Bydd cais i gael defnyddio’r enwau parth Cymreig hyn yn cael ei gyflwyno’n swyddogol i’r Internet Corporation for Assigned Names and Numbers (ICANN) yn hwyrach yn y mis. Mae hyn yn dilyn penderfyniad llynedd gan y corff sy’n gyfrifol am reoli enwau parth ar y rhyngrwyd i gynyddu’r nifer o derfyniadau posibl.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y byddai’r enwau parth newydd yn gyfle gwych i Gymru. Dywedodd:
“Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru’n flaengar ar y rhyngrwyd, a’n baner wedi’i gosod ar y map ar-lein. Bydd modd i ni ddefnyddio’r enwau parth lefel uchaf er mwyn sefydlu presenoldeb cryf ar-lein sy’n adlewyrchu ein hunaniaeth genedlaethol.”
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn hapus i geisiadau Cymru fynd yn eu blaen a bydd Nominet, y swyddfa gofrestru sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am reoli’r enwau parth .uk, yn cyflwyno’r ceisiadau yn hwyrach yn y mis.
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart:
“Bydd gan y parthau newydd y potensial i ddod â buddiannau economaidd sylweddol i Gymru. Byddan nhw’n cryfhau hunaniaeth fyd-eang Cymru, yn hyrwyddo twf busnesau ac yn annog pobl i elwa ar dechnoleg ddigidol ar draws pob sector.
”Rydyn ni’n gweithio gyda Nominet i ddatblygu’r cais er mwyn gwneud yn si?r bod y parth yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n gwneud y gorau o’r buddiannau i Gymru.”
Yn dilyn adolygiad manwl gan ICANN, disgwylir i’r parthau newydd cyntaf ddod i rym yn 2013.
Mae Nominet, sy’n rheoli’r enw parth .uk o’u prif swyddfa yn Rhydychen, wedi ymrwymo i sefydlu swyddfa yng Nghymru er mwyn darparu’r enwau parth .cymru a .wales, gan greu hyd at naw o swyddi newydd o bosib.
Dywedodd Prif Weithredwr Nominet, Lesley Cowley:
"Dyma gyfle i Gymru hawlio hafan benodol ar-lein a fydd yn cefnogi datblygiad busnesau, cymunedau, a’r iaith Gymraeg ar-lein.
“Mae Nominet yn ariannu’r cais ar gyfer parthau .cymru a .wales, ac fel sefydliad dielw, mae wedi ymrwymo i fuddsoddi’r elw yn ôl i mewn i brosiectau sy’n helpu cymdeithas Cymru. Byddwn yn rhedeg y parthau ar sail cwbl ddwyieithog ac yn cyhoeddi ein Cynllun Iaith Gymraeg cyn hir."











