Bydd yr hwb ariannol yn helpu Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam i ddatblygu eu cynlluniau adfywio trefi ymhellach er mwyn gwella ymddangosiad canol trefi fel Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry, Saltney a Shotton yn ogystal â gwella mannau cyhoeddus eraill.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan £3 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Daw rhagor o arian oddi wrth yr awdurdodau lleol.
Dywedodd Mr Davies,
“Bydd adfywio canol trefi Sir y Fflint a Wrecsam yn creu cyfleodd newydd i unigolion a busnesau wrth i fwy o arian gael ei fuddsoddi yn yr ardal. Dyma enghraifft arall o sut mae arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau, gan greu mwy o swyddi a meithrin mwy o ymdeimlad o fentergarwch.”
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r arian fel rhan o’i raglen Cynllun Gweithredu ehangach ar gyfer Trefi gan ddefnyddio’r arian i wella apêl canol trefi’r sir ac annog cwmnïau o’r sector preifat i fuddsoddi yn yr ardaloedd hyn. Yn Wrecsam, bydd Stryd y Brenin yn cael ei hadfywio fel ei bod yr un mor ddeniadol â’r orsaf newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol ar gyfer Diwygio a Llywodraethu Corfforaethol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
“Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cael arian o Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae ein cyllid yn dynn ar hyn o bryd felly mae hwn yn newyddion da iawn. Byddwn yn gwella’r stryd ger yr orsaf fysiau yn Wrecsam gan mai hon yw’r stryd y mae llawer o bobl sy’n ymweld â’r dref yn ei gweld gyntaf."
Dywedodd y Cynghorydd Matt Wright, sy’n gyfrifol am Bortffolio Adfywio a Thwristiaeth Cyngor Sir y Fflint,
“Mae hwn yn hwb cyffrous arall i’n sir. Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Gyngor Sir y Fflint, ar y cyd â Chyngor Wrecsam, gyflwyno cais am help i ganol ein trefi. Mae’r cyllid hwn gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop yn golygu ein bod yn gallu rhoi hwb ariannol pellach i’n prosiect Partneriaeth Canol y Dref sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n cynorthwyo cynlluniau yn y Fflint, yr Wyddgrug, Treffynnon, Bwcle a threfi eraill.
“Mae cyfnod anodd yn wynebu canol ein trefi, fel y nodwyd yn adroddiadau diweddar Mary Portas a Phwyllgor Menter a Busnes Llywodraeth Cymru, ac felly mae’r cymorth hwn i wella eu hamgylchedd ffisegol ac i annog busnesau i fuddsoddi yn y stryd fawr yn gam mawr ymlaen.”











