymru, Michael Henderson a Robert Kearns, sydd hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol.

Mae’r prosiect hefyd wedi derbyn £118,550 o raglen Blaenau’r Cymoedd i baratoi’r safle er mwyn gwneud defnydd llawn o’r adeilad unwaith yn rhagor ac i greu ystafelloedd marchnata penodol.

Dywedodd Mr Jones, sy’n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Mae’n bleser mawr cyhoeddi bod hen safle Burberry wedi’i brynu ar gyfer parc busnes i fentrau lleol.

"Cafodd y gymuned ergyd lem pan gaeodd y ffatri a symudwyd cynhyrchu dramor wrth golli dros 300 o swyddi.

"Yn awr bydd y safle’n darparu cyfleoedd gwaith cynaliadwy newydd, wedi’u creu drwy bartneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid lleol fydd, yn eu tro, yn dod â ffyniant ychwanegol i’r gymuned gyfan."

Y bwriad yw denu busnesau lleol drwy gynnig unedau o ansawdd am bris cystadleuol a chyda’r maint priodol i weddu’r galw lleol.

Dywedodd Mr Kearns o Barc Busnes Treorci:

"Rydyn ni wrth ein bodd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi dewis cefnogi’r weledigaeth hon o anadlu bywyd newydd i fewn i gymuned busnes a marchnad gwaith y Rhondda.  Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn enghraifft berffaith o sut gallai’r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru weithio law yn llaw i adfywio safleoedd mae cwmnïau rhyngwladol wedi’u gadael er mwyn cyrchu llafur rhad dramor.

"Rydyn ni’n hyderus y bydd unedau llai gyda dewisiadau tenantiaeth byrrach ar bris cystadleuol yn denu ystod o fusnesau lleol i’r safle.

Bydd gwaith yn cychwyn i ddatblygu’r safle ym mis Rhagfyr eleni.

Meddai Mr Henderson:

"Gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio’r asedau hynny er lles mwyaf economi Cymru.  Bydd y parc busnes yn cael ei gynllunio gydag anghenion busnesau bach lleol yn uchaf yn ar ein meddwl.  Fel un sydd wedi’i eni a’i fagu yn y  Rhondda, mae’n eithriadol o dda gen i weld y prosiect ar ei ffordd i greu gwaith sydd ei angen yn Rhondda Cynon Taf."

12 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Adfywio

Tagiau

Busnes a'r economi 12 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i