Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwisgoedd hardd Stardust yn llwyddiant ysgubol

Mae cyn fyfyrwraig gradd o Brifysgol Abertawe sydd wedi dechrau busnes ar-lein yn gwerthu gwisgoedd ar gyfer pasiantau a chystadlaethau harddwch wedi llwyddo i gyrraedd trosiant o £50,000 yn ei chwe mis cyntaf.
Dydd Llun 12 Rhagfyr 2011
Kylie Hearne yn dangos rhai o'i gwisgoedd
Kylie Hearne yn dangos rhai o'i gwisgoedd

Sefydlodd Kylie Hearne ei busnes, o’r enw Stardust Boutique, pan oedd hi’n methu cael hyd i swydd lawn amser, a dechreuodd fasnachu ym mis Mai eleni gyda deg gwisg ac £800 o fuddsoddiad gan ei phartner.

Chwe mis yn ddiweddarach – gyda chymorth cynllun bwrsariaeth Llywodraeth Cymru i raddedigion – mae trosiant Stardust yn fwy na £50,000, ac mae’n cadw stoc gwerth £25,000. Mae Kylie bellach yn gwerthu’r gwisgoedd i gwsmeriaid ym mhob rhan o’r DU ac mae ganddi gynlluniau i agor siop yn y flwyddyn newydd.

Kylie yw noddwr swyddogol rowndiau terfynol Miss Universe erbyn hyn, a hi sy’n nodi gwisgoedd Miss Ewrop a enillwyd gan Rachael Tate o Gymru. Roedd Sara Manchipp, sef Miss Cymru 2011, yn gwisgo tair o ffrogiau Stardust yn ystod rowndiau rhagarweiniol Miss World, sef yr ornest harddwch fwyaf yn y byd.

“Pan ddechreuais i fy musnes ym mis Mai, doedd gen i ddim cyfalaf, dim modelau i arddangos fy ngwisgoedd arnynt na hyd yn oed beiriant stêm i lanhau’r ffrogiau. Wnes i brynu deg gwisg, eu rhentu allan a buddsoddi’r arian yn syth nôl mewn i’r busnes,” esboniodd Kylie.

“Roeddwn yn cymryd risg mawr oherwydd doedd gen i ddim syniad a oedd y fenter yn mynd i lwyddo neu beidio. Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun achos doeddwn i ddim yn gallu cael hyd i swydd lawn amser ar ôl gadael Prifysgol Abertawe - roeddwn yn cael digonedd o gyfweliadau ond doedd y profiad perthnasol ddim gen i.

“Ond roedd gen i ddigon o brofiad o basiantau harddwch, ac roeddwn wedi gwerthu gwisgoedd ar eBay yn y gorffennol, felly penderfynais fentro ar-lein i werthu ffrogiau ar gyfer cystadlaethau harddwch.”

Ym mis Medi, gwnaeth Kylie gais am £6,000 o fwrsariaeth cychwyn busnes gan Lywodraeth Cymru. Mae’r fwrsariaeth yn helpu graddedigion i ddechrau eu busnes eu hunain. Dyna oedd y trobwynt i’r busnes meddai Kylie.

“Roedd hwn yn gyfle gwych i mi, a dwi’n ddiolchgar dros ben am y cymorth gefais i gan Lywodraeth Cymru. Mae’r arian wedi fy helpu i ehangu i werthu gemwaith ac esgidiau yn ogystal â dillad, ac rwyf wedi gallu cymryd prydles ar siop a chanolbwyntio ar farchnata’r busnes.

“Mae’r arian a’r gefnogaeth yn anhygoel ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i mi – fyddwn i byth wedi breuddwydio gallu rhentu siop fy hunan yn y flwyddyn gyntaf. Bydd hyn yn helpu’r busnes i ennill enw da yn lleol a denu cwsmeriaid newydd.”

Er mai pasiantau harddwch yw prif farchnad Kylie, mae ganddi gynlluniau i fanteisio ar boblogrwydd cynyddol y ‘proms’ ysgol ac i ddarparu gwisgoedd ar gyfer achlysuron arbennig eraill yn ogystal. Bydd y siop newydd yn gwerthu ffrogiau parti a gwisgoedd dawns hefyd felly.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Help i fusnesau

Tagiau

Busnes a'r economi 12 Rhagfyr 2011 Yr economi Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i