Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mrs Hart yn dweud wrth Ddinas Llundain bod Cymru’n gefnogol i fusnesau.

Mae Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, wedi dweud wrth gynrychiolwyr y Ddinas yn Llundain bod Cymru yn un o'r rhanbarthau mwyaf cystadleuol yn y DU ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.
Dydd Iau 01 Mawrth 2012

Roedd y Gweinidog yn cynnal cinio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Mansion House gydag Arglwydd Faer Dinas Llundain a bydd yn lansio strategaeth twf Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector.

Dywedodd Mrs Hart yn dweud wrth Gadeiryddion, Rheolwyr Gyfarwyddwyr, Prif Swyddogion Gweithredol ac Uwch-weithredwyr sefydliadau ariannol rhyngwladol a chwmnïau gwasanaethau busnes proffesiynol bod Cymru’n gefnogol i fusnesau.

Nod y strategaeth newydd ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol (F&PS) yw cynyddu nifer y swyddi yn y sector o 124,000 i 200,000 erbyn 2021 gan gynyddu swyddi a gwerth ychwanegol crynswth (GVA) yn y sector hwn yn gynt bob blwyddyn na’r cyfartaledd ar gyfer y DU.

Dywedodd Mrs Hart wrth y gwahoddedigion bod y strategaeth yn cynnwys cyfres o gyfleoedd rhagorol i Ddinas Llundain, gan gynnwys y ffaith bod Caerdydd ar fin cael Ardal Fenter wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, y cyntaf o’i fath yn y DU.

Dywedodd y Gweinidog:

“Byddwn yn targedu busnesau rhyngwladol yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, yn ogystal ag adrannau o Lywodraeth y DU, ac yn eu hannog i fanteisio ar becynnau hyfforddi a sgiliau deniadol er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol a gwella’u perfformiad, a’u hannog i symud rhan o’r busnes neu’r busnes cyfan i Gymru.

“Gall yr Ardal Fenter newydd helpu busnesau rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn Llundain i fod yn fwy cost-effeithiol trwy roi cartref i’w swyddogion swyddfa gefn, gyda chefnogaeth cronfa gyfoethog o sgiliau yn Rhanbarth Dinas Caerdydd.

“Mae Rhanbarth Dinas Caerdydd yn falch o’i gysylltiadau busnes â Llundain ac rydym yn ystyried bod perthynas rhwng cynrychiolwyr busnes pwysig yn hanfodol er mwyn gallu cydweithio i gefnogi ac ysgogi twf economaidd.”

Y prif siaradwr yn y lansiad fydd Syr Win Bischoff, Cadeirydd Lloyds Banking Group a bydd yn siarad am y profiadau cadarnhaol y mae’r grŵp wedi’u cael yng Nghaerdydd a’r ffaith bod y ddinas yn lleoliad busnes deniadol.  Mae Lloyds Banking Group yn cyflogi tua 5,000 o bobl yn Rhanbarth Dinas Caerdydd.

Bydd y strategaeth twf, sydd wedi’i llunio gan banel cynghori yn y sector annibynnol o dan gyfarwyddyd Chris Nott, Uwch Bartner yn Capital Law yn gwneud y canlynol:

  • Sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon yn Llundain ac yn rhyngwladol i helpu i yrru’r neges bod ‘Cymru’n gefnogol i fusnesau’.
  • Gweithio gyda 100 o gwmnïau Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol mwyaf Cymru i ddatblygu cynllun busnes tair blynedd sy’n nodi cyfleoedd iddynt dyfu ac i ddatrys unrhyw rwystrau yn eu cynlluniau i dyfu.
  • Helpu Busnesau Bach a Chanolig sy’n tyfu’n gyflym a llunio cynllun cymorth priodol iddynt er mwyn cynnal twf.
  • Helpu busnesau sy’n tyfu i gael cymorth ariannol a chefnogaeth broffesiynol.
  • Hybu cydweithio rhwng Diwydiant, Ysgolion a Phrifysgolion er mwyn annog ymchwil a sicrhau bod y cwricwlwm a’r sgiliau sydd ar gael yn ateb gofynion busnes.
  • Tynnu sylw myfyrwyr at swyddi yn y Sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a sicrhau bod gan fusnesau yng Nghymru gronfa o staff proffesiynol ar gael sydd â’r sgiliau angenrheidiol
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Tagiau

Busnes a'r economi 01 Mawrth 2012 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i