Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£1 million funding boost for JobMatch project

The Heads of the Valleys Regeneration Area welfare-to-work programme, JobMatch, has been awarded funding of £1million to ensure it can continue to help thousands of people in the Valleys back to work over the next year.
Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2010
Jared Walters, Nikki Davies, Susan Pilkington and Akinola Verissimo with Deputy Minister for Housing and Regeneration Jocelyn Davies AM.
Jared Walters, Nikki Davies, Susan Pilkington and Akinola Verissimo with Deputy Minister for Housing and Regeneration Jocelyn Davies AM.

The funding, was announced by Deputy Minister for Housing and Regeneration Jocelyn Davies AM while she visited JobMatch’s office in Aberdare. The Deputy Minister met Akinola Verissimo, Nikki Davies, Susan Pilkington and Jared Walters, who have all found employment through JobMatch’s Employment Routes programme at Rhondda Life, a community regeneration project that has also received funding from the Heads of the Valleys Regeneration Area to create a community facility and tourist attraction in Ferndale with the aim of creating local jobs for residents of the Rhondda Valley.

The JobMatch programme, which is backed by the European Social Fund and run by the Welsh Assembly Government in partnership with the Jobcentre plus and the five Local Authorities in the Heads of the Valleys Area, has helped over, 7500 people back to work since it was launched in 2003.

The Deputy Minister said:

“Over the last seven years JobMatch has proved that is delivering excellent value for money and bringing real benefits to the Heads of the Valleys Regeneration Area programme.  As well as boosting the local economy and making a real difference to people’s lives by providing them with jobs and skills that will help them stay in employment in the long term.

“Regeneration is as much about investing in people as it is in bricks and mortar so I am delighted to announce this funding for JobMatch to enable it to carry on the excellent work it has been doing so far. It is an excellent example of what we can achieve by working together with local authorities and other organisations.”

Llwyddianau JobMatch

Akinola Verissimo
Mae Akinola yn wreiddiol o Nigeria, ac fe briododd â merch o’r Rhondda nifer o flynyddoedd yn ôl. Er bod ganddo radd mewn gwleidyddiaeth o Brifysgol Lagos, cafodd drafferth i ddod o hyd i waith addas. Cafodd hyn effaith ar ei hyder, ac roedd yn ei chael yn anodd ymwneud â grwpiau o bobl, a oedd yn golygu bod cyfweliadau yn arbennig o anodd iddo. Fe gofrestrodd ar raglen JobMatch a chafodd waith fel Swyddog Adnoddau Dynol i Rhondda Life. Ar hyn o bryd, mae wrthi’n cyflawni Diploma mewn Adnoddau Dynol, mae ganddo lawer mwy o hyder ac mae bellach yn gallu cyfathrebu’n rhwydd ag unigolion a grwpiau. Dywedodd Akinola:

“Cyn i mi ymuno â JobMatch, roeddwn yn ei chael yn anodd hyd yn oed i godi fy mhen i siarad â phobl. Doeddwn i ddim yn credu bod fy Saesneg yn ddigon da, ond nawr rwy’n hyderus iawn a gallaf siarad ag unrhyw un.

Nikki Davies
Mae Nikki yn fam ifanc â dau o blant, ac nid oedd hi wedi gallu gweithio am bum mlynedd ar ôl gadael ei swydd gyda chwmni gwnïo i gael ei phlentyn cyntaf. Gan mai dim ond cymwysterau cyffredin oedd ganddi’n gadael yr ysgol, nid oedd llawer o gyfle iddi ailddechrau ar lwybr gyrfa nes i JobMatch gynnig cyfle iddi weithio’n lleol, a oedd yn helpu i sicrhau bod gofal plant ar gael iddi. Mae Nikki wedi cwblhau gwobrau BELA a TMBL, ac mae’n gweithio ar y dderbynfa, yn yr ystafell ffitrwydd a gyda thîm arlwyo Rhondda Life. Mae wedi cystal fel ei bod hi nawr yn annog mamau eraill o’i phentref i gofrestru â JobMatch. Dywedodd Nikki

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai rhywun fel fi yn cael cyfle fel hyn, ond rwy’n gwneud pethau nawr nad oeddwn i fyth yn meddwl y byddwn i’n gallu eu gwneud. Helpodd JobMatch fi i sylweddoli fy mod, drwy fod yn fam, wedi meithrin sgiliau fel cadw trefn ar arian a rheoli amser, a gallaf ddefnyddio'r sgiliau hyn mewn amgylchedd gwaith. Nawr, mae gan fy mhlant bethau nad oeddwn i’n gallu fforddio eu rhoi iddynt o’r blaen.

Susan Pilkington
Mae Susan yn un o drigolion Glynrhedynog ac mae wedi treulio llawer o’i bywyd yn rhedeg tafarndai gyda’i gŵr. Collodd ei busnes o ganlyniad i’r dirwasgiad a chanfod ei hun yn ddi-waith, felly cofrestrodd â JobMatch gyda’r bwriad o wneud rhywbeth cwbl wahanol. Gan fod Rhondda Life yn sefydliad lleol sy’n gweithredu dros y gymuned, rhoddodd i Susan gyfle annisgwyl i newid ei bywyd ac edrych ymlaen at ddysgu sgiliau newydd mewn awyrgylch a oedd yn hollol wahanol i’w gyrfa flaenorol. Mae profiad Susan o weithio mewn bar a bwyty yn ei gwneud yn aelod gwerthfawr o’r tîm arlwyo a thîm y bwyty, ond mae hi hefyd wedi cwblhau gwobr BELA ac mae’n mwynhau ochr y prosiect sy’n ymdrin â hanes lleol. Dywedodd Susan:

“A minnau bellach yn fy mhumdegau, roeddwn i’n dechrau meddwl y byddwn i fyth yn dod o hyd i waith eto, ac ar ôl i mi gael fy ngwrthod ar gyfer nifer sylweddol o swyddi, roedd fy hyder yn diflannu’n raddol. Mae Rhondda Life a JobMatch wedi rhoi’r cyfle i mi weithio eto, a hefyd i ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn prosiect lleol sydd o ddiddordeb mawr i mi.”

Jared Walters
Mae’r dyn ifanc hwn wedi cyflawni llawer yn ei fywyd byr, er gwaetha’r trafferthion sy’n gysylltiedig â bod bron yn gwbl ddall. Mae ganddo radd mewn astudiaethau’r cyfryngau, ac mae ganddo ddiddordeb brwd yn hanes y cymoedd. Er bod Jared wedi bod ar sawl lleoliad gwaith, roedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i swydd barhaol nes iddo ymuno â JobMatch. Roedd y llwybr hwn yn cynnig swydd yn agos i gartref Jared, yn ogystal â chefnogaeth i’w gwneud yn haws iddo fynd i’r gwaith a dod oddi yno. Mae’n gweithio fel Swyddog Cyfryngau a TG i Rhondda Life. Yn ddiweddar, cwblhaodd gwrs dylunio gwefannau, ac mae eisoes wedi ailstrwythuro gwefan y sefydliad. Dywedodd Jared:

“Er nad wyf erioed wedi dioddef llawer o ddiffyg hyder, roeddwn yn mynd i deimlo’n llai a llai hyderus wrth i mi fod yn ddi-waith o hyd. Hefyd, oherwydd y nam ar fy ngolwg, roeddwn yn ei chael yn anodd iawn rhoi cynnig ar bethau newydd ac roeddwn am lynu at TG. Ond, ers dechrau gyda Rhondda Life, maent wedi fy annog i roi cynnig ar bethau newydd a dysgu sgiliau newydd. Doeddwn i ddim yn hoff o ddelio â’r cyhoedd, gan fy mod yn ei chael yn anodd dal llygaid pobl am hir ac roeddwn yn ofni y byddai cwsmeriaid yn meddwl fy mod yn ddigywilydd, ond ar ôl rhoi cynnig arni, rwy’n mwynhau!”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Rhaglen Blaenau'r Cymoedd

Tagiau

Busnes a'r economi 15 Rhagfyr 2010 Yr economi Adfywio Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i