Mae’n dilyn adolygiad a gynhaliwyd y flwyddyn diwethaf i bwyso a mesur sut mae’r sector preifat yn buddsoddi mewn band eang y genhedlaeth nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i geisio sicrhau bod Band Eang y Genhedlaeth Nesaf ar gael i bob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2015 a bydd yn cynorthwyo’r ardaloedd hynny nad yw’r sector preifat yn buddsoddi ynddynt.
Gallwch weld rhestr o’r ardaloedd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cynorthwyo trwy glicio ar y ddolen hon Adolygiad o’r Farchnad Agored - Cam 2
Mae hwn yn gyfle i’r farchnad gyflwyno cynigion neu sylwadau pellach er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i wybod lle mae’r sector preifat eisoes wedi buddsoddi mewn rhwydweithiau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fand eang neu’r ardaloedd y maent yn bwriadu buddsoddi ynddynt dros y tair blynedd nesaf.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu yn ail gam y broses o adolygu’r farchnad agored gael manylion yn Adolygiad o’r Farchnad Agored - Cam 2
Bydd yr wybodaeth yn helpu Gweinidogion Cymru i benderfynu lle dylid canolbwyntio ar osod rhwydwaith band eang y genhedlaeth nesaf. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 23/02/2012.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes,
“Mae nod clir i’r adolygiad hwn sef sicrhau bod yr ardaloedd yr ydym yn bwriadu’u cynorthwyo yn manteisio i’r eithaf ar gynlluniau’r sector preifat i fuddsoddi mewn band eang y genhedlaeth nesaf.
"Rydym am sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo’r ardaloedd hyn mewn ffordd sy’n gwneud y gorau o’n buddsoddiad. Rydym wedi gwneud ymrwymiad pendant yn ein Rhaglen Lywodraethu i sicrhau bod band eang y genhedlaeth nesaf ar gael i bawb erbyn 2015. Trwy fuddsoddi mewn rhwydwaith digidol o’r radd flaenaf, byddwn yn gallu cystadlu ar lefel ryngwladol a sicrhau bod Cymru ymhell ar y blaen yn yr economi ddigidol.
“Mae’n hanfodol bod band eang cadarn a chyflym ar gael i bob cartref a busnes yng Nghymru yn yr 21ain ganrif er mwyn iddyn nhw allu defnyddio’r gwasanaethau a’r cyfleoedd y mae technolegau digidol yn eu cynnig iddynt.”











