Mae EBS Automation Ltd yn derbyn cymorth ariannol o £113,000 o’r Gronfa Twf Economaidd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn galluogi’r cwmni i ehangu ei weithlu o un ar bymtheg i hanner cant o weithwyr yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae’r cwmni’n buddsoddi £250,000 ei hun yn ei gyfleusterau ym Mharc y Dafen. Y nod yw gallu cynhyrchu mwy er mwyn ymdopi â’r gwerth tua £3 miliwn o archebion sydd ganddynt.
Bydd y buddsoddiad yn galluogi EBS i ehangu ei uned gweithgynhyrchu a’i gyfarpar, adeiladu llawr ychwanegol i ail-leoli’r timau dylunio, a gosod cyfrifiaduron soffistigedig a systemau Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) 3D.
Trwy ehangu, bydd y cwmni’n gallu cyflenwi’r archebion sydd ar gynnydd gan ei gwsmeriaid presennol yn y DU ac Ewrop, a chymryd archebion gan gwsmeriaid posibl newydd o Tsieina, Rwsia ac India.
Yn ystod ei hymweliad ag EBS heddiw, dysgodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart, y bydd y cwmni’n cyflogi un ar bymtheg aelod newydd o staff medrus y flwyddyn ariannol hon ac yn gwella’i raglen datblygu prentisiaethau i gynnwys graddedigion.
Dywedodd y Gweinidog:
“Newyddion arbennig yw clywed am gwmnïau Cymreig yn ehangu, gan fuddsoddi a chreu swyddi mewn amodau masnachu anodd, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru’n gallu cefnogi’r cwmnïau i wneud hyn.
“Mae’r Gronfa Twf Economaidd yn cyfrannu’n fawr at dwf, gan roi cyllid i fusnesau na fyddent yn medru ei gael yn y modd traddodiadol, a’u galluogi i wneud y gorau o’u cyfleoedd.”
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Mike Evans:
“Mae galw heb ei debyg o'r blaen am ein systemau robotaidd ac awtomeiddio a wneir ar archeb, oherwydd yn y dyddiau anodd hyn rhaid i gwmnïau gynhyrchu mwy a gwella’u cynnyrch.
“Ydy, mae hyn yn golygu bod llai o angen am waith llaw ar ein cwsmeriaid, ond rydyn ni wedi darganfod fod ein systemau’n creu mwy o elw iddynt a’u bod felly’n cyflogi llawer mwy o staff. Mae’n helpu’n cwsmeriaid i dyfu ac i gyflogi staff yn y tymor hir. E.e. rydyn ni’n helpu un o’n cwsmeriaid i symud ei waith gwneud partiau yn ôl i Gymru o Tsieina.
“Ein prif farchnad oedd y sector awtomeiddio ond gwnaethon ni ehangu’n ffocws yn ystod y dirwasgiad gan dargedu sectorau diwydiannol eraill. Erbyn hyn mae gennym nifer fawr o archebion ar y gweill o ystod o sectorau eraill gan gynnwys y sector fferyllol ac electronig”.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn ehangu’n gorwelion i fodloni’r galw hwn, ac mae cymorth y Gronfa Twf Economaidd wedi bod yn hanfodol i’n galluogi i wneud hynny. Mae’n golygu mai EBS fydd un o’r cwmnïau arbenigol mwyaf yng Nghymru yn y maes dylunio peiriannau ac awtomeiddio. Rydym yn falch dros ben ein bod wedi cael cymorth Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru i wneud hyn.”











