Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ail-fywiogi brand Cymru, medd y Dirprwy Brif Weinidog

"Mae angen ail-fywiogi brand Cymru i fynd i'r afael â delweddau negyddol o'r wlad", bydd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones yn dweud wrth gynulleidfa o arweinwyr busnes yn Llundain yn ddiweddarach heddiw.
Dydd Iau 06 Ionawr 2011
Wrth siarad mewn digwyddiad 'Cymru yn Llundain', bydd Mr Jones yn amlinellu sut mae canfyddiadau o Gymru’n chwarae rhan bwysig wrth ddenu buddsoddiadau.

Wrth siarad mewn digwyddiad 'Cymru yn Llundain', bydd Mr Jones yn amlinellu sut mae canfyddiadau o Gymru’n chwarae rhan bwysig wrth ddenu buddsoddiadau.

Dywed Mr Jones,

"Mae codi proffil Cymru yng ngwledydd Prydain a thramor yn nod ac yn flaenoriaeth i mi ers cryn amser.  Un o flaenoriaethau allweddol ein polisi newydd 'Adnewyddu'r Economi’ yw gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes, ac mae delwedd ac enw da Cymru’n ddylanwad pwysig sy’n adlewyrchu’r amgylchedd busnes.

"Mae'n amlwg bod angen i ni ail-fywiogi brand Cymru i dynnu sylw at ein llwyddiannau a mynd i'r afael â chanfyddiadau negyddol. Trwy Adnewyddu'r Economi byddwn yn datblygu brand Cymru – yn enwedig ein cynnig o gefnogaeth i fusnesau.

"Rydyn ni eisoes wedi gwneud llawer o gynnydd, wrth i lwyddiant Cwpan Ryder y llynedd gryfhau brand Cymru’n  sylweddol –  ond mae rhagor o waith eto i'w wneud.

"Rydyn ni’n cydnabod Llundain yn lleoliad allweddol lle o safbwynt creu barn.  Dyna pam y byddwn yn cryfhau ein swyddfa yn Llundain gan sy’n chwarae rhan bwysig - ac yn amlwg byddwn ni’n croesawu cyfleoedd i weithio gyda chi a phobl eraill i hyrwyddo Cymru’n well yn y Ddinas ac ar draws Llundain i gyd.  Mae ein presenoldeb yn Llundain yn hollbwysig i sicrhau’r lefelau o fewnfuddsoddi a masnach sy'n hanfodol i'n heconomi."

Bydd y Gweinidog yn siarad yn Neuadd Dinas Llundain ar ôl 6.00 pm.

Wedi’i lansio ym mis Gorffennaf, mae ‘Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd’ yn dynodi rôl newydd bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei chwarae wrth ddarparu'r amodau gorau i gefnogi'r sector preifat ac economi Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 06 Ionawr 2011 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i