Ymunodd Mrs Hart â Rheolwr Gyfarwyddwr Google UK Dan Cobley heddiw i lansio’r ymgyrch ‘Rhoi Busnesau Cymru Ar-lein’. Bydd yn cefnogi economi ar-lein Cymru trwy annog a helpu busnesau bach a chanolig Cymru i greu gwefannau a gwneud mwy o’u busnes ar-lein.
Mae Llywodraeth Cymru’n noddi rhan gyntaf y cynllun 12 mis. Bydd y cynllun yn cynnig sesiynau tiwtorial am ddim i fusnesau bach yng Nghymru gyda thechnegwyr Google, yn rhoi cyfle i gael gwefan am ddim ac yn rhoi gwersi ar sut i farchnata a hysbysebu ar-lein.
Mae Google wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni cyfathrebu o Gaerdydd, Culture Group, i lansio a chynnal yr ymgyrch yng Nghymru. Sylfaenydd Culture Group, Glynn Pegler, yw un o’r chwe phencampwr a ddewiswyd gan Mrs Hart i hyrwyddo entrepreneuriaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Wrth annerch y lansiad yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, meddai Mrs Hart,
“Mae gan Gymru sector busnesau bach ffyniannus ac amrywiol, sy’n cyfrannu mewn ffordd hanfodol a deinamig at lwyddiant economi Cymru. Mae e-fasnachu wedi cynyddu’n aruthrol ac mae 90 y cant o fusnesau Cymru bellach yn defnyddio’r rhyngrwyd.
“Fodd bynnag, mae rhyw 83,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn dal heb wefan a dim ond 33 y cant ohonyn nhw sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i werthu’u cynnyrch. Trwy weithio gyda Google, byddwn yn dysgu llawer o’r busnesau bach hyn i ddefnyddio’r rhyngrwyd i fanteisio ar farchnadoedd a chyfleoedd newydd ac i gyrraedd cwsmeriaid newydd ar-lein ym Mhrydain a thu hwnt.
“Mae’n wych gweld Google, un o brif gwmnïau ar-lein y byd, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Culture Group i lansio’r ymgyrch Brydeinig bwysig hon yng Nghymru. Mae’n gadarnhad mawr o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud yma yng Nghymru trwy ein Strategaeth Cymru Ddigidol ac yn ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gyda ni i wireddu ein huchelgais o wneud Cymru’n wlad wirioneddol ddigidol.”
Ychwanegodd Mrs Hart,
“Dyma gyfle unigryw i filoedd o fusnesau o Gymru gael help personol i fynd ar-lein a denu cwsmeriaid newydd. Mae’n gyfle hefyd i fusnesau technoleg ym mhob rhan o Gymru i gydweithio â Google a dod yn un o’i arbenigwyr lleol gan wneud yn siwr bod effaith yr ymgyrch yn para ymhell wedi 12 mis y prosiect.”
Meddai Dan Cobley, Rheolwr Gyfarwyddwr, Google UK,
“Dywed adroddiad diweddar gan y Boston Consulting Group fod busnesau bach sy’n frwd dros ddefnyddio’r rhyngrwyd yn tyfu bedair gwaith yn gynt na chwmnïau sydd heb gysylltiad â’r we. Gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, rydym am i fusnesau o bob maint o Gymru ddeall pwysigrwydd y Rhyngrwyd a mor hawdd yw mynd ar-lein a chyfrannu at dwf economi Cymru.”











