Mae cymuned Felindre bellach yn gweld y manteision, gan wneud siopa Nadolig ar-lein a defnyddio Skype i anfon cyfarchion y tymor at ffrindiau a pherthnasau dramor. Gall busnesau hefyd gynnig gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol i’w cleientiaid.
Dyma’r gymuned ddiweddaraf i elwa ar Gynllun Cymorth Band Eang Llywodraeth Cymru sy’n rhoi hyd at £1000 i unigolion, busnesau a mudiadau’r trydydd sector tuag at y costau o osod cysylltiad band eang mewn mannau gwan.
Yn dilyn cais llwyddiannus ar ran y gymuned gyfan, mae gan Felindre wasanaeth band eang 4.5Mbps erbyn hyn. Cyn hynny roedd gan rai pobl gysylltiad araf iawn â’r we ond doedd dim unrhyw gysylltiad gan eraill.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, ei bod hi’n ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyflenwad band eang effeithiol.
"Mae’r prosiect yn Felindre yn dangos pa mor effeithiol yw’r Cynllun Cymorth Band Eang o ran dileu mannau gwan a sut mae’n helpu cymunedau i ddarparu gwasanaeth band eang cynaliadwy i ardaloedd gwledig yng Nghymru."
Mae wedi gwneud bywyd yn llawer haws i Jud a Claire Hamblin sy’n rhedeg Felindre Servicing – yr unig ganolfan warant ac ôl werthu yn y DU sydd wedi’i hawdurdodi ar gyfer gwialenni a riliau pysgota y cwmni Japaneaidd Shimano.
Mae gwasanaeth band eang cyflym yn holl bwysig i’w busnes gan eu bod yn gweithio gyda Phencadlys Ewropeaidd Shimano yn yr Iseldiroedd a’i brif swyddfa yn Japan.
Maen nhw hefyd yn prosesu ac yn dosbarthu holl archebion Shimano yn y DU ar gyfer offer pysgota ar ran cleientiaid fel Argos – gan ddosbarthu rhyw 9000 o eitemau bob tymor.
Dywedodd Jud fod y cysylltiad cyflym yn ardderchog a’i fod yn ei alluogi i anfon nwyddau a bod yn hyderus y byddan nhw’n cyrraedd cyn y Nadolig.
"Bellach rwy’n gallu lawrlwytho’r ffeiliau enfawr sy’n cynnwys holl archebion Argos a’u prosesu. Mae wedi gwneud gwahaniaeth anferth. Roedd yn anodd ac yn rhwystredig peidio â chael gwasanaeth band eang da, yn enwedig gan ein bod yn gwneud busnes gyda chwmnïau ledled y byd."
Mae band eang cyflym hefyd yn fendith i ddyn tân Christopher Byng a’i deulu.
Mae’n golygu bod ei fam Sharon, sy’n gweithio’n amser llawn, wedi gallu gwneud ei siopa Nadolig ar-lein yn ei chartref. Mae hefyd yn bwriadu defnyddio Skype ddydd Nadolig i gael sgwrs gyda’i brawd sy’n byw yn Sbaen.
Dywedodd Christopher ei fod yn welliant enfawr.
"Roedd gyda ni wasanaeth deialu cyn hynny a oedd yn gallu cymryd hyd at ddwy awr i adael ichi archebu un eitem. Ond yn ddiweddar rydym wedi defnyddio’r we i drefnu teithiau awyren i Sbaen i ymweld â’m hewythr. Roedd y gallu i anfon e-byst ato a siarad ag e ar-lein wedi gwneud y broses yn llawer haws."
Bu Phil Owen, Swyddog Datblygu Cymunedol i Ymddiriedolaeth Datblygu’r Mawr, yn cydgysylltu’r gwaith ar ran y gymuned, ac erbyn hyn mae 54 o gartrefi a busnesau â chysylltiad band eang a bydd deg arall yn cael eu cysylltu cyn hir gyda llawer eraill yn ymuno â’r rhwydwaith bob dydd.
"Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn ceisio sicrhau darpariaeth band eang i Felindre am dair blynedd ond doedd darparwyr y gwasanaeth ddim wedi dangos unrhyw ddiddordeb. Ond roedd ein sefyllfa ariannol yn well diolch i’r Cynllun Cymorth Band Eang, a rhoddodd cwmni lleol, ResQ I.T. and Telecoms, ddarpariaeth i ni".











