Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Miliynau o bunnau wedi dod i Gymru yn sgil Cwpan Ryder

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod gwerth twristiaeth golff wedi cynyddu dros yr wyth mlynedd ddiwethaf o £23 miliwn y flwyddyn i fwy na £38 miliwn y flwyddyn.
Dydd Mercher 04 Ebrill 2012

Rhwng 2004 a 2011, mae twristiaeth golff wedi denu 1.34 miliwn o ymweliadau â Chymru gan ddod â £242 miliwn i economi’r wlad. Gwelwyd cynnydd o 36% yng nghyfanswm blynyddol yr ymweliadau â Chymru i chwarae golff yn y cyfnod hwn.

Daw’r ffigurau o Fonitor Twristiaeth Golff Cymru 2011, sydd wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 2004 i fonitro niferoedd a phroffil twristiaeth golff yng Nghymru ac i fesur faint oedd yn gwybod am Gwpan Ryder yn y blynyddoedd cyn 2010.

Yn yr un cyfnod, cafodd ymgyrch benodol ar gyfer marchnata golff yng Nghymru ei chynnal.

Mae’r data’n dangos bod cyfanswm y gwariant yn y cyfnod hwn wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn – o £23 miliwn i £38.4 miliwn – ac ym mlwyddyn Cwpan Ryder, cododd i £41.9 miliwn, yr uchaf erioed ond yn unol â’r disgwyl.

Mae pob elfen o’r ymweliad golff â Chymru’n dal i ennyn ymateb boddhaol iawn, gyda’r croeso’n cael sgôr gan ymwelwyr o 4.8 allan o 5.

Meddai’r Gweinidog Busnes Edwina Hart fod y ffigurau’n adlewyrchu llwyddiant ymgyrch farchnata Llywodraeth Cymru at flwyddyn Cwpan Ryder yn 2010.

"Llynedd, denodd Cymru 189,300 o ymwelwyr golff – y ffigur uchaf ond un yng nghyfnod y monitor. Mae hyn yn profi bod gwaddol Cwpan Ryder yn parhau.

"Nid oes amheuaeth bod cynnal Cwpan Ryder a’r ymgyrch farchnata oedd yn gysylltiedig â hi wedi codi proffil Cymru yn aruthrol fel lle i chwarae golff ac rwy’n falch iawn gweld bod y gwaith hyrwyddo hwn yn dod â buddiannau economaidd go iawn i Gymru.

"Mae’r cynnydd yn nifer ac yng ngwariant ymwelwyr yn fwy arwyddocaol am iddo ddigwydd yn ystod cyfnod ariannol anodd iawn."

Mae arolwg 2011 yn dangos bod mwy o ymwelwyr undydd nag o ymwelwyr lletya. Y newid mwyaf llynedd oedd y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr undydd o’r Deyrnas Unedig.

Roedd yr ymwelwyr lletya’n aros ar gyfartaledd am 3.8 niwrnod gydag unigolion yn gwario £469 ar gyfartaledd fesul trip – cynnydd o bron 10% o’i gymharu â 2010 ac 17% o’i gymharu â 2009.

Dywedodd Dan Clayton-Jones, Cadeirydd Panel Cynghori Llywodraeth Cymru ar Dwristiaeth, bod golff yn denu ymwelwyr sy’n gwario arian mawr ac mae Cymru wedi ennill ei phlwyf fel cyrchfan boblogaidd ar gyfer chwaraewyr golff.

"Mae canlyniadau’r llynedd yn galonogol iawn ac mae’n dda gweld bod Cymru, ers Cwpan Ryder, yn parhau’n gyrchfan golff ddeniadol, mawr ei chroeso sy’n rhoi gwerth ei harian i’r ymwelydd, waeth beth yw ei allu. Mae’n wych gweld hefyd bod y golffwyr sy’n ymweld â Chymru, p’un a ydynt wedi teithio o’r DU, Ewrop neu ymhellach, yn dweud eu bod yn fodlon iawn â’r hyn sy’n cael ei gynnig iddynt.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda diwydiant golff Cymru i ystyried sut i argyhoeddi cyfran uwch o’r ymwelwyr i aros dros nos a bydd Croeso Cymru’n parhau i weithio gyda chlybiau golff a’r clystyrau golff i ddatblygu eu gweithgarwch marchnata ymhellach, i fanteisio ar y cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o golff yng Nghymru ac i annog mwy ohonynt i ddefnyddio systemau archebu ar-lein i ddenu ymwelwyr tramor."

Mae’r Monitor wedi’i gynnal am flwyddyn ers Cwpan Ryder i fesur ei waddol gynnar ac i weld faint o’r busnes newydd sydd wedi’i gadw.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 04 Ebrill 2012 Cwpan Ryder 2010 Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i