Mae Alexandra Hunter, a basiodd ei diploma fel ffarier yn ddiweddar ar ôl pedair blynedd a hanner o brentisiaeth, wedi cael grant ‘Busnesau sy’n Ffynnu’ gan bartneriaeth Cwm a Mynydd Caerffili sy’n rheoli’r Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili. Bydd y grant yn helpu Alex i brynu offer arbenigol ac i farchnata ei busnes fel ffarier symudol a’i galluogi i ymweld â pherchnogion ceffylau yn gwneud pedolau ac yn eu gosod.
Dim ond pum ffarier sydd yng Nghymru ac mae Alex yn un ohonynt a hi yw’r unig un sy’n gweithio yn y de-ddwyrain. Mae hi wedi profi bod menywod hefyd yn gallu bod yn ffarier ac mae hi wedi ennill tair gwobr genedlaethol gan gynnwys gwobr am y ‘Sgiliau Gofanu Gorau’ – yr unig fenyw erioed i ennill y wobr.
Fel rhan o’r pecyn cymorth, bydd tîm datblygu gwledig Cwm a Mynydd Caerffili yn helpu Alex i gael gwybod am ddigwyddiadau amaethyddol lleol, rhwydweithiau a chysylltiadau a bydd hi hefyd yn gallu ymuno â rhwydwaith o fentrau gwledig lleol er mwyn cyfnewid arferion da a rhannu syniadau.
Dywedodd Alex:
“Mae dechrau busnes o’r newydd yn golygu bod yn rhaid i mi adeiladu rhestr o gleientiaid felly mae’r cymorth yr wyf wedi’i gael ar gyfer marchnata gan y Cynllun Datblygu Gwledig a chynllun Cwm a Mynydd Caerffili wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae’r cyngor busnes rwy’n ei gael yn ddefnyddiol iawn hefyd ac er fy mod wedi cael hyfforddiant am bedair blynedd a hanner i fod yn ffarier, nid wyf wedi cael unrhyw hyfforddiant ar sut i redeg busnes.
“Er ei fod yn faes sy’n draddodiadol yn cael ei gysylltu â dynion, mae bod yn fenyw yn y maes hwn yn fanteisiol iawn. Gan fod y rhan fwyaf o berchnogion ceffylau yn fenywod, mae’r anifail wedi arfer â menyw. Oherwydd hynny, mae’r ceffyl yn dueddol i ymlacio mwy ac mae hynny’n gwneud y perchnogion yn hapus iawn!”
Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd:
“Dyma enghraifft wych o sut mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn helpu busnesau bach yng nghefn gwlad Cymru ac yn cyfrannu at yr economi yn yr ardaloedd hyn, sy'n hollbwysig yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni. Rwy’n dymuno pob lwc i Alex gyda’r fenter”.











