Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart y bydd y Gronfa Datblygu Digidol yn cael rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2013 ac y caiff £1.5 miliwn yn ychwanegol ei neilltuo iddi, gan ddod â'r cyfanswm ynddi i £2 miliwn.
Meddai Mrs Hart:
"Mae'r Gronfa'n cefnogi cwmnïau o bob cwr o Gymru i ddatblygu nifer o brosiectau diddorol, blaengar a masnachol sydd â'r potensial i helpu i gynnal twf sector y diwydiannau creadigol.
"Cafodd y prosiect ei lansio fel peilot i ddechrau, ac mae'n dda gen i allu cyhoeddi nawr ein bod am ei hymestyn am flwyddyn arall a neilltuo rhagor o arian iddi. Mae'r diddordeb ymhlith busnesau Cymru'n frwd gyda thros gant wedi mynegi diddordeb hyd yma."
Mae'r gronfa'n rhoi cyllid sbarduno nad oes angen ei dalu yn ôl i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau creadigol newydd y gellir eu gweithio ar draws nifer o blatfformau digidol ac mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad yn ystod ei hymweliad â Chaos Trend yn Abertawe. Mae'r cwmni arobryn hwn ar fin derbyn arian gan y gronfa i'w helpu i ddod yn un o ddatblygwyr gemau aml-blatfform cyntaf Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Chaos Trend yn datblygu gemau ar gyfer platfform Apple yn unig ond bydd grant Llywodraeth Cymru'n ei alluogi i ddatblygu gemau ar gyfer platfformau adnabyddus eraill fel Android, Symbian a Windows.
Bydd y gallu hwn i weithio ar blatfformau eraill yn cryfhau safle Chaos Trend yn y farchnad ac yn creu Eiddo Deallusol newydd fydd yn cael ei ddal yn gyfan gwbl yng Nghymru.
Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr Darren Adams:
"Ni fyddem wedi gallu cynnal y prosiect hwn na chyflogi'r staff medrus angenrheidiol heb help y Gronfa Datblygu Digidol.
"Rydym am ganolbwyntio ar ddatblygu gemau yn hytrach na datblygu meddalwedd ac mae'r gronfa yn rhoi'r cyfle inni gystadlu o ddifri yn un o ddiwydiannau mwyaf cystadleuol y byd."











