Wrexham Mineral Cables (WMC) yw’r unig gwmni yn y DU sy’n gwneud ceblau arbenigol wedi’u hinsiwleiddio â mwynau (MICC) sy’n gallu gwrthsefyll gwres o fwy na 1000 gradd celsiws. Mae galw mawr amdanynt yn y diwydiant petrogemegol. Hefyd dyma’r unig weithgynhyrchwr ceblau arbenigol wedi’u hinsiwleiddio â mwynau yn y byd sy’n cael ei gymeradwyo gan BASEC.
Maen nhw’n diogelu cylchrediad pŵer a rheoli offer hanfodol sy’n cael ei ddefnyddio mewn gorsafoedd pŵer, ffowndrïau, mwyngloddiau a’r diwydiant petrogemegol, yn ogystal ag adeiladau cyhoeddus fel ysgolion, ysbytai, gwestai a chanolfannau trafnidiaeth.
Yr wythnos hon bydd y cwmni’n anfon archeb o £250,000 ar gyfer ceblau pŵer gwrthsefyll tân ar gyfer gorsaf pwmpio olew newydd gwerth $430million yn Kuwait, ynghyd ag archeb arall o £90,000 gan gwmni olew gwahanol ar gyfer gorsaf atgyfnerthu newydd.
Dywedodd y rheolwr rhanbarthol Phil Thomas fod y cwmni bellach yn rhoi dyfynbrisiau rheolaidd ar gyfer gwaith yn y Dwyrain Canol a bod allforio’n helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y busnes.
Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol o ran sefydlu enw’r cwmni yn y Dwyrain Canol.
Dywedodd y rheolwr prosiectau Dave Winship,
“Fe ddechreuwyd targedu’r rhanbarth hwn o ddifrif rai blynyddoedd yn ôl ac rydym wedi bod ar sawl taith fasnach gyda nawdd rhannol gan Lywodraeth Cymru a UKTI, a oedd yn hollbwysig.
“Helpodd swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu cyfarfodydd gydag unigolion allweddol ac mae’r cymorth a gafwyd heb ei ail – mae’n gwbl amhrisiadwy. Fe gawsom ni gyfarfodydd gyda phobl allweddol yn Siambr Fasnach Kuwait – fydden ni erioed wedi dychmygu gallu gwneud hynny heb gefnogaeth.
“Fe aethon ni ar ymweliadau ein hunain i’r wlad yn ddiweddarach, ond cafwyd mwy o ymholiadau ar sail y daith fasnach gan fod hynny’n rhoi’r cyfle i ni gwrdd ag unigolion allweddol ac roedd bod yn rhan o daith Lywodraeth yn rhoi hygrededd i ni.”
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart,
“Mae allforio yn hanfodol i economi Cymru a gallai gynnig cyfleoedd marchnata newydd i gwmnïau’r wlad.
“Gall masnachu’n rhyngwladol helpu i liniaru effeithiau’r amgylchiadau masnachu anodd yn y DU ac Ewrop. Rwy’n falch bod y cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu Wrexham Mineral Cables, sy’n gweithio yn un o’n sectorau allweddol, i wneud cynnydd mewn marchnadoedd newydd, sydd yn ei dro yn cynnal swyddi lleol.”
Er gwaethaf yr amgylchiadau masnachu anodd, mae allforio’n cyfrif am ran fawr o fusnes y cwmni, gyda gwerthiant yn y DU yn parhau’n sefydlog. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi tua deugain o bobl yn ei bencadlys yn Rhiwabon, Wrecsam, hefyd yn allforio’n rheolaidd i Qatar ac India.











