Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

‘Cyllideb i gefnogi ein gweledigaeth uchelgeisiol i Gymru’

Heddiw, cafodd Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 ei chroesawu gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.
Dydd Mawrth 06 Rhagfyr 2011

Ar ôl i'r Gyllideb Derfynol gael ei chytuno dywedodd Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi o fewn yr amserlen arfaethedig a oedd yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu Cymru. 

Dywedodd Jane Hutt: "Trwy ffawd ac anffawd mae ein huchelgeisiau dros Gymru heb newid - rydym am weld twf economaidd, rydym am wella ansawdd bywyd a lles pawb ac rydym am amddiffyn y bobl dlotaf sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd yr anawsterau economaidd presennol.  Dyma'r uchelgeisiau sydd wedi llywio ein Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi.

"Bu'n flaenoriaeth gennyf erioed sicrhau Cyllideb gredadwy i Gymru ac i'r gyllideb honno gael ei thrafod a'i chytuno o fewn yr amserlen arfaethedig. Yn dilyn trafodaethau adeiladol rydym wedi cyflawni hyn a chytuno ar Gyllideb sy'n diwallu anghenion Cymru.

"Rwyf wedi siarad yn y gorffennol am sut y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus - mewn iechyd, llywodraeth leol, sgiliau ac addysg. Mae'r rhain yn wasanaethau sy'n hanfodol i'r broses o weithio ein ffordd trwy heriau economaidd ac ariannol na welwyd mo'u tebyg o'r blaen a gosod y sylfeini am dwf yn y dyfodol. 

"Rydym hefyd yn parhau i gefnogi busnesau, a hynny drwy gymorth uniongyrchol, ymestyn rhyddhad rhag ardrethi busnes yn achos busnesau bach a thrwy fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf.  Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi cyhoeddi sut y bydd arian cyfalaf o bron £90m yn cael ei wario, rhaglen gwerth £1.4 biliwn i'w buddsoddi mewn ysgolion a bu i ni amlinellu pecyn gwerth £38m i ysgogi'r economi gan gynnwys arian am 1800 o Brentisiaethau pellach ac arian ar gyfer Tai Cymdeithasol.  Mae hyn yn dangos ein cymorth parhaus i'r diwydiant adeiladu ac i economi Cymru" 

Mae sicrhau Cyllideb sefydlog i bobl Cymru yn y cyfnod ariannol anodd hwn wedi bod yn flaenoriaeth yn y trafodaethau a fu ynghylch y Gyllideb. 

Ychwanegodd Jane Hutt:

"Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweithio gyda'r Gwrthbleidiau i weld sut y gallwn wella ein cynigion ar gyfer y Gyllideb a bu i ni lwyddo i ddod i gytundeb ynghylch ein cynlluniau â  Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

"Roeddwn yn falch o allu cynnwys grant newydd yn y Gyllideb Derfynol - sef y Grant Amddifadedd Disgyblion. Bydd y grant hwn yn cynnig cymorth uniongyrchol i blant y mae arnynt ei angen fwyaf.  Gyda'r  £20 miliwn ychwanegol, byddwn yn gallu rhoi i ysgolion swm o £450 i bob plentyn sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ac rwyf yn falch y bydd 70,000 o blant ledled Cymru yn elwa o ganlyniad i'r polisi hwn. 

"Mae'r Gyllideb y cytunwyd arni heddiw yn cynnig sefydlogrwydd a chyfle am dwf a swyddi. Dyma'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu a dyma'r hyn yr ydym wedi'i ddarparu."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cyllidebau

Tagiau

Busnes a'r economi 06 Rhagfyr 2011 Cyllideb Programme for Government - Public Services Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i