Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Buddsoddi mewn seilwaith yn hanfodol i Gymru, meddai Jane Hutt

Heddiw, bydd Jane Hutt y Gweinidog Cyllid yn galw ar fusnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i rannu eu barn am yr heriau, y cyfleoedd a’r blaenoriaethau i Gymru o ran seilwaith.
Dydd Gwener 09 Mawrth 2012

Wrth annerch cynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig, bydd Jane Hutt yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi yn seilwaith Cymru a bydd yn rhoi ei hymrwymiad i barhau i annog Llywodraeth y DU i gefnogi twf economaidd ledled Prydain.  

Meddai Jane Hutt:

"Mae buddsoddi mewn seilwaith yn hanfodol i Gymru – i’r economi a’n gwasanaethau cyhoeddus.  Mae’n hanfodol i economi Cymru gan y gall buddsoddi mewn seilwaith fod yn hwb pwysig y mae galw mawr amdano.  

"Mae cyllideb gwariant cyfalaf Cymru yn cael ei thorri 40% mewn gwirionedd, gan roi cyfyngiadau mawr ar ein gallu i fuddsoddi yn seilwaith Cymru a helpu economi Cymru.  

"Rydyn ni wedi diogelu cyllidebau cyfalaf eleni, er gwaethaf y toriadau a orfodwyd arnom, ac er bod y mesurau rydyn ni eisoes wedi’u cymryd yn cael effaith bositif, mae’n rhaid inni sicrhau hefyd ein bod yn manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gennym.  Mae’n hanfodol bod ein hadnoddau, sy’n fwyfwy cyfyngedig, yn ffocysu ar ein blaenoriaethau strategol.  

"Dyna pam ein bod ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru.

"Bydd y cynllun yn dangos cyfeiriad Llywodraeth Cymru dros y 10 mlynedd nesaf, ac amlinelliad dros ddwy i dair mlynedd dreigl o’r buddsoddiadau sydd wedi’u cymeradwyo.  Bydd hefyd yn dechrau proses o nodi a blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith sy’n bwysig yn genedlaethol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru."  

Ychwanegodd:

"Bydd cyllido arloesol yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu seilwaith allweddol yng Nghymru, ac rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o godi’r cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn economi Cymru.  Dwi’n falch o ddweud bod pethau’n datblygu’n dda.  

"Ar 31 Ionawr, lansiwyd Menter Benthyca Llywodraeth Leol, a ddylai godi hyd at £170 miliwn o fuddsoddiad mewn gwelliannau i’r priffyrdd dros y 3 mlynedd nesaf.  Heb y fenter hon, ni fyddem yn gallu fforddio’r gwelliannau hyn.      

"Cyn cyhoeddi fersiwn cyntaf y cynllun ym mis Mai, byddaf yn cysylltu’n eang â busnesau, partneriaid y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i gael eu barn ar yr heriau, y cyfleoedd a’r blaenoriaethau i Gymru o ran seilwaith.

"Dwi’n credu ei bod yn hanfodol bod y cynllun, ei fersiynau yn y dyfodol a’r ffrydiau gwaith sy’n datblygu ochr yn ochr ag ef yn cael eu llywio gan y profiad a’r wybodaeth o bob sector yng Nghymru.  

"Mae angen y seilwaith iawn arnom i gynnig gwasanaethau cyhoeddus modern a hygyrch.  Trwy gydweithio, gallwn wneud yn siŵr y bydd hyn yn digwydd tra hefyd yn parhau i gefnogi economi Cymru." 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 09 Mawrth 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Programme for Government - Public Services Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i