Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rhan allweddol i’r ifainc, medd Gweinidog

Mae gan bobl ifanc Cymru ran allweddol wrth i’r wlad ymadfer ar ôl y dirwasgiad, medd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones.
Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2009

Mewn dadl ieuenctid a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i nodi Wythnos  Entrepreneuriaeth Fyd-eang dywedodd Mr Jones ei bod yn hanfodol sicrhau sianel economaidd ar gyfer meddylfryd hyderus yr ifainc.

Eisoes mae tystiolaeth o lwyddiant wrth droi gwybodaeth a sgiliau prifysgolion a cholegau Cymreig yn ffynhonnell masnach broffidiol, meddai Mr Jones, sy’n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

"Gyda 5 y cant o fyfyrwyr y Deyrnas Gyfun, mae Cymru bellach yn cynhyrchu bron 9.5 y cant o’r busnesau newydd gan raddedigion y DG, heb fod yn bell o ddwywaith y gyfran, meddai’r Gweinidog.

"Un agwedd yn unig yw’r ‘busnesau deillio’ hyn o sut y gallai entrepreneuriaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n rhagolygon economaidd.

"Ond does dim cwestiwn o orffwys ar ein rhwyfau – mae ffigurau diweddar am ddiweithdra ymhlith ieuenctid ledled gwledydd Prydain yn dangos ei bod yn hanfodol i gynnig y cyfleoedd mwyaf posibl i’n pobl ifainc.  

"Dyna paham rwy’n benderfynol o sicrhau rhan gref i fentergarwch ieuenctid o fewn y rhaglen o adnewyddu’r economi a gyhoeddais y mis diwethaf.

"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn datblygu Cynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i hybu ysbryd mentergarwch, sicrhau’r cyfleoedd dysgu priodol a chefnogi pobl ifanc i greu a thyfu eu busnesau eu hunain."

Roedd y Gweinidog yn cymryd rhan mewn dadl gan arbenigwyr entrepreneuriaeth , modelau rolau a phobl ifainc wrth helpu llunio’r polisïau sydd eu hangen i hybu mentergarwch.

17 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 17 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i