Yn ystod ymweliad â'r rhaglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent, sydd wedi elwa ar y rhaglen yn y gorffennol, amlinellodd y Gweinidog sut bydd y buddsoddiad newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei ddyrannu.
Caiff y cyllid ei ddefnyddio fel a ganlyn:
- £6.6 miliwn ar gyfer y GIG i gefnogi mentrau gwella sydd â'r potensial i arbed £15 miliwn ar draws Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gyflwyno rhestrau dyletswydd electronig ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i'w helpu i reoli staff a lleihau'r angen am staff banc, staff asiantaeth a staff locwm. Bydd hefyd yn ariannu cynlluniau gadael swydd yn gynnar o wirfodd fel rhan o raglen drawsnewid ehangach mewn chwe Bwrdd Iechyd.
- £3 miliwn i helpu integreiddio'r systemau a chefnogi costau trosgwlyddo ar gyfer yr Un Corff Amgylcheddol a fydd yn tynnu ynghyd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, a rhagwelir y bydd yn arbed £158 miliwn dros 10 mlynedd. Bydd ymgynghoriad polisi ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r corf newydd yn dechrau yn gynnar yn 2012.
- £380,000 i helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ad-drefnu ei swyddfeydd er mwyn cefnogi gweithio hyblyg gan staff, lleihau costau rhedeg blynyddol o £175,000, a chynhyrchu cyfalaf trwy werthu asedau sydd dros ben.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae'r prosiect Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent yn enghraifft wych o sut mae Buddsoddi i Arbed wedi helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus. Gydag amser, bydd hynny'n arwain at fanteision sylweddol - gan gynnwys arbedion ariannol.
"Mae'r prosiect wedi dangos sut all cydweithio roi'r cyfle i bobl agored i niwed aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae hynny'n rhoi ansawdd bywyd gwell iddynt ac yn lleihau'r straen ar wasanaethau gofal hirdymor.
"Dyma'r math o gydweithio arloesol rydw i am ei weld yn digwydd yn amlach ledled Cymru. Drwy uno gwasanaethau, fe allwn ni wneud yn si?r bod gan bawb fynediad at wasanaethau effeithlon o ansawdd uchel, a hynny wrth ddefnyddio ein cyllid cyfyngedig yn y ffordd fwyaf effeithiol.
"Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau'r gwerth gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael inni. Mae'r holl gynigion sy'n derbyn arian wedi dangos y gallwn ni ddilyn dulliau gwahanol a mwy costeffeithiol heb orfod cyfaddawdu ar ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus."











