Ar ymweliad â Choleg Gŵyr clywodd Edwina Hart y Gweinidog Busnes fod cynlluniau wedi datblygu bellach i sefydlu’r Academi ym mis Medi 2012, i ddarparu cyrsiau BTEC3 entrepreneuriaeth a menter pwrpasol.
Bydd myfyrwyr nid yn unig yn dysgu am theorïau rhedeg busnes, ond byddant yn sefydlu eu busnesau eu hunain ac yn masnachu tra’n astudio ar gyfer cymwysterau BTEC mewn entrepreneuriaeth a menter.
Roedd Mrs Hart yn ymweld â’r coleg i gyfarfod aelodau o Gonsortia Fenter Bae Caerdydd a chlywed am eu gwaith yn ehangu addysg entrepreneuriaeth o addysg gynradd i Addysg Uwch.
Mae’r consortia o dan arweiniad Sue Poole, Rheolwr Addysg Fenter yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, fel rhan o Rwydwaith Menter Cymru sy’n cael ei ariannu o dan y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid.
Mae cydweithredu cadarn rhwng y ganolfan fenter a sefydliadau addysg, y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol, awdurdodau lleol a busnesau sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ym maes entrepreneuriaeth ar draws ardal Bae Abertawe.
Dywedodd Mrs Hart fod y cydweithredu i sefydlu ysbryd entrepreneuraidd ym mhobl ifanc Bae Abertawe wedi creu argraff arni.
“Mae angen inni annog agwedd bositif o fedru llwyddo ymhlith pobl ifanc fydd yn helpu eu rhagolygon yn y dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi ac annog mwy o bobl i feddwl am ddechrau eu busnesau eu hunain.
“Dwi’n falch iawn o glywed bod y Consortia yn mynd ati i gefnogi y Cynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru, sydd â’r nod o ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.”
Dywedodd Sue Poole, a enillodd y wobr Addysgwr Menter y Flwyddyn 2011 ym Mhrydain, ei fod yn hanfodol bwysig fod darpar entrepreneuriaid ifanc yn dysgu sut brofiad yw sefydlu busnes go iawn:
“Mae’n hanfodol bod y bobl ifanc yn profi’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, y gystadleuaeth sydd o fewn byd busnes ac yn dysgu gan arbenigwyr o fusnesau lleol.
“Bydd y cwrs newydd yn datblygu agwedd hyderus a meddylfryd lwyddiannus fydd yn help os fyddan nhw’n penderfynu bod yn entrepreneuriad neu weithio o fewn busnes sydd eisoes wedi’i sefydlu, bydd yr hyder yn helpu iddyn nhw lwyddo gyda beth bynnag y maent yn dewis ei wneud mewn bywyd.”











