Y sioe fydd digwyddiad masnach bwyd a diod fwyaf y Deyrnas Unedig yn 2012, gyda thua 550 o gwmnïau'n cymryd rhan gan amrywio o enwau cyfarwydd i fusnesau crefft newydd eu sefydlu.
Bydd y cwmnïau'n cynnwys pob maes o'r sectorau gwasanaeth bwyd, manwerthu arbenigol a gweithgynhyrchu.
Bydd ugain o gwmnïau yn arddangos yn yr NEC yn Birmingham dan fantell brand Gwir Flas Llywodraeth Cymru, yn cynnwys nifer a enillodd wobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.
Mae Tan y Castell (Foods) Cyf yn pobi teisennau cri a bara brith i rysetiau ffermdy Sir Benfro yn ei fecws sydd ag achrediad Gradd 'A' y BRC (Consortiwm Manwerthu Prydain) yn Arberth.
Byddant yn arddangos dau gynnyrch newydd yn yr Expo hefyd - sgons a theisen torth ffermdy Sir Benfro.
Cychwynnodd y cwmni, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, 16 mlynedd yn ôl yng nghegin y perchennog ac mae bellach yn cyflenwi siopau lleol, archfarchnadoedd cenedlaethol a manwerthwyr o fri fel Harrods a Fortnum and Mason.
Yn ogystal â'i ddewis llawn o dd?r ffynnon llonydd a phefriog a d?r gyda blas mewn poteli PET, bydd cwmni Princes Gate Spring Water Cyf, sydd hefyd o Arberth, yn dangos ei boteli 500ml arbennig newydd.
Mae fformat potel d?r llonydd a phefriog newydd y cwmni yn canolbwyntio ar ethos brand y cwmni llwyddiannus gan ddangos cymylau gyda glaw'n disgyn ar fynyddoedd y Preselau.
Aeth blwyddyn heibio ers i Authentic Curries & World Foods (a elwid gynt yn Authentic Curry Company) lansio ei frandio newydd.
Mae'r cwmni, sy'n gwneud detholiad eang o fathau cyri a phrydau parod ar gyfer y sectorau manwerthu a masnach, wedi cyfuno ei weithgareddau a chynyddu gallu cynhyrchu yn ei safle pwrpasol yn Hirwaun, De Cymru.
Ffurfiwyd y cwmni yn 1995 gan y rheolwr gyfarwyddwr Paul Trotman ac mae bellach yn cyflogi 38 o bobl gan gynhyrchu bron 100 o fathau o seigiau.
Yn yr Expo Bwyd a Diod, bydd Authentic Curry & World Foods yn arddangos ei ddewis enwog o gyris a phrydau a gynlluniwyd ar gyfer anghenion y sector arlwyo yn cynnwys seigiau blasus fel 'Tafellau o Eidion Rhost mewn Grefi', 'Peli Cig mewn Saws Sbeislyd' a 'Ffagodau gyda Grefi'.
Bydd becws arbenigol Easibake Foods Cyf. o Dde Cymru yn datgelu amrediad newydd o gynnyrch bara gwastad cyffrous yn y sioe. Yn rhan o'r Evron Foods Group, mae Easibake yn cyflenwi sectorau Manwerthu, Gwasanaeth Bwyd, Cyfanwerthu a Phrosesu Bwyd y Deyrnas Unedig.
Caiff amrywiaeth o gynnyrch eu creu yn eu ffatri fodern 70,000tr sg ym Mhont-y-p?l, yn arbennig fara crefftus a ciabattas a gaiff eu pobi ar wadn y ffwrn; a thorthau, rholiau a ciabattas i'w cadw ar dymheredd ystafell addasedig.
Caiff bara garlleg a bara arbenigol wedi'u topio a'u crefftio â llaw, bara heb gluten, bara wedi'i rhan-bobi a melysfwydydd hefyd eu cynhyrchu ym Mhont-y-p?l yn ogystal ag ym mecws Evron yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Cwmni Caws Caerfyrddin wedi ennill gwobrau am nifer o'i gawsiau, yn cynnwys Pont Gar a Llangloffan, a bydd yn dangos ei ddewis diweddaraf o gawsiau croen gwyn meddal.
Cafodd y cawsiau newydd - Great British Brie, Luxury British Brie a Full Flavour British Brie - eu cynhyrchu mewn menter ar y cyd gyda'r dosbarthydd Bradburys.
Mae Great British Brie yn gaws llyfn a hufennog wedi'u basteureiddio; mae Luxury British Brie yn gaws moethus wedi'i basteureiddio yn cynnwys hufen ychwanegol; a Full Flavour British Brie yn gaws wedi'i basteureiddio gyda blas cadarn a llawn, tebyg o ran arddull i gynnyrch 'Brie de Meaux'.
Bu cwmni teuluol Lewis Pie & Pasty Company yn pobi yn Abertawe am fwy na thri-chwarter canrif, gan ddarparu dewis helaeth o basteiod, pastenni a thafelli, yn ogystal â theisennau a bisgedi.
Cynnyrch diweddaraf y cwmni yw Pastai Tikka Cyw Iâr - a alwyd yn 'hoff gyri Prydain bellach ar gael mewn pastai'. Anelwyd y bastai 190g at y diwydiant gwasanaeth bwyd ac fe'i lansir yn yr Expo, yn dilyn profion llwyddiannus iawn ymhlith defnyddwyr, a welodd y bastai newydd hyd yn oed yn gwerthu mwy na Phastai Balti boblogaidd Lewis.
Hefyd ar y stondin yn yr Expo bydd amrywiaeth o basteiod, pastenni a thafelli, yn cynnwys y Dafell Stêc, cynnyrch mwyaf poblogaidd y busnes.
Mae cwmni Clarks UK Cyf o Gasnewydd yn gwneud amrediad o fathau o syrup masarn a mêl yn ei ffatri gradd 'A' BRC.
Ynghyd â'i fathau masarn pur a blend, mae'r cwmni hefyd wedi cyflwyno cynnyrch masarn wedi'i gyfuno gyda fanila, mafon cochion pecyn neu gnau Ffrengig.
Gwneir Clarks Natural Maple Spread, cynnrych diweddaraf y cwmni, drwy gyfuno syrup masarn pur gyda syrup Carob a phectin llysiau naturiol. Y canlyniad yw taeniad blasus 100% naturiol gyda 30% yn llai o siwgr na mêl.
Yn newydd gan Langfords The Welsh Sausage Company mae asennau diasgwrn ar gyfer barbeciw, a ddangosir yn yr Expo ynghyd â chynnyrch cig y cwmni.
Mae'r cwmni o'r Trallwng yn gwneud amrywiaeth o gynnyrch ar gyfer y sector lletygarwch yn cynnwys selsig, byrgyr, pastenni a pheli cig.
Mae Trioni Cyf yn cynhyrchu amrediad Daioni o flaslaeth organig.
Bydd y cwmni o Sir Benfro yn cyflwyno ei gartonau 200ml a 1 litr amlieithog newydd o ddiodydd organig mefus a siocled.
Mae Trioni wedi cynhyrchu dau fersiwn, a arddangosir yn yr Expo; un gyda gwybodaeth wedi'i argraffu mewn Arabeg, Mandarin a Groeg, a'r llall gydag ieithoedd Ewropeaidd.
Mae Ty Nant Spring Water Cyf yn cynhyrchu amrediad o fathau d?r mwynol o'r safon uchaf yng nghanol Gorllewin Cymru o dir organig a ardystiwyd gan Gymdeithas y Pridd.
Yn enwog am ei boteli gwydr glas eiconig, mae'r amrediad hefyd yn cynnwys potel wydr coch tywyll a photel PET (plastig) flaengar newydd a gynlluniwyd gan y Cymro Ross Lovegrove i fwrw i gof lif naturiol a natur adfywiol d?r.
Hefyd yn rhan o'r amrediad mae d?r ffynnon TAU gyda photel gain finimalaidd gyda label ddu a gwyn.
Mae poteli Ty Nant i'w gweld yn rhai o brif westai a bwytai'r byd, ac yn ddewis poblogaidd mewn digwyddiadau proffil uchel.
Bydd Mintons Good Food Cyf yn lansio brand newydd Hungry Dragon o snaciau sawrus a melys.
Y tri chynnyrch cyntaf yn yr amrediad yw cnau daear rhost hallt, cnau daear wedi'u sych-rostio a Bombay Mix.
Mae'r cwmni teuluol yn dosbarthu amrediad eang o fwydydd safon uchel - yn cynnwys bwydydd cyflawn, bwydydd iach a bwydydd moethus - o'i ganolfan yn Llandrindod. Yng Ngogledd Cymru mae pencadlysoedd naw o'r cwmnïau fydd yn arddangos.
Yn eu plith mae Halen Môn, a ddechreuodd gyda llond sosban o dd?r o'r Fenai ar yr Aga yng nghegin y teulu Lea-Wilson.
Caiff yr halen môr ei gynaeafu mewn llaw a'i allforio yn fydeang a'i ddefnyddio gan rai o chefs a bwytai gorau'r byd.
Bydd detholiad o gynnyrch ar gael yn Expo yn cynnwys amrediad newydd o roddion halen môr, yn ogystal â saws caramel hallt, bara lawr, creision a darnau porc - oll wedi'u gwneud gyda Halen Môn.
Mae Roberts Country Fayre yn gwneud pastenni a quiches arbenigol yn ei bencadlys yn Wrecsam.
Cynhyrchir yr amrediad ar gyfer y farchnad bwydydd rhew gwasanaeth bwyd ac mae'n cynnwys dewis eang o quiches - o Sbaenaidd a Lorraine i Brie a thomato, a phastenni arlwyo 2-cilo wedi'u torri ymlaen llaw megis Stêc a Guinness, Helgig, Cig Carw a Ham a Chennin.
Yn datgelu ei olwg newydd yn Expo bydd cwmni iogwrt Llaeth y Llan Cyf, ynghyd â'i bot mawr 450g newydd ar gyfer rhannu sydd ar gael mewn blasau mefus, taffi, naturiol a ffrwythau'r goedwig.
Am dros 25 mlynedd, bu'r cwmni o Sir Ddinbych yn cynhyrchu amrediad eang o iogwrt blasus, gyda llawer ohonynt yn cael eu harddangos yn cynnwys cyrens duon, mandarin, eirin Mair, riwbob ac eirin gwlanog.
Bydd y cynhyrchydd selsig The Traditional Welsh Sausage Company Cyf (Edwards o Gonwy) yn arddangos un o'i gynnyrch diweddaraf, Byrgyr Stêc Cymreig.
Hefyd yn cael eu dangos fydd amrywiaeth o selsig yn cynnwys porc traddodiadol, porc a chennin, porc a pherlysiau, porc gyda phupur du mân, porc a porc a chilli.
Mae Patchwork Traditional Food Company yn gwneud pate, terinau a hufen iâ yn Rhuthun.
Mae'r busnes teuluol wedi ennill nifer fawr o wobrau a bydd yn dangos tri math newydd o pate dan ei faner 'British Classics', sy'n dathlu treftadaeth Brydeinig.
Mae'r jariau 110g o bate iau cyw iâr blasus ar gael gyda rhosmari a theim, madarch a chwrw a marmaled a wisgi.
Tomlinson Dairies Cyf o Wrecsam yw prosesydd llaeth mwyaf Cymru sy'n cyflenwi mwy na 300 o safleoedd yng Nghymru a Gogledd Orllewin a Chanol Lloegr.
Bydd y busnes teuluol yn agor ei laethdy newydd sbon o'r math diweddaraf yn y dyfodol agos, ac mae'r cwmni newydd gael ei ail-frandio'n llwyr.
Bydd The Celtic Spirit Cwmni yn arddangos ei brif gynnyrch sef Danzy Jones a gwirod Black Mountain.
Mae'r cwmni o Ynys Môn yn gwneud gwirodydd o rysetiau teuluol yn dyddio'n ôl i'r 1980au.
Mae Danzy Jones yn wirod wisgi meddal hen-ffasiwn gydag ychwanegiad egroes a pherlysiau ac mae gwirod Black Mountain yn gyfuniad peraroglus cyfoethog o afal a brandi cyrens duon. Byddant hefyd yn arddangos Poteen llyfn wedi'i ddistyllu deirgwaith a Wisgi Celtaidd 12 oed.
Hefyd o Ynys Môn, mae gan Plas Farm Cyf dros 20 mlynedd o brofiad yn y farchnad iogwrt rhew, gan gyflenwi iogwrt rhew probiotig heb ddim braster mewn amrediad eang o flasau.
Yn arwain y farchnad iogwrt rhew ym Mhrydain, mae Plas Farm yn cynhyrchu amrywiaeth o opsiynau o ddognau meddal i ddognau ar gyfer cyfuno a iogwrt rhew ar gyfer diodydd smwddi.
Yn yr Expo bydd yn arddangos ei amrediad o iogwrt meddal heb fraster - ar gael mewn 30 blas - ar gyfer y farchnad twf cyflym bariau Iogwrt Rhew.
Wedi'i ysbrydoli gan lethrau sgïo'r Alpau, mae fodca blas taffi Toffoc Cyf o Ynys Môn ar gael mewn poteli 70cl a photeli miniatur 5cl.
Wedi'i wneud o rawn Prydeinig wedi'i ddistyllu deirgwaith, mae Toffoc yn gryf (27.5% ABV) a heb fod yn rhy felys, gyda lliw euraid clir.
Bydd nifer o gynhyrchwyr hefyd yn arddangos yn y sioe fel rhan o Arddangosfa Deli Cymru y Gwir Flas stondin y Gwir Flas: Anne's Patisserie, Aballu, Anglesey Eggs, Blue, Caws Cenarth, Cnwd, Cocoa Magic, Hilltop Honey, Ooomeringue, Samosaco, Seren Foods, Siocled Moethus Sarah Bunton Luxury Chocolates, Siwgr a Sbeis, The Chocolate Brownie Co, a Cradocs Savoury Biscuits.
Bydd cyfle i ganfod mwy am gawsiau gwych Cymru pan gynhelir sesiwn flasu gyda thiwtor y Gwir Flas rhwng 3.40pm ddydd Sul (25 Marth) yn The Brainfood Factory at the Expo.











