Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn cyhoeddi cyllid Buddsoddi i Arbed gwerth £10m

Heddiw mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, wedi cyhoeddi pwy fydd ar eu hennill yn sgil cylch cyllido diweddaraf Buddsoddi i Arbed.
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2011
Gweinidog yn cyhoeddi cyllid Buddsoddi i Arbed gwerth £10m
Gweinidog yn cyhoeddi cyllid Buddsoddi i Arbed gwerth £10m

Yn ystod ymweliad â'r rhaglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent, sydd wedi elwa ar y rhaglen yn y gorffennol, amlinellodd y Gweinidog sut bydd y buddsoddiad newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei ddyrannu.
 
Caiff y cyllid ei ddefnyddio fel a ganlyn:

  • £6.6 miliwn ar gyfer y GIG i gefnogi mentrau gwella sydd â'r potensial i arbed £15 miliwn ar draws Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans.  Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gyflwyno rhestrau dyletswydd electronig ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i'w helpu i reoli staff a lleihau'r angen am staff banc, staff asiantaeth a staff locwm.  Bydd hefyd yn ariannu cynlluniau gadael swydd yn gynnar o wirfodd fel rhan o raglen drawsnewid ehangach mewn chwe Bwrdd Iechyd.
  • £3 miliwn i helpu integreiddio'r systemau a chefnogi costau trosgwlyddo ar gyfer yr Un Corff Amgylcheddol a fydd yn tynnu ynghyd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, a rhagwelir y bydd yn arbed £158 miliwn dros 10 mlynedd.  Bydd ymgynghoriad polisi ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r corf newydd yn dechrau yn gynnar yn 2012.
  • £380,000 i helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ad-drefnu ei swyddfeydd er mwyn cefnogi gweithio hyblyg gan staff, lleihau costau rhedeg blynyddol o £175,000, a chynhyrchu cyfalaf trwy werthu asedau sydd dros ben.

Dywedodd Jane Hutt:

"Mae'r prosiect Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent yn enghraifft wych o sut mae Buddsoddi i Arbed wedi helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus.  Gydag amser, bydd hynny'n arwain at fanteision sylweddol - gan gynnwys arbedion ariannol. 

"Mae'r prosiect wedi dangos sut all cydweithio roi'r cyfle i bobl agored i niwed aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae hynny'n rhoi ansawdd bywyd gwell iddynt ac yn lleihau'r straen ar wasanaethau gofal hirdymor.

"Dyma'r math o gydweithio arloesol rydw i am ei weld yn digwydd yn amlach ledled Cymru.  Drwy uno gwasanaethau, fe allwn ni wneud yn si?r bod gan bawb fynediad at wasanaethau effeithlon o ansawdd uchel, a hynny wrth ddefnyddio ein cyllid cyfyngedig yn y ffordd fwyaf effeithiol.

"Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau'r gwerth gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael inni.  Mae'r holl gynigion sy'n derbyn arian wedi dangos y gallwn ni ddilyn dulliau gwahanol a mwy costeffeithiol heb orfod cyfaddawdu ar ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gronfa Buddsoddi i Arbed

Tagiau

Busnes a'r economi 13 Rhagfyr 2011 Cyllideb Yr economi Programme for Government - Public Services Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i